Croeso
Croeso i Ysgol y Clasuron ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r Clasuron wedi bod yn bwnc dysgu yn y Drindod Dewi Sant ers i Goleg Dewi Sant agor ym 1822. Hon felly yw Adran Clasuron hynaf Cymru.
Mae safon yr addysgu yn yr Adran wedi bod yn gryfder nodedig erioed, ac yn yr Asesiad Ansawdd Addysgu diweddaraf, nodwyd ei bod yn ‘rhagorol’. Rydym yn falch o’r berthynas sy’n bodoli rhwng y darlithwyr a’r myfyrwyr, ac sy’n gysylltiedig â’r gymhareb ardderchog rhwng staff a myfyrwyr. O ganlyniad, cewch gyfarwyddyd manwl am gyrsiau drwy gydol eich arhosiad yma. Does dim pall ar ein brwdfrydedd, a gobeithio y bydd ein brwdfrydedd dros y Clasuron yn ennyn diddordeb ynoch yn y Byd Clasurol a fydd yn parhau am weddill eich oes.
Mae gennym nifer gynyddol o fyfyrwyr israddedig o bob oedran a chefndir, sy'n dilyn ystod o gyrsiau gradd anrhydedd sengl a chydanrhydedd sy’n cynnwys y Clasuron, Hanes yr Henfyd, Astudiaethau Clasurol, a (ar y cyd â’r Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg) Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg ynghyd â Hanes yr Henfyd a'r Canol Oesoedd.
Mae gan yr Ysgol hefyd nifer sy’n prysur ddatblygu o fyfyrwyr ôl-raddedig, boed yn rhai preswyl neu’n rhai sy’n gweithio o bell. Mae cynnydd y garfan olaf hon yn adlewyrchu cadernid ein hymroddiad i'r ymdrechion i gyrraedd myfyrwyr y tu hwnt i'r campws uniongyrchol. Felly, yn ogystal â’r graddau Ymchwil a’r graddau Meistr traddodiadol, ar y campws, mae’r Ysgol yn cynnig ei graddau PhD, MPhil ac MA i fyfyrwyr o bell, yn ogystal â Diplomâu Ôl-raddedig mewn Groeg a Lladin.
Er 1994, mae’r Ysgol hefyd wedi cynnal Gweithdy Haf llwyddiannus dros ben mewn Groeg a Lladin, ac yn ystod y cyfnod hwn caiff grwpiau bach eu tiwtora mewn Groeg a Lladin ar lefelau dechreuwyr, canolradd ac uwch. Daw pobl o bob cwr o’r byd, o bob cefndir academaidd ac o bob grŵp oedran.
Cysylltu â ni
Ysgol y Clasuron,
Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant
Llanbedr Pont Steffan,
Ceredigion,
SA48 7ED,
Y Deyrnas Unedig.
Ffôn: (01570) 424723
Ffacs: (01570) 424995
e-bost: classics@
ydrindoddewisant.ac.uk


