Gweld pob eitem o'r newyddion...

Arddangosfa ac Arddangosiad o Waith Myfyrwyr (26 a 27 Mai 2011)

19.05.2011

Estynnir gwahoddiad cynnes i chi a’ch gwestai/gwesteion i ddigwyddiad cyffrous sef Arddangosfa o Waith Myfyrwyr yr Ysgol Celf, Ffilm a’r Cyfryngau (Llambed) eleni.  Cynhelir y digwyddiadau yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (campws Llambed).

Eleni mae gennym atyniad ychwanegol ar eich cyfer. I ddathlu amrywiaeth arbennig gwaith ein myfyrwyr yn y Diwydiannau Creadigol byddwn yn cynnal arddangosiad o’u gwaith. Cewch weld enghreifftiau o’u ffilmiau, dyluniadau gemau, traethodau ymchwil, gwe-ddyluniadau, ffotograffiaeth ddigidol a thraddodiadol a gwaith darlunio comics. Os hoffech fynychu’r digwyddiadau hyn, mae croeso i chi alw draw. Dyma’r manylion: 

Arddangosfa’r Myfyrwyr: Dydd Iau, 26 Mai 2011. Bydd yr agoriad swyddogol a’r Arddangosfa’n cychwyn am 7pm. 

Arddangosiad o Waith y Myfyrwyr: Dydd Gwener, 27 Mai 2011.

Bydd yr agoriad swyddogol a’r Arddangosiad yn cychwyn am 5.30 ac yn dod i ben tua 7pm. 

Bydd derbyniad diodydd yn y ddau ddigwyddiad.

Gwybodaeth Bellach

s.gerrard@tsd.ac.uk





Gweld pob eitem o'r newyddion...