Skip page header and navigation

Mae llwyddiant rhyfeddol myfyrwraig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) sydd y cyntaf yn ei theulu i fynychu’r brifysgol yn cael ei amlygu mewn ymgyrch genedlaethol newydd, dan arweiniad Universities UK.

Rebecca Davies sy'n rhan o ymgyrch 100 wynebau
Rebecca Davies sy'n rhan o ymgyrch 100 wyneb

Rebecca Davies, a raddiodd o’r rhaglen MDes mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, oedd y gyntaf yn ei theulu i fynychu’r brifysgol ac mae’n cael sylw yn y categori talent celf yn ymgyrch 100 Wyneb UUK.

Yn ystod ei chyfnod yn astudio yn y Brifysgol, cafodd Rebecca, sy’n hanu o Townhill yn Abertawe, lawer o lwyddiannau, gan gynnwys sicrhau interniaeth â thâl gyda Rolls-Royce fel rhan o dîm dylunio unigryw’r cwmni. Arweiniodd y profiad hwn at ei rôl bresennol fel Dylunydd Pwrpasol yn y cwmni ac mae’n canmol y brifysgol am ei galluogi i ddilyn gyrfa greadigol.

Meddai: “Fe wnaeth y Brifysgol fy amlygu i ystod ehangach o wahanol gyfleoedd a newidiodd fy llwybr gyrfa yn llwyr.

“Un o’r newidiadau mwyaf y mae mynd i’r brifysgol wedi’i wneud i fy mywyd yw cael y system gefnogaeth gan ddylunwyr anhygoel y bûm yn astudio gyda nhw, a’r darlithwyr a’r technegwyr anhygoel sydd wedi dysgu popeth rydw i’n ei wybod am ddylunio nawr i mi. Dysgais gymaint mwy nag y gwnes feddwl y byddem ar y dechrau, ac roedd llawer o hynny oherwydd y ffordd y mae’r cwrs wedi’i strwythur, gyda chyfleoedd i wneud astudiaethau hunan-gyfeiriedig a alluogodd imi adeiladu fy hyder fy hun, ac i fod yn hunangynhaliol iawn. Ond hefyd yn annog gwaith grŵp ac amgylchedd gwaith cymdeithasol, rwy’n teimlo fy mod wedi gallu bod yn gydweithiwr da i’r rhai rydw i’n gweithio gyda nhw nawr, yn teimlo’n hyderus i roi fy marn ac yn drafod syniadau gydag eraill os ydw i’n teimlo’n sownd. Felly, mae effaith emosiynol a chymdeithasol o fynychu’r brifysgol wedi bod yn gadarnhaol iawn i mi, ac mae’n rhywbeth yr wyf yn ei gymryd i mewn i’m bywyd bob dydd.

“Dewis astudio dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau oedd y tro cyntaf i mi deimlo fy mod yn cael cefnogaeth i ddilyn gyrfa greadigol. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf i mi weld yr holl gyfleoedd a chorneli o’r diwydiant creadigol a fyddai ar gael i mi, lle cyn dod o hyd i’r cwrs, nid oeddwn yn teimlo’n hyderus y byddai gyrfa greadigol yn bosibl. Cefais fy amlygu i ystod eang o wahanol gyfleoedd a ddyfnhaodd fy syniad o’r hyn y gallai bod yn ddylunydd ei olygu.

“Gyda’r gefnogaeth a’r hyder roeddwn i wedi’u datblygu, ochr yn ochr â’r holl wybodaeth dylunio technegol, rydw i wedi gallu dechrau gyrfa mewn dylunio na fyddwn i, cyn fy astudiaethau, wedi credu’n bosibl. Daeth y cyfle ar gyfer yr interniaeth yn Rolls-Royce drwy’r brifysgol, ac roedd yn rhywbeth na fyddwn i byth wedi edrych amdano, ac mae gallu aros ymlaen gyda nhw fel Dylunydd Pwrpasol fyth ers hynny wedi bod yn brofiad eithriadol”.

Nod ymgyrch ‘100 Faces’ UUK yw hyrwyddo a dathlu effaith gadarnhaol graddedigion ‘cyntaf yn y teulu’ (FitF) ar y DU ac mae’n cynnwys yr Arglwydd David Blunkett, enillydd Gwobr Nobel Syr Chris Pissarides a’r actor Amit Shah er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gyrraedd eu potensial graddedig.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae ymchwil newydd yn datgelu effaith drawsnewidiol mae mynd i’r brifysgol yn ei gael ar uchelgais (74%), gyda bron i dri chwarter (73%) o fyfyrwyr cenhedlaeth gyntaf yn cytuno bod eu gradd wedi rhoi’r hyder iddynt ymgeisio am swyddi heb deimlo fel ffugiwr.

Daw’r canfyddiadau hyn o ymchwil newydd helaeth, a gomisiynwyd gan Universities UK, i brofiadau 6,004 o raddedigion y DU a 4,006 o bobl nad ydynt wedi graddio, 24-40 oed, o bob rhan o’r DU.

Mae llwyddiant myfyrwyr fel Rebecca yn dyst i’r rôl anhygoel y gall prifysgol ei chwarae – yn enwedig i’r myfyrwyr hynny sydd y cyntaf yn eu teulu i fynychu ac sy’n wynebu rhwystrau sylweddol cyn iddynt hyd yn oed gychwyn ar y campws. Er gwaethaf yr anghydraddoldeb hwn, mae myfyrwyr cenhedlaeth gyntaf yn ffynnu yn y brifysgol – gyda thri chwarter o ymatebwyr cenhedlaeth gyntaf yn dweud bod eu profiadau yn y brifysgol wedi eu gwneud yn fwy hyderus ac uchelgeisiol, wedi rhoi profiadau bywyd ehangach iddynt a sgiliau bywyd hanfodol sy’n parhau i gael effaith ymhell ar ôl graddio.

Yng ngoleuni hyn, mae UUK yn ymgyrchu i dynnu sylw at lwyddiannau’r graddedigion cyntaf yn eu teulu ym mhob cymuned, ac i sicrhau nad yw cenedlaethau’r dyfodol yn colli allan ar effaith drawsnewidiol addysg prifysgol.

Dywedodd Vivienne Stern, MBE, Prif Weithredwr Universities UK:

“Mae yna rai sy’n dweud bod gormod o bobl yn mynd i’r brifysgol. Dwi’n anghytuno. Mae’r straeon hyn yn dweud pam wrthych. Yn y wlad hon rydych yn dal ddwywaith yn fwy tebygol o fynd i brifysgol os ydych o’r cefndir cyfoethocaf, o gymharu â’r lleiaf cyfoethog. Dyw hynny ddim yn iawn.”

“Mae profiadau myfyrwyr sydd y cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol yn adrodd stori rymus. Rwyf wedi fy syfrdanu gan faint o raddedigion a soniodd am gael syndrom y ffugiwr – a’r ffordd yr oedd ennill gradd wedi helpu i ddileu’r teimlad hwnnw. Rwy’n credu bod gennym gyfrifoldeb i barhau i weithio i sicrhau bod ystod ehangach o bobl yn y wlad hon yn cael mynediad at y profiad a allai fod yn drawsnewidiol o fynd i’r brifysgol.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau