Canlyniadau RAE

Saint David's building front

Yn ystod yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil, Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) 2008, cydnabuwyd ymchwil llawer o aelodau’r staff fel ymchwil sy’n arwain y byd.

Dynodwyd 15% o’r gweithgarwch yng nghlwstwr ymchwil Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg fel ymchwil “sy’n arwain y byd” o ran ei wreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd, tra ystyriwyd bod 90% o’r gweithgarwch mewn Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol o safon ryngwladol.

Perfformio’n dda a wnaeth y Clasuron hwythau a chanran uchel o ymchwilwyr yn dechrau ar eu gyrfa. Ysgol ifanc a brwdfrydig yw Ysgol y Clasuron sydd wrthi’n ennill ei phlwyf yn rhyngwladol am ei hymchwil.