Skip page header and navigation

Bywyd Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae’r DU yn lle gwych i dreulio’r amser gwerthfawr hwn yn eich gyrfa addysgol, p’un ai a ydych yn dewis astudio ar un o’n campysau yng Nghymru, yn Llundain neu Birmingham. Mae un peth yn sicr, cewch brofiad cofiadwy. Mae gennym raglen astudio dramor sydd wedi’i sefydlu ers tro sy’n croesawu nifer o fyfyrwyr rhyngwladol llawn amser bob blwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o raglenni cyfnewid ar y cyd gyda’n sefydliadau partner ar gyfer rhaglenni semester neu ysgolion haf.

Mae penderfynu ble i astudio yn benderfyniad enfawr, ac yn un a allai newid eich bywyd! Nid yn unig y mae’n gyfle i chi gael persbectif rhyngwladol ar eich astudiaethau, ond byddwch hefyd yn dysgu am ddiwylliant, hanes a ffordd wahanol o fyw. 

Bydd astudio rhaglen ryngwladol, wrth gwrs, yn rhoi gwybodaeth academaidd gadarn i chi, ond mae hefyd wedi’i strwythuro i’ch galluogi i fwynhau’r amrywiaeth gyfoethog o brofiadau diwylliannol a chymdeithasol sydd ar gael i chi ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Dewis Rhaglen Academaidd a Sut i Wneud Cais?

Rhes o fyfyrwyr yn cerdded ar lwybr

Rhaglen Academaidd

Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o gyrsiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cewch fanylion llawn am y cyrsiau sydd ar gael ar ein tudalennau cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ar y wefan.

Myfyrwyr yn gwenu gyda choed yn y cefndir

Sut i Wneud Cais

P’un ai a ydych am gyflwyno cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol neu wneud cais trwy asiant yn eich gwlad chi, mae astudio mewn gwlad wahanol yn gallu bod yn anodd, ond rydym yma i helpu. Edrychwch ar ein hadran Ceisiadau Rhyngwladol i gael cyngor ar sut i fynd ati i wneud cais.

students on Trolltunga rock

Astudio Dramor a Chyfleoedd Cyfnewid

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n chwilio am brofiad astudio byrrach ond sydd eto’n cyfoethogi. Rydym yn deall na all pawb ymrwymo i raglen astudio dramor llawn amser, a dyna pam rydym yn cynnig yr opsiwn i astudio gyda ni am un semester. Mae’n gyfnod cywasgedig sy’n caniatáu i chi ymgolli mewn amgylchedd academaidd a diwylliannol newydd heb yr ymrwymiad hirdymor. P’un ai a ydych am wella’ch persbectif byd-eang neu ddim ond eisiau cael blas ar fywyd yn ein sefydliad, fe welwch fod opsiwn sy’n addas i chi gyda’n cyfleoedd i astudio dramor am semester.  

Students next to historic sign

Ysgolion Haf

Mae’r Brifysgol yn cynnig ysgolion haf cyffrous yn rheolaidd i fyfyrwyr rhyngwladol ar ein campysau yn ne-orllewin Cymru. Rydym yn cynnig rhaglen bwrpasol ar gyfer Prifysgolion o bob cwr o’r byd.

Mae’r ysgolion haf fel arfer yn para 3-4 wythnos ac fel arfer mae gan fyfyrwyr yr opsiwn naill ai i ddychwelyd adref neu barhau i deithio ar ôl i’r ysgol faes ddod i ben. Mae’r ysgolion haf hefyd yn cynnwys rhaglen ddiwylliannol i ymweld â lleoedd diwylliannol o amgylch Cymru ac ardaloedd eraill yn y DU.

Paratoi ar gyfer cyrraedd

  • Mae Cyngor y DU ar Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA), elusen sy’n cynrychioli buddiannau myfyrwyr rhyngwladol, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Brexit, mewnfudo, bywyd yn y DU a materion tebyg. Maen nhw hefyd yn rhedeg Llinell Gyngor i Fyfyrwyr ac mae ganddyn nhw ganllawiau defnyddiol iawn cyn i chi gyrraedd y Deyrnas Unedig.

  • Ymgeiswyr Rhyngwladol - sydd wedi’u lleoli dramor

    Sylwch y bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno’r dogfennau ategol canlynol fel rhan o’r broses ymgeisio:

    Rydym yn gofyn am enwebiad gan ein partneriaid tramor ar gyfer pob myfyriwr Cyfnewid sy’n dewis PCYDDS.

    Rhaid i bartneriaid anfon manylion y myfyrwyr enwebedig i’r Uned Recriwtio Rhyngwladol, sy’n cynnwys eu henw llawn, y pwnc y maen nhw’n ei astudio ar hyn o bryd a’r maes pwnc arfaethedig yn PCYDDS. Ar ôl cael eu henwebu, bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio i wneud cais trwy’r system ymgeisio ar gyfer cyfnewid rhyngwladol.

    Os yw myfyriwr yn gwneud cais fel myfyriwr sy’n astudio dramor sy’n talu ffioedd ac felly ddim yn rhan o’r cytundeb cyfnewid, yna gall wneud cais cyn y dyddiad cau.

    Ein nod yw gwneud y broses ymgeisio ar gyfer myfyrwyr sy’n dod i mewn mor rhwydd â phosibl wrth iddynt gychwyn ar eu profiad o Astudio Dramor felly ymunwch â, neu gwyliwch y gweminarau cyn cyrraedd.

  • Mae’n ofynnol i bob Myfyriwr Rhyngwladol sy’n ceisio mynediad i’r Brifysgol ddangos ei hyfedredd Iaith Saesneg yn unol â gofynion derbyn y Brifysgol a’r Polisi Iaith Saesneg.y.

  • Er mwyn sicrhau bod eich profiad mor rhwydd a chyfoethog â phosibl, rydym yn ymroi i gynnig cyfres gynhwysfawr o wasanaethau cymorth wedi’u teilwra’n benodol i anghenion unigryw ein myfyrwyr rhyngwladol.