CAIACh

Mae’r Ganolfan Astudiaethau Iaith, Addysg a Chymuned (CAIACh) yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd a Iaith: y ganolfan cynllunio iaith.

Nod y Ganolfan

Datblygu gweithgareddau addysg a hyfforddiant mewn perthynas â chynllunio iaith, hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a datblygu sgiliau dwyieithog

Datblygu rhaglen ymchwil ar y cyd ar themâu perthnasol i iaith, addysg a chymuned.

Mae’r rhaglen waith ddechreuol yn cynnwys:

  • Cefnogi datblygiadau yng nghyswllt y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd
  • Datblygu prosiectau ymchwil yn y maes Iaith, Addysg a Chymuned
  • Datblygu tystysgrif ôl radd proffesiynol mewn cynllunio iaith cymhwysol
  • Datblygu modiwlau cynllunio iaith i’w dilysu ar lefel gradd
  • Achredu fframwaith o hyffordiant mewn swydd a ddarperir gan IAITH
  • Sefydlu dulliau i achredu dysgu a phrofiad blaenorol yn y maes

Cyfarwyddwyr : Dr Christine Jones / Gareth Ioan

Polisi a Chynllunio Iaith (Tystysgrif ôl radd*)

Cynigir y dystysgrif ôl-radd hon trwy bartneriaeth rhwng Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd y Brifysgol ac IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Mae’n cyfuno astudiaethau academaidd a phrofiad cymhwysol yn y maes.

I bwy mae’r dystysgrif?

Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio yn y maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned. Bydd yn rhoi sail gadarn i fyfyrwyr o ran deall prif gysyniadau cynllunio iaith a datblygiad y maes fel gweithgaredd proffesiynol dros y degawdau diweddar. Bydd y cwrs hefyd yn cynnig cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain.

Mae’r cwrs hefyd o ddiddordeb i raddedigion newydd sy’n ystyried gyrfa yn y maes cynllunio iaith a threfnir profiad gwaith yn rhan o’r cwrs.

Beth fydda’ i’n astudio?

Dau fodwl sydd i’r dystysgrif: Hanfodion Cynllunio Iaith a Hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae’r modwl Hanfodion Cynllunio Iaith (30 credyd) yn cyflwyno myfyrwyr i wreiddiau’r ddisgyblaeth, cysyniadau allweddol a dulliau gweithredu ynghyd â datblygiad polisi cyhoeddus yng nghyswllt y Gymraeg dros y degawdau. Mae’r modwl hefyd yn cyfeirio at sefyllfa ieithoedd cyfansoddiadol, rhanbarthol a gwladwriaethau llai eraill.

Mae’r modwl Hyrwyddo’r Gymraeg (30 credyd) yn edrych yn feirniadol ar yr ymdrechion i adfer y Gymraeg dros y 50 mlynedd diwethaf - datblygiadau mewn polisi a deddfwriaeth, datblygiadau mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a gweithgareddau i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad.

Sut fydda’ i’n astudio?

Bydd y dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, gwaith darllen, 4 aseiniad a phortffolio ar sail gwaith maes. Crynhoi’r darlithoedd a’r seminarau i 8 cyfnod o ddeuddydd yn ystod y flwyddyn. Cyflwynir y modylau yn Gymraeg a gallwch gyflwyno eich gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Faint fydd e’n costio?

Mae’r ffioedd yn cael eu gosod yn flynyddol. Cewch y ffioedd cyfredol ar wefan y Brifysgol: www.ydds.ac.uk. Gallwch holi am fwrsariaethau drwy gysylltu â Phennaeth yr Ysgol.

Cysylltu

Am wybodaeth bellach am y dystysgrif, ffioedd a bwrsariaethau ffoniwch ni ar 0300 5001822 neu gyrrwch e-bost at c.m.jones@ydds.ac.uk

 *i’w dilysu