Skip page header and navigation

Mae Dr Debra Williams, un o arweinwyr busnes mwyaf blaenllaw’r DU wedi’i phenodi i swydd Pro Is-Ganghellor, Cysylltiadau Masnachol a Busnes, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Dr Debra Williams

Rôl Dr Williams fydd datblygu ac arwain agenda cysylltiadau masnachol a busnes y Brifysgol a darparu arweinyddiaeth strategol wrth ddatblygu partneriaethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Meddai’r Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor:

“Rwy’n falch iawn i groesawu Debra yn aelod allweddol o Uwch Dîm Arwain ein Prifysgol. Mae’n arweinydd busnes hynod brofiadol a chraff sydd â hanes gwych ar draws nifer o sectorau ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi ar ystod o weithgareddau cyffrous”.

Mae Debra Williams yn adnabyddus am ei dawn reddfol i gynhyrchu twf ac adnabod cyfleoedd busnes newydd.  Mae wedi dal nifer o uwch swyddi ac wedi gweithio ar lefel reoli gyda rhai o fusnesau mwyaf adnabyddus y DU yn cynnwys Confused.com, Admiral, Tesco Bank, NCR, Covea, Prifysgol Abertawe a News Corporation. Yn ystod ei chyfnod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Confused.com, y safle cymharu cyntaf yn y DU ac efallai yn y byd, adeiladodd Debra y busnes yn un o’r prif safleoedd cydgasglu yn y DU. 

Ymhlith ei hanrhydeddau niferus mae cael ei henwi’n Gymraes y Flwyddyn am Arloesi, cael ei chydnabod ymhlith y 200 o fenywod busnes gorau yn y DU gan y ddiweddar Frenhines a derbyn Gwobr Cyflawniad Oes a doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.  Dyfarnwyd iddi hefyd ddoethuriaeth anrhydeddus gan Brifysgol Bangor.

Mae’n fuddsoddwr angel ac yn ymgynghori â chwmnïau yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae’n aelod o Fwrdd The Alacrity Foundation, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Co-op Insurance ac yn Gadeirydd GCRE Ltd. Tan yn ddiweddar roedd yn Gadeirydd Gyrfa Cymru a Chomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn dod o hyd i amser i fod yn llysgennad busnes i Tŷ Hafan ac yn ymddiriedolwr Cymorth i Ddioddefwyr.

Ar gael ei phenodi, dywedodd Debra: “Rwy wrth fy modd i dderbyn swydd Pro Is-Ganghellor yn y Brifysgol.

“Mae’r cydweithio rhwng busnes ac addysg uwch yn gyffrous gan ei fod yn creu cylch o ddysgu, cymhwyso a thwf, gan gyfrannu at ddatblygiad economaidd ac ysbryd cystadleuol yn fyd-eang. 

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i rymuso’r genhedlaeth nesaf i ffynnu mewn byd dynamig o wybodaeth, arloesedd a chyfleoedd.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon