Skip page header and navigation

Prifysgol ddwyieithog

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymrwymedig fel sefydliad addysg uwch sy’n darparu addysg a gwasanaethau dwyieithog yn unol â dewis yr unigolyn. Amlygir hyn yn ei rôl fel arweinydd sector ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a thrwy ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r dyletswyddau sydd wedi’u hamlinellu yn Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sicrhau bod i’r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Golyga hyn na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Mae hefyd yn fodd o sefydlu fframwaith cyfreithiol sy’n gosod dyletswydd ar y Brifysgol ynghyd â sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru i gydymffurfio â Safonau penodol sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Image of Cymraeg logo
Yn yr adran hon
  • Beth yw Safonau’r Gymraeg?
  • Sut mae’r Brifysgol yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau? 
  • Beth yw’r hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg?
  • Gweithdrefn Gwyno yn ymwneud â’r Gymraeg

Beth yw Safonau'r Gymraeg?

Mae Safonau’r Gymraeg, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018, yn amlinellu’r gwasanaethau y bydd y Brifysgol yn eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg a sut y bydd y Brifysgol yn sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i faterion y Gymraeg mewn unrhyw benderfyniadau polisi neu strategaeth.

Nod y Safonau yw:
01
Rhoi mwy o eglurder i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg
02
Rhoi mwy o eglurder i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg am y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn y Gymraeg
03
Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaeth Cymraeg a gwella eu hansawdd.
Trefnir Safonau’r Gymraeg o dan 4 Prif Safon:
  • Yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau. Eu nod yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg, neu i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau.

  • Mae’r Safonau hyn yn gofyn i Swyddogion ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau polisi yn ei gael ar allu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a’r egwyddor arweiniol i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Mae’r Safonau hyn yn ymdrin â’r ffordd y mae’r Brifysgol yn defnyddio’r Gymraeg yn fewnol ac yn hyrwyddo’r cysyniad o weithle dwyieithog, gan roi  hawliau ieithyddol i weithwyr wrth dderbyn eu Gwasanaeth Adnoddau Dynol. 

  • Mae’r Safonau  hyn yn ymdrin â systemau  cadw data a chofnodion am rai o’r Safonau eraill. Mae’n cynnwys cadw cofnod o ddewis iaith defnyddwyr gwasanaeth, yghyd â chadw cofnod o sgiliau iaith y gweithlu, hyfforddiant a’r drefn recriwtio.

Hysbysiad Cydymffurfio:

Gweler isod gopi o hysbysiad cydymffurfio terfynol Prifysgol Y Drindod Dewi Sant a gyflwynwyd i’r sefydliad gan Gomisiynydd y Gymraeg (Medi 2017), sy’n rhestru’r Safonau y mae’n rhaid i’r Brifysgol gydymffurfio â hwy. 

Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Safonau yn golygu na ddylai’r Brifysgol drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg; sef ei gwneud hi’n haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cefnogi amcan y Brifysgol i barhau i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Sut mae'r Brifysgol yn sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg?

Mae’r Brifysgol yn bwriadu cydymffurfio â’r Safonau ar draws ei holl gampysau yng Nghymru yn unol â’r disgwyliadau a nodwyd yn yr Hysbysiad Cydymffurfio.

Darperir sesiynau hyfforddiant ar gyfer rheolwyr i ymgorffori’r Safonau, hyrwyddo cyfleoedd dysgu ac rhannu arfer gorau a  syniadau.

Mae tudalen benodol ar ein mewnrwyd yn darparu canllawiau ac adnoddau i gefnogi staff i weithredu’r Safonau a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ar draws y Brifysgol.

Mae gweithdrefnau monitro mewnol yn cael eu sefydlu i fonitro cydymffurfiaeth.

Mae Swyddog Safonau’r Gymraeg a’r Uned Llywodraethiant Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg, a dyma’r prif bwynt cyswllt gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn unol â Safonau’r Gymraeg, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi Cynllun Cydymffurfio, sy’n amlinellu sut mae’r Brifysgol yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac yn monitro cydymffurfiaeth. 

Rhaid i’r Brifysgol hefyd lunio adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, gan fanylu ar y dull mae’r Brifysgol wedi cydymffurfio â’r Safonau y mae’n ddarostyngedig iddynt:

Beth yw'r hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg?

Mae gennych chi, fel myfrywyr sy’n astudio yng Nghymru, ystod o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol. 

Pan fyddwch yn cofrestru fel myfyriwr yn y Brifysgol am y tro cyntaf, gofynnir i chi am eich dewis iaith - Cymraeg neu Saesneg. Nodir y wybodaeth hon ar eich cofnod myfyriwr fel bod staff yn ymwybodol pan fyddant yn cyfathrebu â chi. Mae Safonau’r Gymraeg sydd wedi’i gosod ar y Brifysgol yn eich galluogi i dderbyn y  canlynol yn Gymraeg: 

  • Gohebiaeth
  • Ffurflenni
  • Gwasanaethau cwnsela
  • Ceisiadau am gymorth ariannol
  • Cyfarfodydd
  • Llyfrynnau Croeso
  • Tystysgrifau
  • Y gallu i gyflwyno asesiadau yn Gymraeg (traethodau, arholiadau, ac ati)
  • Tiwtor personol
  • Prosbectws

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn llwyr gefnogi eich hawliau fel myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ac rydym yma i’ch cefnogi. Cofiwch mai eich hawliau chi fel myfyrwyr yw’r rhain.  Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r hawliau hyn os byddai’n well gennych dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.

Bydd y Brifysgol yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Os ysgrifennwch atom yn Gymraeg, byddwn yn ymateb yn Gymraeg. Os nad ydym yn gwybod eich dewis iaith, byddwn yn gohebu â chi’n ddwyieithog. 

Nodwch mae eich hawliau yn berthnasol i’r gweithgareddau a restrir yn yr Hysbysiad Cydymffurfio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Safonau’r Gymraeg neu am gyngor pellach,  cysylltwch â iaithgymraeg@pcydd.ac.uk, byddwn yn hapus i gynnig cyngor ac arweiniad.

Mae hawliau staff y Brifysgol wedi’u diogelu o dan Safonau’r Gymraeg er eu bod yn wahanol i hawliau’r cyhoedd a myfyrwyr. Maent yn cynnwys materion fel yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn perthynas â datblygiad proffesiynol a chyflogaeth, ac maent wedi’u rhestru yn y set o Safonau Gweithredol. 

Darperir arweiniad ynghyd â rhagor o wybodaeth ar gyfer staff ar y fewnrwyd.

Gweithdrefn gwyno yn ymwneud â'r Gymraeg

Os bydd aelod o’r cyhoedd, myfyriwr neu aelod o staff yn teimlo nad yw’r sefydliad wedi cydymffurfio ag un neu fwy o’r Safonau neu bydd ganddynt bryderon ynghylch y defnydd o’r Gymraeg, cânt gyflwyno cwyn. Mae’r weithdrefn isod yn disgrifio’r broses cwynion i’w dilyn mewn sefyllfa o’r fath.

    • Fel arfer gellir datrys cwynion yn gyflym ac yn foddhaol yn anffurfiol. Os oes modd, dylech gysylltu â’r aelod staff sy’n ymwneud yn fwyaf uniongyrchol â’r sefyllfa, gyda’r bwriad o ddatrys eich pryderon yn anffurfiol.
    • Dylid gwneud cyswllt o’r fath cyn gynted ag y bo modd ac o fewn 20 diwrnod gwaith fan bellaf wedi i’r sefyllfa godi.
    • I wneud cwyn ffurfiol rhaid i chi:
      • Lle bo’n bosibl, ceisio datrys y mater yn anffurfiol (gweler 6 (uchod)) trwy gysylltu â’r aelod o staff sy’n ymwneud yn fwyaf uniongyrchol â’r sefyllfa, a bod â rheswm da dros ystyried nad yw’r mater wedi’i ddatrys yn foddhaol.

        Llenwi Ffurflen Cwynion Y Gymraeg (Atodiad 1) a’i chyflwyno o fewn 30 diwrnod gwaith wedi i’r sefyllfa godi. Gellir llenwi’r ffurflen hon yn Gymraeg neu Saesneg a dylid ei chyflwyno i iaithgymraeg@pcydds.ac.uk. Fel arall, gellir llenwi’r ffurflen ar-lein ar y Wefan.

        Fel arfer, bydd y Swyddog Safonau’r Gymraeg yn cydnabod eu bod wedi derbyn eich ffurflen o fewn pum diwrnod gwaith, ac yn trefnu i swyddog priodol yn y Brifysgol ymchwilio i’ch cwyn.
    • Y swyddog a benodir i ymchwilio i’ch cwyn sy’n gyfrifol am bennu’r camau sydd eu hangen i ymchwilio i’r cwyn a dod ag e i gasgliad boddhaol. Gallai’r rhain gynnwys cwrdd â’r partïon sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r mater. Bydd ef/hi’n darparu ymateb ysgrifenedig llawn i’ch cwyn, fel arfer o fewn 20 niwrnod gwaith. Os na ellir cwblhau’r ymchwiliad o fewn yr amser hwnnw am reswm da (megis nad yw staff ar gael, neu am fod y mater yn gymhleth), rhoddir cyfradd amser diwygiedig i chi.
       
    • Pan wneir y cyflwyniad yn rhan o weithdrefn gwyno arall y Brifysgol, er enghraifft cwyn myfyriwr neu staff, caiff ei reoli mewn cydweithrediad â’r ymchwiliadau a’r amserlenni hynny. Cyn cychwyn unrhyw weithdrefnau ffurfiol, bydd y Brifysgol yn ystyried pa weithdrefn(au) yw’r mwyaf priodol i’w defnyddio, mae’n bosib y gall dau bolisi gael eu defnyddio. Pan fo dau neu fwy o bolisïau neu weithdrefnau’n berthnasol ar yr un pryd, fel arfer bydd un o’r polisïau yn cael ei ystyried fel y prif bolisi o ran y broses. Bydd achwynwyr yn cael gwybod pa bolisïau a gweithdrefnau fydd yn cael eu defnyddio.
    • Os ydych yn anfodlon â’r ymateb ysgrifenedig i’ch cwyn ffurfiol, gallwch ofyn i’r mater gael ei gyfeirio at aelod o Uwch Gyfarwyddiaeth y Brifysgol gan ddefnyddio’r Ffurflen Adolygu Terfynol (Atodiad 2).
       
    • Fel arfer, bydd Swyddfa’r Is-Ganghellor yn cydnabod derbyn eich ffurflen o fewn pum diwrnod, ac yn trefnu i ganlyniad eich cwyn gael ei adolygu gan yr aelod priodol o’r Uwch Gyfarwyddiaeth.
       
    • Yr aelod o’r Uwch Gyfarwyddiaeth sy’n gyfrifol am bennu p’un a oedd canlyniad y cwyn yn gadarn. Darperir y casgliadau yn ysgrifenedig, fel arfer o fewn 20 niwrnod gwaith. Os na ellir cwblhau’r adolygiad o fewn yr amser hwnnw am reswm da (megis nad yw staff ar gael, neu am fod y mater yn gymhleth), rhoddir cyfradd amser diwygiedig i chi.
       
    • Mae penderfyniad yr aelod o’r Uwch Gyfarwyddiaeth yn derfynol ac ni fydd llwybr adolygu pellach o fewn y Brifysgol.
    • Os byddwch yn anfodlon ar ganlyniad y broses Adolygiad Terfynol, cewch apelio i Gomisiynydd y Gymraeg. Bydd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried y wybodaeth a ddarparwyd ac yn cysylltu â’r Brifysgol am wybodaeth bellach. Ceir manylion pellach y broses apelio ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.     
    • Mae disgwyl i’r Brifysgol gadw cofnod o bob cwyn ffurfiol yn ymwneud â’i defnydd o’r Gymraeg. Rhoddir diweddariad i gyfarfodydd Pwyllgor y Gymraeg ac i Bwyllgor Academaidd Cyngor y Brifysgol.
    • Mae disgwyl i’r Brifysgol gadw cofnod o bob cwyn ffurfiol yn ymwneud â’i defnydd o’r Gymraeg. Rhoddir diweddariad i gyfarfodydd Pwyllgor y Gymraeg ac i Bwyllgor Academaidd Cyngor y Brifysgol.