Trosglwyddo Ymchwil, Ysgolheictod a Gwybodaeth

Ystyria’r Brifysgol fod Trosglwyddo Ymchwil, Ysgolheictod a Gwybodaeth yn rhan annatod o’i gwaith mewn Addysg Uwch. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu eich diddordeb, boed hynny fel darpar fyfyriwr ôl-raddedig, cyd-ymchwilydd neu fel defnyddiwr posibl o’n harbenigedd ym maes ymchwil ac ymgynghori.
Mae’r holl staff yn ymgymryd ag ysgolheictod sy’n llywio’u haddysgu, ac mewn rhai meysydd mae hyn yn arwain at ddatblygu amgylchedd ymchwil cynyddol. Darpara’r Brifysgol raglen sefydlog o ddatblygiad staff a chronfa ymchwil ac ysgolheictod i gefnogi'n cydweithwyr academaidd.

