Gweld pob eitem o'r newyddion...
Dathlu Llwyddiant Disgyblion AUR
21.12.2010
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Cynllun AUR (Anelu’n Uwch at Ragoriaeth) ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar. Daeth disgyblion o 11 o ysgolion uwchradd De Orllewin Cymru i’r seremoni i dderbyn tystysgrifau oddi wrth Mr Gwilym Dyfri Jones, Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant.
Cyfadran Gysylltiol y Brifysgol yw AUR sydd wedi cael ei chreu er mwyn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd i astudio ar lefel prifysgol. Bellach y mae 1,000 o ddisgyblion wedi cofrestru ar y cynllun.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfadran, Vaughan Salisbury “Mae’r ymateb i AUR o du’r ysgolion wedi bod yn galonogol iawn. Gwêl yr ysgolion eu gwerth o ran atgyfnerthu’r gwaith y maent yn ei wneud yn barod tra hefyd yn cyflwyno’u disgyblion i’r dulliau astudio a fydd yn eu hwynebu yn eu dewis brifysgol maes o law”.
Ymhlith y modylau a gynigir y mae Meddwl am Gymru, Ewrop a’r Byd, ac y mae modylau mewn Athroniaeth a Tsieneeg yn cael eu datblygu. Un o ddarlithwyr y cynllun yw Dr Mererid Hopwood sydd yn gweithio gydag Ysgol y Clasuron yn y Brifysgol i ddatblygu modwl “O Homer i Harry Potter”.
Ymhlith y buddiannau niferus i ddisgyblion yw’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y byddant yn elwa ohonynt yn eu dewis prifysgol, y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’u pynciau dewisol.
“Hwn yw’r unig gynllun o’i fath yng Nghymru” meddai Gwilym Dyfri Jones, Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant, “ac y mae’n rhan greiddiol o ymateb y Brifysgol i agenda Trawsnewid Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cynnig cyfleoedd dwyieithog i ddisgyblion ysgolion uwchradd ar draws De Cymru i astudio ar lefel prifysgol”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon: 01267 676790Gweld pob eitem o'r newyddion...



