Skip page header and navigation

Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ar 18 Ebrill 2024. 

Old map of south Pembrokeshire

Mae Dr David Parsons yn Ddarllenydd yn y Ganolfan ac yn astudio ieithoedd brodorol Prydain yn yr Oesoedd Canol, ac yn enwedig y modd y maent yn ymddangos mewn enwau lleoedd. Dr Parsons oedd yn arwain prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, gyhoeddodd olygiadau o destunau Cymraeg a Lladin, yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth, o Gymru’r Oesoedd Canol, ynghyd â llawer o wybodaeth ychwanegol am y seintiau a’r modd y caent eu mawrygu.

Testun y ddarlith fydd, ‘Swords and Swine: the character of river-names in Welsh and English’. Bydd y ddarlith yn archwilio rhai o’r ffyrdd y cafodd afonydd eu henwi yn Gymraeg a Saesneg yn yr Oesoedd Canol, ac yn trafod y tebygrwydd a’r cyferbyniadau rhwng y dulliau a ddefnyddiwyd gan y ddwy iaith.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, “Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddarlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams a draddodir eleni gan Dr David Parsons. Mae’r Dr Parsons yn arbenigwr cydnabyddedig ar enwau lleoedd, yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Enwau Lleoedd Prydain ac awdur Welsh and English in Medieval Oswestry (2022). Diolchwn hefyd i’r Llyfrgell Genedlaethol am gydweithio unwaith eto eleni ar gynnal y ddarlith nodedig hon, wyneb yn wyneb ac ar lein, i gyrraedd cynulleidfaoedd pell ac agos”.

Traddodir y ddarlith yn fyw yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ar lein trwy Zoom, am 5.00 o’r gloch ar 18 Ebrill. 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Gofynnir i westeion archebu lle ymlaen llaw i ddod i’r ddarlith yn y Llyfrgell. Bydd paned am 4.30yh. E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk i gofrestru.

Croeso cynnes i bawb! 

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau