Trinity College Alumni
John Emanuel
Atgofion John Emanuel (14/12/03) a fu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod rhwng 1924 a Mehefin 1926.
Dechreuodd ei yrfa’n Ysgol Llangynnwr, wedyn Ysgol Parcyrhun, Rhydaman. Ddechrau Ebrill 1929 aeth i Lansteffan, cyn symud i Lwynhendy i gynorthwyo fan honno. Yna aeth i Gwmcothi (lle’i apwyntiwyd fis Tachwedd 1932, a dechreuodd yn Ionawr 1933), cyn cael ei apwyntio yn Brifathro Salem Llandeilo yn 1944. Yn 1948 dechreuodd fel Prifathro Ysgol Bancffosfelen tan iddo ymddeol yn Rhagfyr 1968.
Dyma’i atgofion...
Ar ôl tymor arall o ddosbarthiadau nos eto yn 1922, llwyddodd fy mrawd a minnau ennill ysgoloriaeth eto a'r tro hwn cawsom fynd am wythnos i wneud ymchwiliad o'r glofeydd ym Morgannwg. Lletyem am yr wythnos yn y Park Hotel, Pontypridd a lle braf iawn ydoedd hwn. Pan ddaeth y Llun aethom i lofa Senghennydd lle bu tanchwa ofnadwy yn 1913 a thros bedwar cant o lowyr wedi eu lladd. Bûm yn Senghennydd yn 1914 yn aros yn Nelson Terrace, Abercynon gyda Anti Bess a Nwncwl Bob. Cofiaf gerdded tros y mynydd gyda Nwncwl Bob i lawr i bentref Senghennydd a mynd heibio i res hir o dai a Bob yn dweud wrthyf fod yna o leiaf un wedi ei ladd ymhob un o'r tai hynny ac mewn ambell un dau neu dri. Caewyd yr ardal dan y ddaear lle 'roedd y tân gan furiau trwchus ar hyd yr heolydd, oherwydd nid oedd gobaith y deuai neb allan yn fyw o'r Gehenna honno, a dyna'r unig ffordd i atal y tân rhag lledu i rannau eraill o'r gwaith. Yn 1922 felly euthum i'r ardal honno yng ngwaith Senghennydd a rhoi fy nwylaw ar un o'r muriau hyn a adeiladwyd i gyfyngu ar y tân yn yr Amlosgfa honno. Ar y Mawrth aethom i'r Porth i weld y Rescue Station a’r School of Mines. Ychydig iawn o waith trafaelu oedd i'r Porth, a Trefforest, lle 'roedd y School of Mines ychydig ymhellach. Ar y Mercher 'roeddem yn ymweld â gwaith Cilfynydd. Yr enw lleol ar y gwaith hwn oedd y 'Bakehouse’, ac erbyn i ni fynd i lawr sylweddasom paham. 'Roedd hi'n dwym iawn yn y lofa hon ac wrth fynd oddeutu'r 'Ffasys' fan hyn digwyddodd rhywbeth a fu'n drobwynt i fy mywyd. 'Roedd y Manijer gyda ni ymhob man ac wrth fynd heibio un dyn yn gweithio ar y glo, dywedodd y Manijer amdano ei fod wedi pasio'r 1st M.E. 'Roeddem yn synnu'n fawr am hyn gan y gwyddem i gyd faint o studio ac aberthu y golygid i lwyddo yn yr arholiad hwn. Ond fe'n synnwyd yn fwy nes ymlaen pan gyfeiriodd at löwr arall a'i M.E. ganddo ac yn nes ymlaen un arall eto. Yn y cyfamser pwyntiodd i ni sawl un wedi cael ei 2nd M.E. Bu fy mrawd dan y ddaear ar ô1 i mi fynd i'r coleg ac eisteddodd ef ei 2nd M.E. a llwyddo. Canlyniad ymweld â Chilfynydd oedd codi amheuaeth yn fy meddwl ai doeth oedd mynd ymlaen ag astudio Mining ai peidio. Ar y dydd Iau 'roeddem yn ymweld â phwll newydd sbon yn Llantwit Faerdre, sef y Cwm Pits. Wedi cyrraedd fan hyn dywedwyd wrthym mai dim ond un pwll oedd yn barod ac os ewyllysiem byddai'n bosibl i ni fynd i lawr i'r Upcast mewn ‘Bowc’ sef y bwced enfawr a ddefnyddir i ollwng defnyddiau i lawr i’r pwll anorffenedig ac i godi pethau i fyny. Aethom i lawr yn y Bowc gan ddal ein lampau i fyny i weld ochrau'r pwll wrth inni ddisgyn. Stopiodd y Bowc hefyd mewn mannau er mwyn i’r Manijer ddangos i ni ryw nodweddion arbennig. Wedi mynd oddeutu i'r gwaith daethom i fyny wedyn yn y caets trwy'r ‘Downcast'. 'Roedd y caets yn un enfawr a dyna'r tro cyntaf i mi weld caets oedd yn Double Deck a Double Bond. Byddai'r caets hwn yn dal wyth dram a rhwng y ddau gaets byddai yma un ddram a'r bymtheg yn y pwll ar yr un pryd, yn rhoi posibiliadau mawr i gael cynnyrch mawr oddi wrth y gwaith hwnnw. I gynnwys y ddau gaets enfawr hyn 'roedd maint y pwll yn un enfawr. Ar y Gwener aethom i ymweld â'r Windsor yn Abertridwr a chawsom groeso cynnes iawn fan hyn fel ymhob un o'r gweithfeydd eraill.
Er fy mod erbyn hyn wedi penderfynu, mwy neu lai i ymwrthod â gyrfa mewn Mining parhawyd i fynychu dosbarthiadau Mining, a'r flwyddyn 1923 ‘roedd y dosbarth i fod yn un Advanced. Rhoddwyd ysgoloriaethau eto ond fod yr wythnos a drefnwyd i rain i fod i'w threulio yn ymweld â glofeydd ar y cyfandir. Ar ô1 eistedd yr arholiad ar ddiwedd y tymor a chael gwybod fy mod yn un o'r hanner dwsin a ddewiswyd i gael ysgoloriaeth cefais wybod yn gyntaf fod treuliau taith o'r fath wedi cynyddu'r fath raddau oherwydd chwyddiant nes peri i'r awdurdodau newid y cynllun a'n gyrru i wneud archwiliad ar y glofeydd yn Swydd Dyrham. Ond pan ddaeth y trefniant terfynol i law gwelsom mai i Sir Gaerwerydd yr oeddem i fynd gan aros yn Park Place, Manceinion. Wedi cyrraedd yno, penderfynasom fynd i gapel enwog Chorlton Road ar fore Sul i gael pregeth Gymraeg. Dyna'r capel lle'r aeth Gwynfor Roberts, Porth Tywyn i weinidogaethu ymhen blynyddoedd wedyn. Ar y dydd Llun aethom i ymweld â gwaith enfawr Metropolitan Vickers yn Old Trafford. Ni welais y fath le enfawr, na chynt, nac wedyn, oherwydd gwnaed yno Electric Motors o bob math, o'r lleiaf er mwyn gyrru ffannau a welir mewn siopau, hyd at y Motors enfawr a ddefnyddid i yrru Peiriant Winds ar ben y gwaith glo. Fan hyn buom yn gwylio'r Winders wrth eu gwaith yn gosod y wiring i'r motors enfawr hyn. Daethom yn ô1 o’r ffatri hon trwy'r Parc a chael cipdrem ar yr holl atyniadau gan gynnwys y 200 sydd yno. Ar y dydd Mawrth y Parsonage Pit yn West Leigh oedd ein cyrchfan. Hwn oedd y man cyntaf i ni weld Coalcutter yn gweithio a'r math a ddefnyddiwyd oedd y Sullivan Chain ac yna'r Diamond Jugger oedd y Conveyor i gario'r glo i'r tramiau. 'Roedd hyd y Conveyor yn 80 yds. a symudid ef ymlaen ar ô1 i'r Cutter dorri dwywaith ar draws y ffas. Y wythïen a weithiwyd fwyaf oedd yr Yarley er bod tair gwythïen arall yno. 'Roedd yn boeth iawn yn y gwaith hwn a'r glowyr i gyd, yn enwedig yn y ffas yn gweithio yn eu trwser bach a dyna gyd. 'Roedd y dull o goedio'r headings yn wahanol iawn i'r hyn a ddefnyddid yng Nghymru'r pryd hynny. Yng Nghymru ceid pâr o goed, sef dwy fraich a choler ond yma'r dull a elwid 'Cockering' a ddefnyddid, sef dau bost tua 5 troedfedd o uchder ar yr ochrau ac yna dau bost ar oledd ac un pren ar draws i ddal y to.
Wedi ymweld â gwaith y Parsonage ar hyd y dydd, gwaith na hoffwn i weithio ynddo, a gweld y tlodi ym mhentref West Leigh, braf oedd cael newid a mynd i'r Theatr yn y nos i weld Cicely Courtridge a'i gwr yn actio. Dyma'r unig dro i mi weld yr actores hon yn y cnawd er wedi ei gweld ar y teledu lawer gwaith ar ô1 hynny. Aeth ymlaen i actio nes ei bod dros 80 oed.
Ar y Mercher aethom i ymweld â glofa'r Golborne. Yng nglofeydd y sir bron i gyd glo golosg a geir, ac 'roedd y glo o'r pwll hwn yn mynd i'r Berkeley gerllaw i wneud golosg. Un peth ynglŷn â'r gwaith hwn fod ganddynt drefniant i wneud i'r awyr fynd oddeutu'r pwll y ddwy ffordd, sef gwneud yr upcast yn downcast, ac fel arall. 'Roedd gwaelod y pwll yn y Golborne yn werth ei weld, oherwydd ehangder y lle a'r goleuadau anferth, yn gwneud y lle ymddangos fel Sgwâr Picadili wedi'r nos. Ar y dydd Iau aethom i ymweld â gwaith y Berkeley ac yma'r peth diddorol oedd troi'r glo yn olosg mewn ffwrneisiau o wneuthuriad Simon Carves. 'Roedd yna hanner cant o'r ffwrneisiau hyn i gyd a phob un yn dal pum tunnell. Pedair awr ar hugain y cymerai i bobi'r glo fel hyn cyn iddo droi'n olosg ac ar ben y pedair awr ar hugain gwelid fel rhyw wthiadau mawr yn gwthio'r golosg allan o'r ffwrn ac i dryciau. Un peth nodweddiadol o'r gweithfeydd glo hyn yn Sir Gaerwerydd oedd bod y tramiau a ddefnyddid lawer yn llai na'r rhai ddefnyddir yng Nghymru. 'Doedd y rhain yn dal ond deg cant lle mae'r tramiau yng Nghymru yn dal o'r 30cwts i ddwy dunnell - tipyn o wahaniaeth trafod pan ddigwyddai un fynd oddi ar y rheiliau. Un arbediad mawr yn y gweithfeydd hyn oedd mewn pŵer oherwydd defnyddid y nwy a gafwyd oddi wrth y glo i yrru bron bob peiriant ar yr wyneb. Cesglid y tar hefyd oddi wrth y glo ac oherwydd ei fod mor dew rhaid cael pwmp cryf i'w yrru ar hyd y pibau i'r man lle y cesglid ef. 'Roedd yna hefyd 60,000 cu.ft. o nwy yn mynd i oleuo a gwresogi'r tai mewn pentref o'r enw Little Hulton oedd ar bwys.
Efallai mai ein hymweliad a Fords yn Old Trafford ar y Gwener oedd y peth gore yn ystod yr wythnos. Dyma'r adeg yr oedd Ford wedi dod a datblygiad mawr i'r wlad hon gyda golwg ar wneud moduron, sef y 'conveyor-belt' gyda'r chassis yn cael ei roi arno un pen a'r modur yn cael ei yrru i ffwrdd y pen arall. Gwaith undonog iawn oedd gan y gweithwyr fan hyn gallaswn gredu gyda gwneud yr un gwaith trwy gydol y dydd. Aethom drwy'r cyfan o'r gwaith hwn gan gynnwys y 'Paint Shop', lle y paentiwyd y gwahanol ddarnau o'r modur. Wedi dychwelyd o'r daith hon cefais wybod yn weddol fuan fy mod wedi fy nerbyn i fynd yn efrydydd i'r Training College, Coleg y Drindod, nawr yng Nghaerfyrddin.
Rhaid nawr oedd dechrau astudio gogyfer a mynd i'r coleg. Ond ar ddechrau 1924 oherwydd anghydfod caeodd gwaith y Gwscwm i lawr ac un diwrnod cerddodd fy mrawd a finnau trosodd i Drimsaran i chwilio am waith. Y Manijer fan honno oedd E. V. Davies a chawsom waith ein dau i weithio yn y Green. Gwahanol iawn oedd hi i weithio yn y glo carreg ac yn enwedig gyda golwg ar y golau. Fan hyn Safety Lamps a ddefnyddid a gyda'r ergyd leiaf byddai'r golau yn mynd. Rhaid wedyn oedd cerdded allan ar hyd yr hedin i'r Cist lle y gellid cael y golau yn ô1. Profiad ofnadwy oedd hwn o gerdded yn y tywyllwch eithaf a cheisio canfod y gist yma a digwyddodd i mi nifer o weithiau - mor wahanol i'r Gwscwm - lle y gellid pobi wnionyn dros gannwyll erbyn amser bwyd. Wedi i ni fod yn cerdded i fyny heibio fferm Tynewydd a lawr i Waun y Clyn i fynd i'r gwaith, llwyddwyd i gael lori i'n cario ‘mlaen a nôl o'r gwaith, ac 'roedd hyn yn dipyn o welliant. Fodd bynnag dim ond i shifft y bore y ceid y gwelliant hwn ac nid oedd yn llesol o gwbl i'r bobl hynny a weithiai shifft y prynhawn a'r nos. Treth ofnadwy oedd cerdded i fyny heibio Tynewydd ac i lawr i Drimsaran a hynny'n enwedig pan oedd y tywydd yn wael. O hyd 'roedd y pictiwr o John Erasmus, ysgolfeistr Trimsaran, yn gwneud y daith hon bob dydd yn ein calonogi.
Bûm yn gweithio felly yn y Werdd yn Nhrimsaran hyd yr wythnos ddiwethaf ym mis Medi. 'Roeddwn fod i fynd i'r coleg i Gaerfyrddin ar y Sadwrn cyntaf yn yr Hydref ac felly hon fyddai'r wythnos ddiwethaf i mi weithio fel glöwr. Fel y digwyddodd hi shifft y nos a weithiem yr wythnos honno ac wedi i ni fynd i lawr ar y Spec trwy ddrifft Coeduan dywedodd y Fireman, Dic Lloyd wrth fy mrawd a minnau, nad oedd modd gennym weithio yn ein talcen ni'r noson na'r wythnos honno gan fod y lle wedi gwasgu yn ofnadwy yn ystod y penwythnos. 'Roedd lle i fy mrawd fynd at ryw golier arall i weithio ar y glo, ond i fi mai'r unig waith oedd ganddo oedd i mi fynd i 'ddramo' - golygai hyn wthio'r tramiau llawn o lo allan o'r talcenni a gwthio'r tramiau gwagio i mewn. Yn y gwaith hwn defnyddid tramiau mawrion ac nid oedd 'Ball bearings' wedi dod i fodolaeth i’r tramiau hyn y pryd hynny ac felly 'roedd hwn yn waith trwm iawn a minnau'n hollol anghyfarwydd ag ef gan na' fûm yn dramo o gwbl yn y Gwscwm. Felly wrth fynd heibio'r Fireman ar y nos Wener dywedais wrtho na fedrwn ddramo'r noson honno gan fod y migwrn yn achwyn gennyf. Felly cefais fynd i weithio ar y glo'r noswaith honno at frawd o'r enw Wilkins os cofiaf yn iawn. Wrth gerdded yn ô1 o'r gwaith y bore Sadwrn wedyn cydgerddwn â brawd o'r enw Danny Thomas o'r Graig. Wrth weld y bwndel tools ar fy ysgwydd gofynnodd i mi beth oedd yn digwydd. Dywedais wrtho fy mod yn mynd i baratoi fy hunan i fod yn athro a'i ateb ydoedd "John, peidiwch â bod yn ddwl, - ewch yn offeiriad yn lle". Ymhen rhai blynyddoedd wedi hyn bu farw Danny o'r cancr wedi cael cystudd hir. Nid euthum i'r gwely'r bore Sadwrn hwnnw gan fod gwaith pacio'r llyfrau, dillad ac yn y blaen yn barod i fynd y prynhawn hwnnw. Trwnc alcan oedd gennyf a rhaid oedd cael hwnnw wedi ei glymu'n saff gan mai cerbyd yr orsaf yng Nghaerfyrddin fyddai'n dod, a'r cyfan i fyny i’r coleg. Y cyntaf a gyfarfûm oedd bachgen o Garmel, Llandeilo, sef Arthur Trefor Davies a ni'n dau fu'r ddau ffrind trwy gydol fywyd y coleg. Daeth ef i'r coleg wedi gwneud blwyddyn o Student Teaching, ac felly 'roedd ef flwyddyn neu ragor yn iau na mi. Wrth baratoi rhai testunau yn y misoedd cyn mynd bwriedais gymerid hanes fel un testun ond yr athro a gofal y Gymraeg oedd J. E. Daniels o'r Felindre, Henllan, ac wedi cael ymgom ag ef, penderfynais newid i’r Gymraeg, er nad oeddwn wedi cwrdd â'r testun hwn yn yr Ysgol Sir. Wedi penderfynu hyn 'roedd Arthur a minnau yn cymryd yr un testunau yn gywir gan gynnwys Rural Science.
Yn yr Ysgol Sir, gwyddoniaeth gan gynnwys Cemeg a Metaleg oedd y ddau destun gore gennyf, ond wrth wneud Rural Science sylweddolais fod hwn yn cynnwys mwy o Bioleg na dim arall ac felly yn hollol newydd i mi. Er hynny 'roedd gwaith gardd yn gynwysedig a'r athro oedd Johnny Lloyd o Lanon, Aberystwyth ac yntau yn eithaf Gymro ac yn Fethodist i'r carn. Nid oedd llawer o amser rhydd yn y coleg, gan fod darlithiau gennym fore a hwyr a disgwylid i ni weithio ar y Dalton Plan, ac felly golygai hynny llawer prynhawn o waith hefyd i gael yr Assignments wedi eu cwblhau erbyn yr amser penodedig. Bûm yn ffodus iawn mewn cael Dormitory. Y flwyddyn honno agorwyd asgell newydd i'r coleg gyda lle i naw ugain yn ychwaneg i gael ystafelloedd iddynt eu hunain. Cefais i un o'r ystafelloedd newydd yma a thrwy hynny cymysgu llawer mwy gyda'r Seniors oherwydd hwy a gawsai'r cynnig cyntaf ar ystafelloedd y New Wing. 'Roedd yna nifer o fechgyn o'r ysgol Sir Llanelli, ymhlith y rhain, a dau ohonynt bron yr un oedran a mi sef Dai Hughes o'r Pwll a Donald Evans, Felinfoel. Yn ychwaneg darganfyddais fod dwy forwyn o Borth Tywyn ar y staff a'r ddwy hynny gyda'r bwyd. Un ydoedd merch Tom Davies, y Saer, Mansel Street a merch Edwin Ayre, Stepney Street. Nid oedd y bwyd yn rhy dda ac yn fynych fe gawswn i bwys o ymenyn oddi cartref a rhoi hwnnw yng ngofal y merched hyn. Ar wahân i’r menyn hyn dim ond Margarin a gawsem a hwnnw’n Pheasant Margarine, na welais cyn hynny a thrwy drugaredd na welais ar ôl hynny. O'r holl chwaraeon yn y coleg 'roedd yna ddau a ddaeth yn ffefrynnau gennyf, sef Badminton a Fives. 'Roeddwn yn bencampwr ar Fives yn yr Ysgol Sir, ond 'roedd y gêm yn wahanol iawn yn y coleg, gan ein bod yn chware gyda phêl fechan, weddol o galed, a’r ddau gwrt lle chwaraeem wedi eu cau o'r tu ô1 gyda drws bychan yn arwain i'r cwrt. Chwaraeid Badminton yn y Gym ac o bryd i'w gilydd deuai timau i fyny o'r dref i'n chwarae ni ac yna ymwelai tîm y coleg, a minnau yn eu plith, i lawr i'r dref i chwarae rhyw dîm fan honno. Ymhlith y Cymry yn y coleg tystiai bob un ei fod yn Fedyddiwr yn ei dro gan fod yna wahoddiad i bob Bedyddiwr i fynd allan i de unwaith bob mis at rai aelodau capel y Tabernacl. Bedyddiwr oedd Arthur, ac felly aethom yn weddol gyson i ddosbarth yr oedolion i Ysgol Sul y Tabernacl, ac ar Sul y Cymun wedyn allan i de at rywun neu'r gilydd, a mwynhau ychydig foethau am newid. Bûm yn ffodus hefyd fod gennyf berthynas weddol agos yn byw yn Priory Row, sef Anti Martha. Penderfynais ddod i lawr a'r beic oedd genny’ i lawr i Gaerfyrddin fel 'mod i'n medru seiclo nôl gartref ar ambell i benwythnos a threfnais ymlaen llaw â Anti Martha y cawswn ei adael yno gyda hi, oherwydd ni fuasai'n saff iawn yn y coleg. Nid oedd ganddi ormod o le ond tra y bu yno 'roedd y beic yn hollol saff. Un tro wrth ddychwelyd adref am y penwythnos a seiclo'r pymtheg milltir 'roedd genny’ Het Trilby ar yr handlebars, ac wedi mynd bron hyd rhiw Llandyfaelog sylweddolais fod yr het wedi mynd, ac er i mi fynd yn ô1 dipyn o ffordd i chwilio amdani, ni lwyddais i'w darganfod. Bu'r beic hwnnw gennyf oddi ar 1921, sef Raleigh 3 speed. Un Sadwrn yn gynnar yn y flwyddyn honno penderfynodd fy ffrind Willie Evans, Graig Goch a finnau fynd i Abertawe i weld Ffrainc yn chware Cymru ar Sain Helen. Wedyn yn syth wedi'r gêm trefnwyd ymlaen llaw fynd i lawr i siop beiciau Rhys Morgan i brynu beic yr un. Gwnaethpwyd hynny a daethom yn ô1 a’r ddau feic ar y trên. Wedyn pan fyddai'r tywydd yn caniatáu arferem fynd am daith ar y beiciau, ambell waith hyd Porthyrhyd, Cydweli, ambell waith ymhellach i Glanyfferi, ac un tro cofiaf i ni fynd trwy Benclawdd mor bell â Llanrhidian ym Mro Gwyr.
'Roedd Willie Evans wedi dotio ar Gwladys Williams, Mansel Street, ond ni fynnai hi wneud dim byd ag ef. Bu ef yn dilyn gwersi ar y crwth gan Wm. Richards, Llanelli ond ni ddaeth ddim byd o hwnnw. Aeth ef i fynychu'r dafarn yn ormodol a bu farw'n fachgen weddol ifanc a chladdwyd ef yn syth o flaen y capel yn Jerwsalem. 'Roedd yn fachgen galluog mewn llawer ffordd fel teulu'r Jemmys i gyd, ac ef a oedd fy ffrind ymhob chwarae gan fod y Frongoch a’r Tŷ fry, lle'm ganwyd yn ffinio a'i gilydd. Yn ddiddadl na fedrai ef fod cyrraedd y pinaclau pe bai wedi rhoi ei feddwl ar hynny ac ymegnio. Yn yr Haf 1925 yn ystod gwyliau'r coleg cymhellwyd fi i fynd i lawr i gynorthwyo gyda'r cynhaeaf yn fferm Cwmbrân, Penboyr. 'Roedd Dafydd Cwmbrân yn hanner brawd i Nwncwl Dafydd, Primrose House a deuai gwyr Cwmbrân i fyny'n aml i aros yn Primrose, drws nesaf i ni'r pryd hynny. Penderfynais fynd i lawr i Gwmbrân am wythnos neu ddwy felly a seiclais yr holl ffordd, pellter o ryw bymtheg milltir ar hugain.
Dysgais lawer iawn am ffermio yma ac mewn byr o dro 'roeddwn yn medru rhwymo ysgubai llafur gyda'r gore. Wrth ddechrau lladd cae o lafur danfonid dynion a phladuriau ganddynt i mewn yn gyntaf ac wrth y bladur 'roedd cadair. Pwrpas y gadair oedd i'r pladurwr fedru gosod y llafur i orwedd yn un rhes hir er mwyn i'r rhwymwyr a fyddai'n dilyn, gyflawni eu gwaith yn rhwydd. Yna wedi torri lle i'r Binder ddod i mewn byddai hwnnw yn cychwyn ar ei waith a'r unig dasg a gyflawnid gennym wrth ddilyn hwnnw oedd codi rhyw bedair ysgub, gan osod y brig i fyny a'u gosod wedyn i bwyso yn erbyn ei gilydd. Gwnaed hyn yn lle bod yr ysgubau yn gorwedd ar y ddaear ac er mwyn iddynt sychu yn barod i'w cywain i'r helem yn yr ydlan. Yr enw a roddid i'r pedair ysgub ar y cae oedd Stacan. Diwrnod pwysig iawn i bobl yr ardal oedd y dydd Iau diwethaf ym mis Awst, a gelwid ef Dydd Iau Mawr. Fel arfer 'roedd y cynhaeaf ŷd trosodd erbyn hyn ac ers blynyddoedd maith arferai'r bobl yn yr ardal fynd gyda'i gilydd i Aberporth i ddathlu diwedd y cynhaeaf, ac er mai'r bobl hyn fynnai fynd ar y diwrnod hwn elai 1lawer o'r bobl ifainc hefyd.
Dyma'r tro cyntaf i mi ymweld ag Aberporth erioed, ond 'roedd y môr yn rhy arw i mi fentro mynd i nofio tipyn. Oddi ar hynny, wrth gwrs, daeth Llangrannog yn bentref adnabyddus iawn i blant Cymru gan fod gwersyll yr Urdd wedi ei leoli ar fryncyn uwchlaw'r môr, ond y pryd hynny pentref bach tawel iawn ar lan y môr ydoedd a rhiw ofnadwy i fynd i lawr iddo.
Credaf i mi fod yng Nghwmbrân dros ddau dymor yn yr Haf a dysgais 1lawer iawn ynglŷn â gwaith fferm yn yr amser hwnnw a mwynhau'r daith i lawr a 'nôl ar y beic. Teulu heb iechyd oedd teulu Cwmbrân er hynny. Claddwyd David pan yn brin o'r ugain oed. Efe oedd yr ail fab a deuai ef i fyny i Borth Tywyn yn weddol aml am gyfnod gan nad oedd yn gryf.
Jos, y mab hynaf, oedd â busnes crynhoi wyau. Ychydig iawn o waith fferm a fedrai ef ei wneud, ac allan, gyda phoni a thrap yr oedd ef bob dydd yn mynd oddeutu'r ffermydd. Gwerthai ef yr wyau wedyn i Evan Rees, Abertawe a deuai fan hwnnw oddeutu unwaith bob wythnos. Yn 1934 priododd ef â Nellie Rees, fy nghyfnither a gyda ni yn Llystroiddyn Lodge, Pumsaint, y treuliasant eu mis mêl. Aeth y pâr i fyw i Hillside Stores, Felindre a chariai Jos ymlaen â'r busnes crynhoi wyau o hyd, tra bu Ne1lie yn edrych ar ô1 y siop. Bu farw Jos tua 1960 a bûm i lawr yn gwylad yno am noson neu ddwy pan yr oedd efe yn bur wael.
'Roedd dau fab arall yng Nghwmbrân, sef Sam a William. Henry. Priododd Sam a merch o Langeler ac aeth i ffermio Bwlch y Domen, ac yno y mae o hyd. Priododd y ferch Catrin a Don Rammage, ac efe ydyw ysgolfeistr Pontgarreg ar hyn o bryd. William Henry barhaodd yn Fferm Cwmbrân, ond bu ef farw hefyd yn gynnar mewn bywyd gan adael dau o blant, a John y mab sydd yng Nghwmbrân heddiw, wedi priod a merch o Dregaron. Ynglŷn â'r ddwy ferch priododd Sara a J. Evans ac aeth i ffermio i Glawcoch, ond claddwyd hi yn weddol ifanc. Priododd Dina a Harries, ac aeth i ffermio i Glynmarch, ond bu farw'r gŵr yn ifanc, ac ail briododd hi â gwidman o'r enw Bowen o Felindre. Claddwyd hi tua 1974 ym mynwent Penboyr lle 'roedd claddfa'r teulu. 'Roedd Cwmbrân, yn fferm fawr a thir da iawn ar y cyfan.
Daeth dyddiau'r coleg i ben ym Mis Mehefin 1926 ond heb yr un gobaith cael swydd athro yn Sir Gar am gryn amser. Cafodd rai bechgyn, y rhai oedd a thipyn o ddylanwad ganddynt ar y cynghorwyr swyddi cyn diwedd y flwyddyn. Cafodd llawer o'r bechgyn yn y flwyddyn honno swyddi hefyd ymhell ac agos ac amryw ohonynt yn mynd i Lundain. Ond hytrach na mynd i ffwrdd fel hyn penderfynais i fynd yn ô1 i'r lofa, a chefais waith yn y Pembrey Collieries ar bwys gartref. Erbyn hyn 'roedd y gwaith hwn wedi gweithio'r glo i gyd ar y North Crop a'r headings 'nawr i gyd ar y South Crop. 'Roedd rhai o'r lleoedd yn y gwaith o dan wyneb y môr, ac un noson methai un glöwr a deall beth oedd y sŵn a glywai. 'Roedd hwn hefyd yn digwydd bod yn hoffi yfed cwrw ac felly'r ateb a gafodd oddi wrth ei ffrind, oedd bod y tafarnwr yn yr Harbour View yn tapo casgen o gwrw ac mai hynny oedd i gyfrif am y sŵn. Yn ystod yr adeg hon ni chefais le penodol i weithio o gwbl. Mwy na thebyg teimlai'r Manijer, Willie Williams na fuaswn yn hir iawn cyn cael swydd athro, ac nad oedd llawer o bwrpas iddo roi lle i mi ar fy mhen fy hun. Ond yn yr adeg hon y bûm i'n gweithio yn yr uchder lleiaf o gwbl tra yn y gwaith glo.
Yn y man lle 'roeddwn yn gweithio 'roedd y glo wedi mynd yn drwch bach iawn, set tua 14 modfedd, a'r Manijer yn awyddus i gael twll trwyddo er mwyn i'r awyr drafaelu. Ychydig a fedrwn i wneud yn yr uchder hwn ond ceisio cael y glo yn rhydd wrth ddefnyddio mandril mewn un llaw a chrafu'r glo yn ôl a'm llaw. 'Roeddwn yn falch dros ben pan ddaeth y gorchymyn i mi symud i fan arall a gadael y twll hwnnw. Dyna'r man i gael claustrophobia gan fy mod yn gorfod crafu i mewn ac allan ar fy hyd. Ym mis Medi o'r flwyddyn honno, gofynnwyd i mi gan T. G. Thomas athro ym Mhorth Tywyn, a hoffwn i gymerid dosbarth nos mewn Mining yn ei le ef a bûm yn falch iawn o'r cynnig. Bu'r dosbarth yn un weddol o lwyddiannus. Fodd bynnag wrth gyrraedd adref o'r gwaith ar ddydd Mercher, Mehefin 10fed 'roedd llythyr yn fy aros yn gofyn i mi gymeryd gofal o ysgol yr eglwys yn Felinfoel o ddydd Llun yr 16eg ymlaen. Dr J. H. Williams, Snowdon House, oedd y cynghorwr Sir ar y pryd, ac efe fu'n gweithio i'm cael i mewn fel Supply Teacher.
'Roedd llawer o'r bechgyn a ddaeth allan o'r coleg 'run pryd a fi wedi cael swyddi o'm blaen. Cafodd Albie Jones, Pencader swydd athro ym Mynydd-y-garreg; A. T. Davies, Carmel swydd yn ysgol y Tymbl; ac Alwyn Stephens, Llanllwni swydd ysgolfeistr yn Parcylan. Gweithiais hyd ddiwedd yr wythnos fodd bynnag ac ar fore Llun mynd i fyny i Felinfoel a chymryd lle un o'r enw Wigley(?) Griffiths, oedd yn sâl ar y pryd. Efe hefyd oedd organydd yr eglwys. ‘Roedd gan fy mrawd fotor beic bychan ar y pryd, - pwy brynodd hwnnw nis gwn ond yn sicr fod gan fy rhieni siâr ynddo, oherwydd cefais ei fenthyg i fynd i fyny bob dydd. Francis Barnet Two Stroke oedd y beic a gwnaeth waith da i mi.
Yr athro yn Felinfoel oedd Reggie Rees a bu ef o gryn gymorth i mi er llenwi'r gwahanol ffurflenni i mewn a gyrru'r Pay sheets etc i ffwrdd. 'Roedd yna dros gant o blant yn yr ysgol hon ar y pryd a minnau'n ddibrofiad iawn. Mrs Delaney oedd un o'r athrawesau a medrai hi ddisgyblu'n llym gan fod ganddi bersonoliaeth gref. Tipyn o sialens oedd cymerid gofal o ysgol weddol fawr fel hon a'r adeilad yn hen iawn, ond bûm yn ffodus yn y staff gan eu bod yn barod i helpu ar bob amgylchiad. Wedi bod yn Felinfoel am tua mis o amser gofynnwyd i mi fynd i ysgol y Bryn, Llanelli i gynorthwyo. Yr ysgolfeistr ar y pryd oedd Morris, ac yntau ar fin ymddeol. Nid oedd llawer o gymdeithas yn yr ysgol hon ac felly byddwn yn mynd am dro amser cinio i fyny i ben y rhiw sy'n arwain i lawr i Langennech. Nid oedd y Bryn yn ysgol llawer mwy na Felinfoel C of E a byr fu fy arhosiad yno, gan i gais ddod yn gofyn i mi fynd i gynorthwyo i Rydaman Council lle 'roedd yr anfarwol John Lewis Y.H. yn ysgolfeistr. Dyn bychan iawn o gorffolaeth oedd hwn, ond un yn byrlymu gan egni a phwysigrwydd. Ar y staff yma 'roedd Bryn Roberts ac ymunodd ef a staff yr Ysgol Gyfun yn Rhydaman ymhen rhai blynyddoedd. Efe oedd tad Mrs. Enid Morgan, gwraig Gerald, sef pennaeth Ysgol Penweddig Aberystwyth. Mynd ar y trên i fyny trwy Langennech, Pontarddulais bob dydd a wnawn i fynd i'r ysgol hon.
Ar ddiwedd y tymor, cefais orchymyn i gymerid gofal o ysgol Cwmifor, Llandeilo ar ddechrau mis Medi. 'Roedd hon yn dipyn o daith, ac felly wedi gweld hysbysiad yn y 'Star' fod motor beic ar werth ym Mhontiets, aeth Robert Jones i fyny a mi i gael ei weld. 'Roedd ei berchen yn bwriadu mynd i'r coleg i baratoi ei bun er mwyn mynd i'r offeiriadaeth. 'New Imperial' 23/4 H.P. oedd y beic ac ‘roedd wedi ei lanhau a'i drwsio yn dda. Ar Medi'r 1af 1927 felly dechreuais allan tua hanner awr wedi saith i fynd i gymeryd gofal o ysgol Cwmifor, gan fod T. H. Griffiths wedi cael apwyntiad newydd fel ysgolfeistr Llandeilo. Cyrhaeddais yn ddiogel tua hanner awr wedi wyth ac am naw o'r gloch dyma'r ddwy athrawes yn cyrraedd, sef Miss Sallie James a Miss Davies o Garmel. Cefais wybod ar unwaith fod Miss Davies yn chwaer i A. T. Davies, fy ffrind gore yn y coleg. Y dasg gyntaf a gefais oedd chwilio am le i aros a chefais wybod ar unwaith fod Mr a Mrs. Lewis, Mayrose Hill yn barod i roi lle i mi a'r tŷ hwn yn gyfleus iawn i'r ysgol a drws nesaf i Blascanol lle arhosai'r ddwy athrawes. Felly erbyn yr ail wythnos gorffennais a theithio'n ddyddiol, ac euthum i aros yn Mayrose Hill a thalu gini'r wythnos am fy lle.
Bu'n wythnos braf a'r ddwy athrawes eisiau mynd un noson i lawr i lan yr afon Tywi i bigo Eirin Duon Bach, a chefais weld tipyn o'r ardal. Un dydd Llun yn fuan wedyn 'roedd Miss Davies yn absennol o'r ysgol a gofynnais i Miss James a oedd hi'n teimlo fel mynd am dro'r noson honno gan ei bod hi heb gwmpeini a chytunodd hi. Dyna ddechrau ar y garwriaeth a arweiniodd, chwe blynedd yn ddiweddarach i'n priodas yng Ngosen, Llangadog. Bûm yn brysur iawn yn gofalu am yr ysgol, am dŷ'r ysgol ac am ardd Tŷ'r Ysgol. 'Roedd y plant wrth eu bodd yn mynd allan i'r ardd am awr a manteisiais ar y cyfle i ddysgu'r bechgyn sut i graffto coed afalau. Daeth un o'r bechgyn hynny wedyn yn arddwr proffesiynol gan fynd i ofalu am dai gwydr sy'n perthyn i Gwynfor Evans, Y Dalar Wen. Bertie Williams oedd hwnnw a thrigai efe mewn tŷ o'r enw Bryndeilo.
Un Sadwrn y mis Ebrill a minnau wedi aros yng Nghwmifor dros y penwythnos, am ryw reswm cyrhaeddodd brys neges i Mayrose Hill yn dweud wrthyf am fynd i ofalu am ysgol Blaentwrch y bore Llun canlynol. Gwyddwn fod Mr John Thomas, yr ysgolfeistr yno wedi ei apwyntio yn ysgolfeistr Cwmifor ac felly 'roeddwn i i gymryd ei le. Felly ar y bore Llun teithiais i fyny trwy Dalyllychau, Crugybar, Pumsaint a Farmers i fyny i Gwm Twrch, a mynd yn syth i fferm Tycerrig i ofyn am lodjin. Cefais le i aros yno a merch y fferm yn mynychu'r ysgol a gofalu am lanhau. Dim ond deg o blant oedd yno a minnau a'r dasg o dreio addysgu'r rhain o'r babanod i fyny i'r plant yn ei arddegau. Ar y nos Fawrth dywedwyd wrthyf gan fachgen y fferm eu bod yn mynd i hela'r cadno. Ymunais a hwy a chroesi'r fewn i'r allt yr ochr draw. Wedyn cyrraedd y man gyrrwyd y terrier i mewn i'r twll wedi ceisio cau'r tyllau eraill i gyd. Ond rhaid bod un twll heb ei gau, oherwydd mewn ychydig funudau daeth mochyn daear allan trwy dwll na wyddai neb amdano. Anelodd y cŵn amdano, ond ni feiddiai'r un ci ymosod arno gan mor ffyrnig y dangosai ei ddannedd ac ni fedrai un o'r bechgyn ei saethu oherwydd agosrwydd y cŵn ato ac felly dihangodd y mochyn daear ac ni chafwyd rhagor o sbort.
Ar y nos Fercher, trwy drefniant, euthum 'nol i Mayrose Hill a dychwelyd i Blaentwrch fore trannoeth. Gwneuthum yr un peth nos Wener oherwydd bod y daith yn un ormodol ar fore Llun o Borth Tywyn. Ar y bore Sadwrn, a minnau newydd godi dyma frys neges o'r swyddfa yng Nghaerfyrddin yn cyrraedd eto gyda'r gorchymyn i mi fynd i gymerid gofal o ysgol Llanillion. Ni wyddai neb am y lle hwn, ac felly gorfu i mi fynd i lawr i Landeilo i ffonio i gael gweld lle 'roedd y lle hwn. Dywedwyd wrthyf mai ysgol Llanllwni ger Llanybydder oedd y lle ac felly yn gynnar ar fore Llun gorfu i mi deithio gyntaf i Blaentwrch, gan fod allweddi'r cypyrddau etc. fan honno yn fy mhoced, ac yna mlaen i Lanllwni drwy Ffaldybrenin a Cwmann. Ni wyddwn yn iawn le'r oedd Llanllwni ond ei fod ar yr heol fawr ryw ddwy filltir yr ochr draw i Lanybydder, ac felly pan welais hen wraig yn golchi carreg y drws, arhosais i holi iddi a gofyn lle 'roedd ysgol Llanllwni. Daeth yr ateb fel tipyn o sioc i mi oherwydd dywedodd 'Chi yw Mr Emanuel?' Atebais mai dyna fy enw, ac yna dywedodd 'Mae Gerwyn ni i fyny wrth yr ysgol yn aros i chi a chofiwch ddod 'nol yma i ginio'. Wedi i mi ddod at yr ysgol, gwelais mai Gerwyn Eynon oedd y dyn, yr hwn a weithiai yng nglofa'r Gwscwm 'run pryd a fi ac a drigai gyda Mrs. David yn Heol Gwscwm. Yna cefais wybod fod rhieni'r plant yn yr ysgol hon wedi ymatal danfon y plant i'r ysgol ers tair wythnos oherwydd eu diffyg ffydd yn yr ysgolfeistr Mr Rees. Ond y bore hwn 'roedd y plant i gyd yn yr ysgol gan fod Mr Rees wedi ei ddanfon i ofalu am ysgol Blaentwrch, a minnau wedi ei gwrdd yn fferm Tycerrig y bore hwnnw.
'Roedd Mr Rees yn gawr o ddyn ond tipyn yn annoeth, a bu ef yn teithio o ysgol i ysgol gan gynnwys Crugybar, Ponthenri a Phontiets cyn gorffen ac ymddeol. Trigai ef bron gogyfer a'r ysgol a chanddo un bachgen yn yr ysgol sef, Victor, yr hwn sy'n byw'n awr yn Rhydaman. Mae'n debyg i Mr Rees gydio yng ngholer côt un archwiliwr ysgolion a dangos y drws iddo. Ar y staff yn Llanllwni, ysgol yr eglwys y pryd hynny 'roedd Miss Jones, a Miss M. M. Thomas, yr olaf yn perthyn i D. Walter Thomas, Rhydhowel fawr. Ymhen amser priododd hi a Mr Morgan, yr hwn a ddaeth yn rheolwr banc i'r Tymbl. Bu ef farw a symudodd y weddw i San Clêr lle 'roedd ei brawd yn ysgolfeistr. Yn ddiddadl, fod y plant a'r adeilad wedi eu hesgeuluso yma, a hyd yn oed galeri yn bod o hyd yn ystafell y plant bach. Pan ddaeth yr Haf gwneuthum gais i'r llywodraethwyr i gael y galeri hwn wedi ei symud, ac erbyn dod 'nol ym Mis Medi 'roedd hwn wedi mynd a'r llawr yn wastad. Cwrddais â'r ddwy athrawes hyn yn ysgol Haf y Barri'r flwyddyn wedyn, sef 1929 a bûm lawer yn eu cwmni. Dyma'r unig ysgol y bûm ynddi lle 'roedd trefniant i fwydo'r plant adeg cinio dros dymor y Gaeaf trwy baratoi cawl. Mrs. Courtenay Mansel a'r Manor oedd y prif drefnydd ynglŷn â hyn, ond ni chefais y fraint o weld y cynllun yn gweithio, oherwydd i mi ym mis Medi cael fy ngorchymyn i fynd i ofalu am ysgol Cilycwm gan fod John Rees, Cydwely wedi cael yr apwyntiad i Lanllwni. Treiais i amdani a chael llawer o gefnogaeth, ond eglwyswr oedd eisiau.
Bûm yn hapus iawn yn Llanllwni gyda'r Eynons a'r ddwy ferch oedd gartref, sef Glenys ac Olive. Priododd Olive ac aeth i fyw i'r Barri ond bu farw Glenys yn weddol ifanc. Y drefn fan hon ynglŷn â thalu'r staff, oedd danfon un siec i'r ysgol feistr ac yntau wedyn i dalu'r unigolion. Derbyniais un siec felly ar fore Sadwrn a mynd i lawr i'r Banc yn Llanybydder i'w newid. Y noson honno oedd noswaith y ffair yn Llanybydder, ac wedi i mi fynd i'm hystafell wely synnwyd fi gan i nifer o fotor beiciau dynnu lan wrth y tŷ. Yn syth cuddiais yr arian rhwng dillad y gwely, gan ei fod yn swm gweddol ac mewn tipyn daeth y bechgyn at y drws a gofyn am damaid o ddŵr. Cawsant y dŵr ac aethant 'nol at y motor beiciau, ond ymhen ysbaid daethant eto at y drws, ond y tro hwn gwelsant Mrs. Eynon a dryll ganddi yn ei dwylaw a dweud wrthynt am fynd i ffwrdd ac ufuddhasant ar unwaith. Mae'n debyg mai eisiau gweld y merched yr oeddynt. Symudodd Gerwyn ymhen blynyddoedd i fyw i Randirmwyn, ac yno y bu farw.
Bûm allan yn saethu llawer iawn yn Llanllwni, ac yn yr Haf yn ymolchi yn yr afon Teifi. Dyma'r unig fan i mi weld pont casgen erioed. Os oeddech am groesi'r afon i fynd draw i Lanwnnen 'roedd yna hanner casgen i chwi fynd i mewn iddi ac yna medrech dynnu eich hunan ar draws yr afon i'r ochr draw. Rhyw deulu rhyfedd oedd teulu Syr Courtenay Mansel ym Maesycrugiau gyda phump o ferched gartref ac yn canolbwyntio ar hela, yn arbennig y dwrgi, ac nid oedd y teulu'n boblogaidd o gwbl yn yr ardal. Wrth ganu'n iach i Lanllwni rhaid dweud fod un teulu yno o berchid yn fawr, sef teulu Hughes, Pentop, gyda John Hughes yn ŵr academaidd a ddaeth yn bennaeth yr adran addysg yng Ngholeg Toronto a Mary Hughes a briododd Lewis, Gwasg Gomer. Daeth y ddau hyn i'r ysgol un prynhawn gyda ffurflen i'w llawnodi gan fod eu brawd, oedd yn berchen garej i farw yn ddisymwth iawn, a'r plant yn yr ysgol. 'Roedd Mary Hughes, wrth gwrs, yn ddramodydd o safon uchel.
Cychwynnais a gofal ysgol Cilycwm, ysgol eglwys eto, yn yr Hydref ac euthum i aros at Miss Morgan, Green Lodge. Ardal ddiddorol iawn ydoedd hon a'r plismon a drigai yno yn dod o Benbre, sef mab Rhys y gof, yr hwn a gadwai efail wrth y Pemberton.

