Skip page header and navigation

Ffydd ac Ysbrydolrwydd yn PCYDDS

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn estyn croeso cyfartal i’r rhai sy’n arddel ffydd grefyddol a’r rhai sydd heb ffydd.

Mae’n ceisio bod yn gymuned gynhwysol lle mae anghenion pawb yn cael eu cydnabod, a lle mae cefnogaeth ar gael. Mae rhan o’r ymrwymiad hwn yn cynnwys sicrhau bod yr holl staff a myfyrwyr yn cael cyfleoedd i archwilio a dathlu crefydd, weithiau trwy gymunedau ffydd lleol y tu hwnt i’r brifysgol. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o gampws i gampws o ganlyniad i’r sylfaen hanesyddol a’r cyd-destun presennol.

Nid rhywbeth i’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn grefyddol yn unig yw’r ddarpariaeth Ffydd ac Ysbrydolrwydd. Gall gynnwys cyfleoedd i gwrdd ag ystod amrywiol o bobl ddiddorol trwy ddigwyddiadau cymdeithasol neu wrando ar siaradwyr diddorol, yn ogystal â chyfleoedd i ymroi mwy i faterion yn ymwneud â heddwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd neu i gymryd rhan mewn elusennau a gwirfoddoli.

Yn fyr, nod y ddarpariaeth Ffydd ac Ysbrydolrwydd yw cyfoethogi profiad pawb o’r brifysgol, gan alluogi i bob aelod o’r brifysgol ddatblygu agwedd aeddfed, wybodus at fywyd a chynnig eu hunain i wasanaethu eraill. Y nod yw helpu unigolion i fod yn gyfoethocach ac yn llawn brwdfrydedd er mwyn cyflawni eu potensial yn llawn - yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn ysbrydol.