Skip page header and navigation

Telerau ac Amodau

Ymwadiad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i bob Gwefan a gyhoeddir gan y Brifysgol, neu gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, sy’n defnyddio amrywiad ar enwau parth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y lleolydd adnoddau unffurf (URL) (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i *.uwtsd.ac.uk/*, *.ydds.ac.uk/*, *.tsd.ac.uk/*, *.pcydds.ac.uk/*).

Er i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gymryd pob gofal rhesymol wrth ddarparu deunydd ar ffurf electronig, ni all y Brifysgol fod yn gyfrifol am gamgymeriadau, ansawdd na chywirdeb gwybodaeth a deunydd arall a ddarperir ar wefan/ gwefannau’r Brifysgol.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i wefan/gwefannau’r Brifysgol yn ddirybudd.

Nid yw deunydd sydd ar gael ar wefan/gwefannau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sail i unrhyw gontract gyda’r sawl sy’n ei ddarllen a’i ddefnyddio.  Ni fydd y Brifysgol yn atebol ar unrhyw achlysur am golled neu ddifrod a ddioddefir gan unrhyw unigolyn, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, sy’n defnyddio neu’n dibynnu ar unrhyw ddeunydd a ddarperir ar wefan/gwefannau a/neu fewnrwyd y Brifysgol.

Nid yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am gynnwys a chyflwyniad unrhyw wefannau allanol y mae’n cysylltu â nhw, na dolenni o fewn y rheiny, gan gynnwys tudalennau allanol sydd â dolenni at wefan/gwefannau y Brifysgol, neu’r rhai a grëwyd gan unrhyw sefydliad arall sy’n gysylltiedig neu ddim yn gysylltiedig â’r Brifysgol. Ni all y Brifysgol warantu y bydd y dolenni hyn ar gael bob amser.

Datganiad Hawlfraint Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Oni nodir fel arall, mae hawlfraint yr holl ddeunydd a gyhoeddir ar wefan/gwefannau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn eiddo i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  Cedwir pob hawl.