Skip page header and navigation

Casgliad yr Esgob Thomas Burgess

Casgliad yr Esgob Thomas Burgess

Yn ei ewyllys gadawodd yr Esgob Thomas Burgess (1756-1837) ei lyfrgell bersonol o tua 9 000 o gyfrolau i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.  Casgliad gwaith ydyw yn bennaf a gynullwyd yn ystod oes o ymroi i astudio’r clasuron, llenyddiaeth, hanes, hynafiaethau a diwinyddiaeth, ac mae llawer o’r gweithiau wedi’u hanodi gan Burgess ac felly’n cynnig cipolwg ar ei ddiddordebau ysgolheigaidd a diwinyddol.

Collection

  • Roedd Burgess yn ysgolhaig yn y Clasuron yn ifanc iawn a pharhau wnaeth ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth glasurol gydol ei fywyd. Arwydd o’i ddiddordebau penodol yw’r ddwy gyfrol a gyhoeddwyd yn Fenis yn y bymthegfed ganrif, sef Rhetorica Aristoteles, a argraffwyd yn 1481, ac Introductivae grammaticis Theodore Beza, a argraffwyd ryw bedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach.

  • Ym Mhrifysgol Rhydychen daeth Burgess o dan adain y clasurwr a’r golygydd gwyddonol cyntaf o waith Chaucer, Thomas Tyrwhitt. Cymaint oedd bri academaidd Burgess nes iddo, cyn gadael Rhydychen am Gadeirlan Durham, oruchwylio’r gwaith o lywio trwy’r wasg gywiriad Tyrwhitt o’r De Poetica a argraffwyd yn 1794.Yn ei ewyllys gadawodd Tyrwhitt gopi o argraffiad 1536 Aldine o’r De Poetica i Burgess. Cofnodir y rhodd yn y llyfr gan Burgess sy’n rhoi’r dyddiad 7 Rhagfyr, 1797. Nodwedd atyniadol arall ynglŷn â’r gyfrol hon yw’r rhwymo Eidalaidd cyfoes, cefnyn felwm a byrddau wedi eu gorchuddio â phapur coch wedi’i foglynnu ac arno batrymau blodeuog a fasau.  Mae llofnod perchennog blaenorol, W Carte, hefyd yn bresennol, ac mae gwahanol bobl wedi gwneud nodiadau ar y testunau Lladin a Groeg.

    Mae nifer o deitlau diddorol eraill yn ychwanegu bri i gasgliad Burgess o waith Aristotle, gan gynnwys dau ffolio o argraffiad Causabon 1605 â stamp Abaty San Steffan arnynt, ynghyd â’r deg cyfrol bedwarplyg (cwarto) mewn Groeg o argraffiad cyflawn Frankfurt 1577-87, a nodweddir gan brif lythrennau addurnedig cain a darluniau achlysurol.  Gwelir rhagor o draethodynnau gan Aristoteles mewn cyfrolau cyfansawdd megis Rhetores in hoc volumine Aldine, a argraffwyd yn 1508.

  • Ychwanegir at ramadeg Groeg Gaza gan y deg cyfrol ffolio o Thesaurus grecae linguae gan Stephanus, (Llundain 1816-1822) a nifer o argraffiadau o’r Flodeugerdd Roeg, yn enwedig argraffiad Leipzig 1794-1814 gan Brunck.

    Cymaint oedd diddordeb Burgess mewn astudio Homer nes iddo gyhoeddi ei argraffiad beirniadol ei hun o’r enw Initia Homerica (1788). Mae copi Burgess yn cynnwys cywiriadau niferus ar y testun a nodau prawf ddarllen priodol gan Burgess ei hun sy’n arwydd posibl o argraffiadau arfaethedig yn y dyfodol. Ymhlith y gweithiau eraill gan Homer mae tair cyfrol ffolio o esboniad Eustathius ar yr Iliad a’r Odyseia a gyhoeddwyd gan Froben yn Basel yn 1559.

    Ymhlith y gweithiau nodedig eraill yn y casgliad mae deuddeg cyfrol bedwarplyg o Bibliotheca Graeca Fabricius (1790) a’r ffolios mawr: Tertullianus (Paris, 1675), Strabo (1807) yn argraffiad cain Gwasg Clarendon, Aristophanes (Leipzig, 1710), Diodorus Siculus (Amsterdam, 1746), Photius (Rouen, 1653), a Herodotus (Amsterdam, 1763).

  • Un o ddiddordebau cyhoeddi Burgess oedd golygu nifer o lyfrau gramadeg a gwerslyfrau Hebraeg. Pwysleisia’n barhaus fod goblygiadau deallusol a moesol i’r astudiaeth o’r Hebraeg. Does dim dwywaith nad oedd yn hollbwysig i astudiaethau ysgrythurol. Wrth bori trwy gatalog ei gasgliad ceir syniad pendant o ddiddordebau ieithyddol Burgess. Gwelir gwaith Richardson, Grammar of the Arabic language (1801) a Lingua sacra Levi (1803), Persian Interpreter Moises  (1792) a Lexicon Syriacum Schaaf (1717). Mae wyth cyfrol Christopher Saxe, Onomasticon literarium, yn dal sylw, ynghyd â dwy gyfrol ffolio o waith Edward Lye, sef y Dictionarium Saxonico et Gothico-Latinum-Biblicum (1765).

    Ymddengys nad oedd gan Burgess ddiddordeb yn archaeoleg yr hen fyd. Fodd bynnag, roedd ganddo gopi o waith Lechavalier, Description of the Plain of Troy (1791), a oedd yn feirniadol o fap Wood o’r gwastatir, ond rhodd oedd hwn gan gyfieithydd y gwaith, Andrew Dalzel.

  • Chwaraeai Burgess ran weithredol mewn dadleuon crefyddol cyfoes. Mae ei lyfrgell yn adnodd cyfoethog ar gyfer astudio’r testunau llosg niferus ynghylch crefydd yn ei ddydd. A rhoi un enghraifft:   adlewyrchir y feirniadaeth a daniwyd gan sylwadau Gibbon am gynnydd Cristnogaeth yn y ffaith fod gan Burgess bum cyfrol, gan Davis, Chilsum, Apthorp, Eyre, a Loftus, a phob un ohonynt wedi eu cyhoeddi yn 1778, ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r gyfrol gyntaf o waith hanesyddol Gibbon. Hon oedd blwyddyn graddio Burgess yn ddwy ar hugain oed.


     

  • Roedd gan Burgess ddau gopi godidog o Feibl y Fwlgat, y naill yn llawysgrif a’r llall yn argraffiad. Roedd angen dros dair blynedd o lafur i wneud y llawysgrif o’r Fwlgat, a gwblhawyd yn 1279 gan Sieffre o Frecamp, ac a ariannwyd fwy na thebyg gan Iago, abad Saint-Pierre-sur-Dives, ger Liseaux, Calvados. Roedd iddo darddiad amrywiol, ond mae’n debyg i’r llawysgrif gyrraedd Lloegr trwy law’r Carthwsiaid yn y 15fed neu’r 16eg ganrif. I gyd-fynd â harddwch y miniaturau a’r llawysgrif yn y Fwlgat Normanaidd hwn o’r 13eg ceir argraffu cymen mewn wyneb teip rotwnda ynghyd ag ymylon clasurol ym Meibl Fenisaidd Nicolas Jenson (1476) ac enw’r perchennog yn ysgrifenedig arno: ‘Collegij Paris. Societ. Jesu.’. Roedd gan Burgess un incwnabwlwm nodedig arall yn ei feddiant, sef y Golden Legend gan de Worde (1498).

    Fodd bynnag, efallai mai pennaf nodwedd y casgliad yn ei gyfanrwydd yw nifer o fersiynau argraffedig gwych o’r Testament Newydd Groeg.  Meddai Burgess ar y gyfrol ar y Testament Newydd ym Meibl Amlieithog Complutum a luniwyd gan y Cardinal Ximenes yn Alcala, lle gwelir y teip Groeg harddaf a luniwyd erioed. Nid llai deniadol nag urddas Sbaenaidd y Complutum oedd 3ydd argraffiad (1522) Testament Newydd Groeg Erasmus a argraffwyd yn Basel gan Froben, a’r addurn trymach ond mawreddog oddi amgylch o waith Urs Graf. Yn yr un a argraffwyd gan Simon de Colines (Paris, 1534) ceir y ddyfais ‘Tempus’ enwog ac ymylon blodeuog coeth, ac mewn ffolio o’r Testament Newydd a argraffwyd yn Frankfurt (1601) gwelir testun Stephanus. Yn ategu’r rhain mae nifer o Destamentau’r 18fed ganrif yn enwedig ffolio godidog o 1710.

    Aeth Testamentau Newydd Syrieg hefyd â sylw Burgess. Roedd ganddo 3ydd argraffiad o Guy Lefèvre de la Boderie (Paris, 1584) mewn llythrennau Hebraeg gyda chyfieithiad Lladin mewn ffont llai rhwng y llinellau. Mae’r rhwymo ar y gwaith hwn mewn dwy gyfrol yn atgoffa dyn o waith cynharach yr enwog Roger Payne yn Eton, ond ymddengys na ddenwyd Burgess i’r maes hwn ym myd celfyddyd llyfrau. Ar Destament Newydd Syrieg a olygwyd gan Adler (Hafniae, 1789) gwelir platiau ysgythrog arbennig o godecsau llawysgrif.

  • Roedd gan Burgess gasgliad hardd o ffolios mawr tadau’r Eglwys fore:

    pedair cyfrol Origen (Paris, 1733-1759); tair cyfrol ar ddeg Chrysostom a olygwyd gan Montfaucon (Paris, 1718-38) ynghyd â’r llawysgrifen sy’n eu priodoli i’r ‘Bibliotheca Bellorepariensis’; chwe chyfrol Cyril (Paris, 1638); tair cyfrol Cyprian (Amsterdam, 1700). Ceir hefyd Thesaurus Temporum Eusebius, a olygwyd gan Scaliger (Amsterdam, 1658), a Bibliotheca Librorum Photius (Rothomagi, 1653), sef adolygiad crynodol o 280 o weithiau a ddarllenwyd gan Photius, y mae llawer ohonynt bellach wedi eu colli.

  • Ceir detholiad o weithiau ac esbonwyr yr un mor fawr ym maes Hanes yr Eglwys: Laws Hooker (1666), argraffiad cain Caergrawnt o waith Beda (1722); Relation Laud (1639); Concilia Spelman (1639); y gwaith cynhennus De Doctrina Christiana gan Milton, yr oedd Burgess yn ddiflino ei ymdrechion i wrthbrofi ei awduriaeth; llafur swmpus Dupin yn argraffiadau Paris, Llundain, a Dulyn. Ceir hefyd yr History of the Evangelical Churches of the Valleys of Piemont gan Morland (1658), a’r Histoire des Juifs gan Basnage de Beauval (1716) a’r History of the Popes gan Bower (1748-66).

  • Prin oedd diddordeb Burgess ym meysydd athroniaeth bur. Yr unig lyfr gan Locke yn ei feddiant oedd The Reasonableness of Christianity (1748); ac un o’r ychydig weithiau o bwys yw llyfr Shaftesbury, Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times (1727). Fel arall, ni cheir ond arolygon cyffredinol megis gwaith Gesner, Primae Lineae Isagoges in Erudition Universalem (Lipsae, 1774-75) sy’n cynnwys nodyn eofn yn ei lawysgrifen ei hun yn datgan: ‘An introduction to Universal Erudition should begin with the History of Learning for the same reason that an introduction to philosophy should begin with a History of Philosophy‘.

  • Golygwyd Opera Newton (1779-85) gan Samuel Horsley, sef rhagflaenydd Burgess yn Esgob Tyddewi, ac mae’n debyg mai hwn yw’r prif reswm ei fod yn y casgliad. Un o’r cyfrolau gwyddoniaeth cynharaf yw esboniad Proclus ar Euclid (1560); un o’r gweithiau diweddaraf yw anerchiad agoriadol darllenydd cyntaf Rhydychen mewn daeareg, sef William Buckland. Ceir hefyd waith Buckland Reliquae Diluvia … attesting the action of an universal deluge (1823), a roddwyd i Burgess gan yr awdur. Roedd Buckland a Burgess ill dau yn Wykehamiaid ac yn Gymrodyr yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen. Aeth Buckland yn ei flaen i fod yn Ddeon San Steffan a Llywydd y Gymdeithas Ddaearegol, wrth i Burgess yntau gael ei ddyrchafu’n esgob ac yn Llywydd Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth.

    Yr argraff a roddir gan yr ychydig weithiau o hanes naturiol yn y casgliad yw un o leygwr a oedd yn ymddiddori yn y maes. Un o’r llyfrau yw Naturalist’s Calendar Gilbert White (1795), a brynwyd o bosibl o deyrngarwch at frodor arall o swydd Hampshire (ganed Burgess yn Odiham), ynghyd â Flora Rustica Thomas Martyn (1792) a’i blatiau ysgythrog deniadol a liwiwyd â llaw. Ceir hefyd yn y casgliad ddau waith meddygol,  Biographia Medica Benjamin Hutchinson (1799), a’r mynegair mawr cyntaf o weithiau Hippocrates, yr Oeconomia (Frankfurt, 1588), a brynwyd o bosibl am resymau ieithyddol.