Gweithio Mewn Partneriaeth Gyda’r Gymuned

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan annatod o’r gymuned leol a cheisiwn wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal a’i dinasyddion mewn amryw ffyrdd.
Amrywia’r rhain o brosiectau mewn cymunedau lleol i uwch aelodau staff yn cyfrannu at gyrff penderfynu sy’n effeithio ar fywydau’r cymunedau a wasanaethwn.
Bwriad y tudalennau cymunedol hyn yw arddangos rhai enghreifftiau o’n gwaith yn meithrin perthynas â’r cyhoedd.
I ni, mae ymgysylltu â’r gymuned yn ymwneud â gweithio gyda phobl o’r tu allan i’r Brifysgol fel y gallwn ddeall ein gilydd yn well.

