Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn cynnal digwyddiadau therapiwtig mewn lleoliadau awyr agored naturiol. Wedi’i sefydlu yn 2022 yn agos i dref Caerfyrddin, mae’r Hwb yn cynnig canolfan ar gyfer ystod o weithgareddau, gan gynnwys; teithiau cerdded synhwyraidd, teithiau cerdded iechyd, gwneud tanau, gwau helygen fyw, tendio i’r ardd gymunedol a mwy! 

Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant, bondio cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.

Beth sydd Ymlaen

Rydym yn cynnig amserlen o weithgareddau rheolaidd yn ogystal â rhai digwyddiadau arbennig. Dewch nôl yn rheolaidd i weld beth sydd ymlaen y mis yma.

Mae’r holl weithgareddau’n rhad ac am ddim oni ddywedir fel arall. 

Sesiynau Coed Lleol -11am i 2pm

Dyddiad Pwy ddylai ddod? Gweithgareddau
Dydd Mawrth 30 Ebrill Oedolion Rhowch Groeso i’r Gwanwyn
Dydd Mawrth 7 Mai Oedolion Rhowch Groeso i’r Gwanwyn
Dydd Mawrth 14 Mai Oedolion Rhowch Groeso i’r Gwanwyn
Dydd Iau 23 Mai Oedolion Naddu a gwaith coed gwyrdd
Dydd Iau 20 Mehefin Oedolion Gwylltgrefft, rheffynwaith naturiol a gwehyddu
Dydd Sadwrn 27 Gorffenaf Oedolion Tyfu llysiau, cysylltu â natur ac ymwybbyddiaeth ofalgar
Dydd Sadwrn 24 Awst Oedolion a theuluoedd Gwehyddu helyg
Dydd Sadwrn 28 Medi Oedolion a theuluoedd Printio leino a phrintio/cerfio coed wedi’i ysbrydoli gan natur
Dydd Sadwrn 26 Hydref Oedolion a theuluoedd Canu wedi’i ysbrydoli gan natur
Dydd Iau 21 Tachwedd Oedolion Coginio ar dân gwersyll a fforio yn y gaeaf
Dydd Iau 12 Rhagfyr Oedolion Gwylltgrefft ac adrodd straeon
Pobl mewn cae gaeafol yn archwilio cyfarpar cerfio pren wedi’i osod ar fwrdd picnic; mae iwrt i’w weld yn y cefndir.
Agoriad swyddogol Hwb Iechyd Gwyrdd – Ionawr 2024

Teithiau Cerdded Pwrpasol

Teithiau Cerdded Synhwyraidd

A group of young people pause during a walk down a woodland path.

Rydym yn cynnig teithiau cerdded Synhwyraidd. Rydym wedi’u creu gyda phobl ag anableddau, gofalwyr, ac ymarferwyr proffesiynol anabledd mewn golwg, er bod croeso i bawb ymuno ag un. Ar y teithiau cerdded hyn gallwch archwilio’r byd o’ch cwmpas trwy olwg, arogl, sŵn a chyffwrdd.

Teithiau Cerdded Iechyd Wythnosol

Silwetau du myfyrwyr yr ysgol haf yn sefyll ar ochr mynydd wrth i’r haul fachlud tu ôl iddynt.

Ymunwch â ni ar ein teithiau cerdded iechyd wythnosol, bob dydd Mawrth am 10.30am.

Lleoliad

Mae’r Hwb wedi’i lleoli llai na dwy filltir o ganol Caerfyrddin. Wedi’i lleoli mewn cae yng nghanol coetir a thir fferm ac yn edrych dros yr Afon Tywi, mae ein lleoliad tawel yn ddelfrydol i archwilio’r awyr agored, dysgu sgiliau ymarferol, neu eistedd wrth y llosgwr pren gyda’r nos.

Dim ond trwy drefnu gydag Andrew Williams ymlaen llaw y ceir mynediad i’r safle. 

Teithio

  • Mae lle parcio ar gael ar y safle. 

    Mewn car, mae’r Hwb bum munud o Gaerfyrddin, neu un awr o Abertawe gan ddilyn yr M4 a’r A48.

  • Mae gwasanaethau bws 226 a 227 Caerfyrddin yn stopio ar Heol Llansteffan, taith fer ar droed o’r Hwb. Nid ydynt yn rhedeg ar ddyddiau Sul. 

  • Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwelliannau i’n mynediad i bobl anabl. 

  • Gallwch gerdded i’r Hwb o Gaerfyrddin mewn tua 30 munud ar hyd llwybr troed sy’n dilyn yr Afon Tywi. 

Oriel

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os hoffech wybod rhagor am waith partneriaeth gyda’r Hwb Iechyd Gwyrdd neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn a gynigwn.

Logo dwyieithog monocrom â draig wen a’r geiriau Cefnogwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin.