Skip page header and navigation

Llety Llambed

Mae nifer o opsiynau ar gael gennym o ran llety yn Llambed. Mae ein mannau byw wedi’u lleoli ar y prif gampws, o fewn neuaddau preswyl y mae’r brifysgol yn berchen arynt. Trwy ddewis aros gyda ni, byddwch dafliad carreg o’ch mannau astudio a phopeth sydd gan gampws bywiog Llambed i’w gynnig.

"Cefais flwyddyn wych yn fy llety ac roeddwn eisiau diolch i chi am yr holl waith trefnu a chynllunio rydych chi’n ei wneud!"

Watch our Lampeter Student Living video

Accordions

external image outside Carmarthen campus accommodation by entrance

Gwarant o Lety ar gyfer Myfyrwyr y Flwyddyn 1af

Nodwch PCYDDS fel eich dewis cadarn, ac fe wnawn ni warantu llety i chi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf.  Mae preswylfeydd ein Prifysgol yn cynnig ymdeimlad o gymuned i chi sy’n creu’r cartref oddi cartref perffaith. 

Beth sydd gan y Llety yn Llambed i’w gynnig

01
Dewis o lety hunanarlwyo en-suite.
02
Mae biliau cyfleustodau a WI-FI wedi’u cynnwys.
03
Fflatiau sydd â rhwng 4 a 7 ystafell wely sengl
04
Diogelwch 24 awr.
05
Gall myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ofyn am gael eu lleoli mewn fflat/ardal gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
06
Amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, hamdden ac arlwyo ar y safle.
  • Contract 38 wythnos llawn (14 Medi 2024 to 7 Mehefin 2025)

    114 ystafell

    Ffioedd

    • £3,862.70/yn flynyddol
    • £101.65/yr wythnos

    Ffioedd Tymhorol

    • Tymor 1 £1,626.40
    • Tymor 2 £1,626.40
    • Tymor 3 £609.90

    Taliad blynyddol llawn wedi’i wneud erbyn 30 Hyfred 2024 - £3,790.50

  • Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn Academaidd 2024/25 yn agor ym mis Mawrth. Rydym yn parhau i ddarparu contractau hyblyg, os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â’r tîm llety. 

    • Cyfnod y drwydded yw 38 wythnos o 14 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025 
    • Ni fydd raid i chi wagio ystafelloedd yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg

    Cewch wneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig ‘Amodol’ neu ‘Ddiamod’ gan y Brifysgol.  Os mai ni yw eich ail ddewis, ni ddylech wneud cais nes ar ôl canlyniadau arholiadau ym mis Awst. 

  • Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am lety, gyda cheisiadau’n agor ym mis Mawrth. Cysylltwch â’r tîm llety am ragor o wybodaeth.   

  • Gallwn ddarparu llety en-suite i fyfyrwyr ôl-raddedig ar y campws. Cysylltwch â’r adran llety i drafod eich gofynion.

     

  • P’un ai eich bod yn byw yn agos at y Brifysgol neu’n dod o ymhellach i ffwrdd, mae neuaddau preswyl y Brifysgol yn opsiwn i chi.  

    Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin i fyfyrwyr sy’n chwilio am lety am flwyddyn academaidd lawn.   

    Bydd cyflyrau meddygol sy’n cael eu datgelu i’r Adran Llety yn cael eu hystyried. Bydd unrhyw ofynion eraill yn cael eu hystyried ar ôl i’r broses ddyrannu gychwynnol gael ei chwblhau. 

    Byddwch yn gallu gwneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig Amodol neu Ddiamod gan y Brifysgol. Os mai PCYDDS yw eich ail ddewis, arhoswch tan ar ôl canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst cyn gwneud cais.  

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â’r tîm llety.

  • Rhaid i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig o lety yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol gadw at y telerau a’r amodau. 

    Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y Rheoliadau ar gyfer Myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl at y Rheolwr Llety

    Cwynion 

    • Os yw’r Preswylydd yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan y Brifysgol neu â’r camau a gymerwyd gan y Brifysgol mewn perthynas â’r Cytundeb a/neu os yw’r Preswylydd o’r farn bod y Brifysgol wedi torri ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, dylai unrhyw gŵyn gael ei chyfeirio, yn y lle cyntaf, at yr Adran Llety i ymchwilio iddi. 
    • Os na fydd eich cwyn wedi ei datrys o hyd, mae’n bosibl rhoi gwybod am hyn trwy’r Gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd, Cwynion ac Achosion Eraill Myfyrwyr a geir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, lle bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen GA5 ar gyfer Cwyn Ffurfiol
    • Rhaid derbyn cwynion ffurfiol ddim mwy na mis ar ôl i’r weithdrefn anffurfiol ddod i ben (lle bo’n briodol) a dim mwy na 6 mis ar ôl i’r prif fater sy’n sail i’r gwyn ddigwydd. Ystyrir bod cwynion ffurfiol sy’n dod i law ar ôl y terfynau amser hyn yn rhy hwyr. Efallai na fyddant yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol i ddangos rhesymau cryf dros pam na chodwyd y gŵyn ffurfiol yn brydlon.  
  • Gellir gwneud trefniadau lle bo modd i ddarparu ar gyfer Myfyrwyr Anabl. Os oes gennych chi ofynion arbennig, trafodwch y rhain gydag un o Gynghorwyr Anabledd y Brifysgol. Byddan nhw’n gallu trafod unrhyw ofynion sydd gennych o ran cymorth, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Cymorth Dysgu.  

Myfyrwyr Caerfyrddin yn gwenu gyda phâr o gadeiriau plygu wedi'i brandio.

Cysylltu â'r Tîm Llety

Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.

The Student Accommodation Code

Universities UK - Cod Ymarfer

Lluniwyd y Cod Ymarfer Llety fel datganiad o arfer da sy’n gallu newid a chael ei fireinio yn sgil profiad ac sy’n annog rheoli llety’n well.  Mae’r cod yn sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar bolisïau a gweithdrefnau clir sy’n ymwneud â’r canlynol: 

  • Iechyd a Diogelwch 
  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio 
  • Lles Myfyrwyr 
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion disgyblu 
  • Ansawdd amgylcheddol