Skip page header and navigation

Mewn arddangosfa newydd ar yr awdur a theithiwr Cymreig Thomas Pennant, amlygir lle y gornel wledig hon o Sir y Fflint yn hanes yr ymerodraeth, yr Ymoleuad, a’r amgylchfyd.

Old painting from Welsh travel writer Thomas Pennant
[Lluniau: trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru]

Eleni, rhwng Ebrill a Gorffennaf, fe fydd Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn ymyl Treffynnon yn cynnal arddangosfa ar yr awdur, teithiwr, a swolegydd arloesol lleol, Thomas Pennant, un a gofnododd hanes naturiol, cymdeithasol, a diwydiannol hynod ei filltir sgwâr ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Curadwyd yr arddangosfa gan ysgolheigion o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, rhan o dîm sy’n paratoi golygiadau digidol newydd o deithiau Cymreig Pennant fel rhan o brosiect y Teithwyr Chwilfrydig. Yn yr arddangosfa, ceir detholiad o’r darluniau gwreiddiol trawiadol a gomisiynwyd gan Pennant i addurno ei deithiau, yn ogystal â’r lluniau swolegol bywiog sy’n llenwi ei lyfrau gwyddonol.

Yng ngwaith Pennant, cysylltir tirlun prydferth Sir y Fflint gydag economïau imperialaidd caethwasanaeth a chyfalafiaeth ffosil. Cludwyd cotwm—cynnyrch llafurwyr caethiwedig—i Sir y Fflint i gael ei felino gan weithlu o blant, a chludwyd copr o Ddyffryn Maes Glas i orllewin Affrica yn ei dro er mwyn prynu bodau dynol. Mae’r hanesion hyn o’r ddeunawfed ganrif yn parhau i fod gyda ni hyd heddiw, fel sy’n amlwg wrth sylwi ar effaith gyfoes tanwyddau ffosil—fel y glo a gloddid gan dirfeddianwyr Cymreig yn cynnwys Pennant ei hun—ar amgylchedd yr ardal yn ein hoes ni.

Mae Pennant—awdur Cymreig mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth, o bosib, ac un a enillodd edmygedd enwogion megis Samuel Johnson a William Wordsworth—ar hyn o bryd yn destun ymchwil prosiect a gynhelir ar y cyd rhwng Prifysgol Cymru, Prifysgol Glasgow, a’r Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Llundain, dan nawdd yr AHRC. Yn ôl y prif archwilydd, yr Athro Mary-Ann Constantine, un o guraduron yr arddangosfa:

‘Mae Dyffryn Maes Glas yn lle anhygoel: yr hen a’r newydd, y lleol a’r rhyngwladol, y gorffennol a’r presennol, ceir hyn oll o fewn y filltir doreithiog o safleoedd treftadaeth sy’n ymestyn rhwng Ffynnon Gwenfrewy ac aber afon Dyfrdwy. Mae’n bleser cael ailosod geiriau a darluniau Thomas Pennant yn y tirlun a’u hysbrydolodd, ac rydym yn ddiolchgar i’n partneriaid ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas am groesawu’r arddangosfa hon.’

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru.

Old painting from Welsh travel writer Thomas Pennant
[Lluniau: trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru]

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau