Skip page header and navigation

Ysgolion Haf ACILC

Ysgolion Haf Rhyngwladol

Mae WAHPL yn cynnal ysgolion haf cyffrous i fyfyrwyr Rhyngwladol yma yn ne-orllewin Cymru. Mae’r ysgolion haf yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi tirwedd amrywiol a hardd Cymru, gan ymweld â thraethau a mynyddoedd anghysbell gwyllt, henebion a chestyll hanesyddol.

Gall myfyrwyr brofi antur ar eu lefel eu hunain drwy ein hathroniaeth o her drwy ddewis a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd newydd a chyffrous. Mae ein hysgol haf yn rhedeg bob blwyddyn ac fel arfer yn para rhwng 2 a 3 wythnos, ac ar ôl  hynny mae myfyrwyr yn cael yr opsiwn i naill ai ddychwelyd adref neu barhau i deithio. Mae ysgolion yr haf yn cyfuno gweithgareddau antur awyr agored, profiadau diwylliannol, chwaraeon a gweithgareddau a chyfleoedd i weld. Gellir eu teilwra i ddiwallu anghenion sefydliadau unigol yn dibynnu ar anghenion y myfyrwyr.

Yn rhan o’r ysgol haf, mae myfyrwyr hefyd yn gallu ennill credydau i’w defnyddio yn ôl yn eu prifysgol eu  hunain.

Oriel

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am ysgolion haf WAHPL, anfonwch e-bost at Kirsty Edwards yn kirsty.edwards@uwtsd.ac.uk

Cewch fwy o wybodaeth am arlwy’r Drindod Dewi Sant o ran ysgolion haf ar y tudalennau rhyngwladol.