Croeso
Croeso i Ysgol Astudiaethau Diwylliannol sy’n cynnwys graddau i israddedigion a graddedigion mewn Astudiaethau Tsieineaidd, Ysgrifennu Creadigol, Saesneg ac Athroniaeth.
Mae myfyrwyr a staff yr Ysgol wedi ymrwymo i werthoedd deallusol cyffredin a phrofiad addysgol sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr: cred mewn datblygu unigolion trwy arfer beirniadol, dadansoddol a chreadigol, ac archwilio ystod eang o syniadau, gwerthoedd a chredoau. Bydd sgiliau a ddysgir ar ein graddau ni yn eich cyfoethogi fel unigolyn ac yn eich galluogi i lwyddo mewn byd sy’n gosod pwyslais cynyddol ar feddwl yn feirniadol ac yn greadigol.
Mae arolygon Bodlonrwydd Myfyrwyr yn cadarnhau barn ein myfyrwyr fod y lle hwn yn un cyfeillgar, cefnogol a chyffrous i astudio.

