Croeso i Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg

Mae’r Ysgol ymhlith y mwyaf yn y Brifysgol ac yn cynnwys tair disgyblaeth boblogaidd Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg, yn ogystal ag Academi Treftadaeth Cymru, Gwasanaeth Archaeolegol Prifysgol Cymru (UWLAS), a Chanolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant.

Trip Archaeoleg - Caerwent

Mae’r Ysgol yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer dull astudio unigryw a rhyngddisgyblaethol.  Achos os mai Anthropoleg sy’n rhoi'r offer damcaniaethol i ni ddeall a datgloi'r presennol, wedyn mae Archaeoleg a Hanes yn mynd â’r un arfau damcaniaethol i’n helpu i ddatgloi, archwilio ac esbonio’r gorffennol.

Mae’r Ysgol yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer dull astudio unigryw a rhyngddisgyblaethol. Achos os mai Anthropoleg sy’n rhoi'r offer damcaniaethol i ni ddeall a datgloi'r presennol, wedyn mae Archaeoleg a Hanes yn mynd â’r un arfau damcaniaethol i’n helpu i ddatgloi, archwilio ac esbonio’r gorffennol.

Mae’n staff yn weithgar mewn ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu maes. Maent yn cyhoeddi yn eang mewn ffurfiau amrywiol, o fonograffau a chasgliadau wedi eu golygu, i gylchgronau wedi’u hadolygu gan gydweithwyr ac adroddiadau safle. Cafodd yr Ysgol lwyddiant mawr yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) diwethaf gyda dros 50% o’i chynnyrch ymchwil yn cael ei ystyried o ansawdd rhyngwladol a chenedlaethol. Mae hyn yn helpu creu diwylliant ymchwil bywiog, sy’n sail i seminarau a chynadleddau rhyngddisgyblaethol gyda chydweithwyr o Ysgolion eraill, yn enwedig Ysgol y Clasuron.

Mae’n harbenigedd ymchwil yn bwydo i’r addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig fel ei gilydd. Rydym yn cynnig ystod o raglenni israddedig, o astudiaethau sylfaen eang mewn Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg i rai mwy arbenigol mewn Astudiaethau’r Oesoedd Canol, Hanes yr Hen Fyd ac Archaeoleg, Hanes yr Hen Fyd a’r Oesoedd Canol, Archaeoleg Ymarferol ac Archaeoleg Amgylcheddol. Ar lefel ôl-raddedig rydym yn cynnig rhaglenni MA preswyl neu o bell mewn Anthropoleg Gymdeithasol, Anthrosŵoleg, Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg. Archaeoleg Gymdeithasol, Hanes Lleol, Astudiaethau Hanesyddol (yr Oesoedd Canol), Astudiaethau Hanesyddol (Cyfoes), Gwareiddiadau Môr y Canoldir a Rheoli Tir ac Archaeoleg Amgylcheddol.

Beth bynnag eich rhaglen rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol, sydd ar raddfa fach ac yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ac yn gweithredu mewn perthynas agos a chytûn rhwng y tiwtor a’r myfyriwr. Mae’n rhaglenni yn sefyll ar wahân o ganlyniad i ddull astudio sy’n seiliedig ar ymarfer, ac sy’n mynd â chi o’r ystafell seminar ac i’r maes, boed hynny yn safle cloddio i Archaeolegwyr mewn adfeilion Abaty Canoloesol lleol, neu gynnal hanesion llafar ac astudiaethau ethnograffig i Anthropolegwyr, neu i Haneswyr yn gwneud dadansoddiad dogfen manwl ar lawysgrifau gwreiddiol yng Nghanolfan Ymchwil Roderic Bowen.

Mae’r Ysgol hefyd yn ymglymu mewn ystod o brosiectau a leolir yn y gymuned leol.  Datblygiad safle Canoloesol Ystrad Fflur fel cyfleuster addysgol i'r gymuned ehangach, y prosiect Cymru Fynachaidd sy’n crynhoi ac yn categoreiddio safleoedd Mynachaidd ar draws y dywysogaeth, a’n gwasanaeth ymgynghorol proffesiynol (UWLAS) sydd, ymhlith ei fentrau amrywiol, wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad prosiect llong Casnewydd.