Y Cyfnod Sylfaen: 3 - 7 oed
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn her fawr ac yn gyffrous tu hwnt. Mae'n gofyn i ni edrych o'r newydd ar ddysgu plant ac ar eu chwarae. Mae'n rhaid i ni edrych ar ein rôl ni fel oedolion yn wahanol gan symud o'r hen gysyniad o 'addysgu' ac 'athrawon' i syniadau newydd yn ymwneud â hyrwyddo, galluogi ac arsylwi.
Mae'r Ysgol Plentyndod Cynnar wedi bod yn rhan o'r Cyfnod Sylfaen ers blynyddoedd. Roedd Siân Wyn Siencyn, Pennaeth yr Ysgol, yn aelod o Grwp Blynyddoedd Cynnar Gweinidog Addysg Llywodraeth y Cynulliad fu'n datblygu'r syniad ac, fel Ysgol, rydyn ni wedi bod yn weithgar iawn mewn hyfforddi.
Rydym yn cynnig ystod o raglenni ar bob lefel, i'ch cynorthwyo i wynebu'r her yn hyderus:
- Diploma ôl radd yn y Cyfnod Sylfaen (Lefel 7)
Gall y cymhwyster hwn arwain at MA Addysg Blynyddoedd Cynnar - Tystysgrif Addysg Uwch yn y Cyfnod Sylfaen (Lefel 4)
Gall y cymhwyster hwn arwain at BA Addysg Blynyddoedd Cynnar - Tystysgrif Addysg Uwch: Cymraeg ac arfer Dwyieithog yn y Cyfnod Sylfaen (Lefel 4)
Cyrsiau byr (1 neu 2 diwrnod), er enghraifft:
- Deall chwarae a chynllunio ar gyfer chwarae
- Arsylwi a chofnodi dysgu trwy chwarae
- Chwarae allan (rhaid wrth welis - sibwts!)
- Cymraeg a dwyieithrwydd yn y Cyfnod Sylfaen
- Creadigrwydd yn yr awyr agored (eto, welis - sibwts yn angenrheidiol)
- Sgiliau meddwl: y plentyn ifanc yn feddyliwr creadigol
- Sgwrsio, gwrando, deall: hybu cyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar
Rydym yn cynnig y cyrsiau byr ar y campws neu gallwn ddod atoch chi.
I drafod eich anghenion hyfforddi yn ymwneud â'r Cyfnod Sylfaen, cysylltwch â a.gealy@ydrindoddewisant.ac.uk
Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.



