Skip page header and navigation

Mae Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o nodi bod ei Phennaeth Pêl-rwyd, Hannah Poole, wedi’i phenodi’n Rheolwr Tîm Cynorthwyol ar Dîm Pêl-rwyd Chwaraeon Prifysgolion Cymru.  

Hannah Poole holding a netball ball in a training session

Daw’r penodiad wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref sydd i ddod ym mis Gorffennaf, lle bydd y chwaraewyr pêl-rwyd gorau o brifysgolion ledled Cymru’n dod at ei gilydd i herio’u gwrthwynebwyr. Mae Hannah wrthi ar hyn o bryd yn dewis carfan ar gyfer y digwyddiad trwy gynnal treialon ledled y wlad. 

Meddai Hannah:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at dwf a llwyddiant pêl-rwyd yng Nghymru. Rwy wir yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm rheoli i ddewis a ffurfio tîm a fydd yn gystadleuol wrth chwarae yn erbyn y timau rhyngwladol eraill yng nghystadleuaeth y gwledydd cartref ym mis Gorffennaf. Hoffwn ddiolch i Academi Chwaraeon PCYDDS am fy nghefnogi gyda’r cyfle hwn.”

Mae Academi Chwaraeon PCYDDS wedi ymrwymo i feithrin rhagoriaeth a darparu cyfleoedd heb eu hail i staff a myfyrwyr sy’n athletwyr. Mae penodiad Hannah yn tystio i ymrwymiad yr Academi i feithrin talent a chyflawni rhagoriaeth mewn chwaraeon.

Ychwanegodd Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

Bydd y math hwn o brofiad nid yn unig o fudd i Hannah yn bersonol ond hefyd i’n Tîm Pêl-rwyd. Rydym yn llwyr gefnogi Hannah a hoffem ddymuno’r gorau iddi hi a’i thîm ar gyfer y digwyddiad. Mae gennym grŵp gwych o staff yn Academi Chwaraeon PCYDDS a gyda Martyn Bowles (Pennaeth Pêl-droed) a nawr Hannah yn cael sylw ar lefel Ryngwladol yn eu priod gampau, mae safon yr hyfforddiant a’r profiad fydd ganddynt i’w gynnig i’w hamgylcheddau ac i’n myfyrwyr yma yn PCYDDS yn amhrisiadwy.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau