Skip page header and navigation

Lefel 3 SKIP-Cymru

Modwl Cefnogi Datblygiad Corfforol yn ystod Plentyndod Cynnar (20 credyd)

Mae’r cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o symud o safon fel y gallwch gefnogi plant a theuluoedd â phrofiadau datblygiadol briodol.

Cyflwynir damcaniaethau a chynnwys trwy lwyfan e-Ddysgu ar-lein rhyngweithiol, y gellir cael mynediad iddo yn eich amser eich hun.

Mae tasgau a gweithgareddau i wirio gwybodaeth yn cefnogi eich dealltwriaeth cyn y gweithdai wyneb yn wyneb.

Mae 2 weithdy wyneb yn wyneb dan arweiniad arbenigwyr, a gyflwynir dros nifer o wythnosau, yn eich galluogi i gymhwyso strategaethau yn eich arfer eich hun. Mae Gweithdy 2 yn rhoi cyfle i fynd i’r afael â heriau penodol o’ch lleoliadau chi.

Two young women sit on the floor of a gym, rolling a ball between them.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra?

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at yr holl staff sy’n cefnogi gweithgarwch corfforol pobl ifanc mewn lleoliadau addysg, iechyd, hamdden a chymunedol.

Er enghraifft….

  • Cynorthwywyr addysgu, staff meithrinfa a Meithrin
  • Ffisiotherapyddion, ymwelwyr iechyd, dieteg, bydwragedd
  • Datblygu chwaraeon, hamdden, a staff cymunedol

Beth yw strwythur yr hyfforddiant?

Gweithdai ymarferol

  • Bydd angen i chi fynychu 2 ddiwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb dros nifer o wythnosau.

Dysgu o Bell

  • Byddwch yn cwblhau pump awr o theori hyblyg ar-lein.

Offer

  • Er mwyn cael yr effaith fwyaf ar ddatblygiad corfforol plant, mae angen iddynt gael mynediad at amrywiaeth o offer priodol.Gallwn eich cynorthwyo gydag archwiliad o’ch darpariaeth gyfredol.

Asesu

  • Cynhelir yr asesu drwy’r llwyfan e-Ddysgu ar-lein.

Dyddiadau Dechrau a Chostau

Pryd gallaf ddechrau?

I gael gwybod am ddyddiadau cyrsiau ac i gadw lle ar gwrs, anfonwch e-bost at  kirsty.edwards@pcydds.ac.uk.

Faint mae’r hyfforddiant yn costio?

Mae’r cwrs SKIP-Cymru Lefel 3 yn costio £300 y pen. Rydym yn cynnig gostyngiadau am nifer o fwciadau.

Assessment

Assessment is a two hour exam through the online eLearning platform.