Clystyrau a Phrosiectau Ymchwil
Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg
Mae’r clwstwr ymchwil hwn yn dod â diddordebau ymchwil y disgyblaethau hyn, sydd yn aml yn ategu’i gilydd, ynghyd. Mae’n canolbwyntio ar feysydd tirwedd ac amgylchedd, ardal Môr y Canoldir a’r Dwyrain Agos, gwleidyddiaeth ddiwylliannol, a diwylliant materol.
Y Clasuron
Mae ymchwil yn y clwstwr hwn yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau ond mae’n canolbwyntio ar ddau brif faes o gryfder cydweithredol: naratif hynafol a hanes Gweriniaeth Rhufain. Ceir synergedd ymchwil pellach ym meysydd crefydd, hanesyddiaeth, epigraffeg, a hanes cymdeithasol.
Addysg
Mae’r clwstwr ymchwil addysg yn cynnwys ymchwil sy'n canolbwyntio ar addysg (dyma'r diddordebau neilltuol: addysg y blynyddoedd cynnar, addysg anghenion arbennig, dwyieithrwydd, datblygu sgiliau meddwl) a meysydd cysylltiedig sy’n ymwneud ag ymarfer cymdeithasol (gan gynnwys cynhwysiant cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol, iechyd a gofal cymdeithasol). Mae addysgwyr athrawon yn ymwneud â chydweithwyr, athrawon dan hyfforddiant ac ysgolion wrth ddatblygu arferion yn yr ystafell ddosbarth trwy ymchwil gweithredu. Mae ymchwilwyr yn nisgyblaethau'r Gymraeg a seicoleg hefyd yn rhan o'r clwstwr cydweithredol amrywiol hwn.
Addysg Awyr Agored
Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
Mae ymchwil yn y clwstwr hwn yn cwmpasu ystod eang o bynciau ond mae’n cynnwys teithiau a phererindodau seintiau, twristiaeth Eglwysig yng Nghymru, diwinyddiaeth Uniongred, portreadau o draddodiadau Hindŵaidd yn y Gorllewin, materion methodolegol wrth astudio crefydd, diwylliant gweledol y Beibl, Islam yn yr oes ddigidol, a mynachaeth.


