Skip page header and navigation

Y Gymraeg yn y Drindod Dewi Sant

Mae’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol naturiol ddwyieithog, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fyw mewn cytgord. Mae canran uchel o’n staff a’n myfyrwyr yn medru’r Gymraeg ar draws ein campysau ac mae modd felly i siaradwyr Cymraeg dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma. Rydym hefyd yn falch iawn i gefnogi unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno dysgu neu ddatblygu eu Cymraeg yn ystod eu hamser yma yn y Brifysgol. 

Picture of Lisa Ann Evans a former student.
Dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd drwy ddewis i astudio yn y Gymraeg. Mae cymuned glos o fyfyrwyr ac ry’n ni’n cael llwyth o brofiadau newydd gan gynnwys nosweithiau allan, mynychu rhyng-gol a theithiau tramor.
Lisa Ann Evans Addysg Gynradd gyda SAC

Siarad Cymraeg?

Aelod o staff yn sefyll o flaen baner felen y Coleg Cymraeg

Cyrsiau Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

Yma yn y Drindod Dewi Sant mae gennym arlwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws ein campysau. Efallai nad ydych wedi ystyried astudio eich gradd neu ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn hyn, neu efallai eich bod yn teimlo’n ddihyder ynghylch astudio eich rhaglen yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. Peidiwch â phoeni, rydych mewn dwylo da. Cewch gefnogaeth gan y Brifysgol trwy gydol eich astudiaethau, fyddwch chi ddim ar eich pen eich hunan.  

 Meddyliwch am y drysau a fydd yn agor i chi fel graddedigion os byddwch wedi astudio o leiaf ran o’ch rhaglen radd drwy gyfrwng y Gymraeg! 

Grŵp o fyfyrwyr yn sefyll mewn llinell i dynnu llun

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

  • Mae gan fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant sy’n dilyn cyrsiau neu fodiwlau israddedig cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog gyfle arbennig i gael cymorth ariannol gan y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

  • Dyfernir £50 am bob 10 credyd a gwblhawyd yn llwyddiannus gan fyfyriwr is-raddedig drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog.  

  • Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau penodol yn rhannol, neu’n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae ganddi Gangen weithgar o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Gangen yn trefnu arlwy o ddigwyddiadau academaidd a chymdeithasol i staff a myfyrwyr, o ddigwyddiadau’r glas a chinio blynyddol, i ddarlith flynyddol a chynadleddau yn ogystal a’r Côr cymdeithasol a phaned a sgwrs. Mae’r Gangen hefyd yn cynnig cefnogaeth ieithyddol ac ariannol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Gliniadur ar fwrdd yn arddangos logo'r Gym Gym

Mae’r Gymdeithas Gymraeg – Y Gym Gym yn cael ei rhedeg gan fyfyrwyr y Brifysgol, a threfnir gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, gan roi digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau a chael profiadau newydd; o deithiau rygbi rhyngwladol i gystadlaethau chwaraeon ac Eisteddfodau’r Rhyng-gol … mae llu o gyfleoedd a gweithgareddau at ddant pawb! 

Collage of images of teaching settings in hexagon shapes with Peniarth and Rhagoriaith logos.

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yma i’ch cefnogi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r ganolfan yn gartref i Rhagoriaith a Pheniarth.

Beth am Ddysgu Cymraeg?

Yma’n y Drindod Dewi Sant rydym yn ymrwymo i hyfforddi a pharatoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru ddwyieithog. Rydym yn darparu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim i’n staff a’n myfyrwyr. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg tra yn y Brifysgol, mae croeso iddyn nhw gofrestru diddordeb a derbyn rhagor o wybodaeth am gyrsiau drwy gwblhau’r ffurflen hon

Eich Hawliau

Metal sign of a Welsh Dragon surrounded by colourful flowers

Mae gennych chi hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau Iaith’ ar y Brifysgol.

Defnyddiwch eich hawliau – gofynnwch am y Gymraeg!

  • Gwasanaeth cwnsela yn Gymraeg
  • Cyfarfodydd yn Gymraeg
  • Cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
  • Cais am gymorth ariannol yn Gymraeg
  • Ffurflenni yn Gymraeg
  • Llyfryn croeso yn Gymraeg
  • Llythyrau yn Gymraeg
  • Prosbectws yn Gymraeg
  • Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
  • Tystysgrifau yn Gymraeg
  • Llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill 
Image of female student with red hair in green and navy checked coat outdoors
Roeddwn braidd yn ansicr trwy gyfrwng y Saesneg felly mae cael y cyfle i astudio cwrs BA Perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fraint. Yn ogystal, mae’r ysgoloriaethau y mae’r Coleg Cymraeg yn eu cynnig yn rhoi hwb enfawr i fyfyrwyr sy’n astudio yn y Gymraeg.
Catrin Aur Evans BA Perfformio