Gweld pob eitem o'r newyddion...
Prifysgol yn darparu cyfleoedd AUR
01.04.2009
Lansiwyd rhaglen arloesol yn cynnwys 34 o ysgolion uwchradd yn Ne a Gorllewin Cymru ddydd Llun, 30 Mawrth gan Goleg Prifysgol y Drindod.
Cyfadran Gysylltiol Coleg Prifysgol y Drindod yw AUR sydd wedi cael ei chreu er mwyn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd i astudio ar lefel prifysgol.
Lansiodd Ms Jane Hutt, Gweinidog Plant, Addysg, Addysg Gydol Oes a Sgiliau AUR (Anelu’n Uwch at Ragoriaeth) yn Y Senedd a chafwyd ail-lansiad Y Llwyfan, ar gampws y Drindod o dan ofal yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd y Llywodraethwyr.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Jane Hutt: "Mae hyn yn fenter bwysig sy'n adeiladu ar y berthynas rhwng prifysgolion ac ysgolion; sy'n cynnig astudiaeth brifysgol i ddisgyblion; ac sy'n agor cyfleoedd ehangach i ddysgwyr fynd ymlaen i addysg uwch. Y mae'n adlewyrchu ymrwymiad Cymru'n Un y Cynulliad i annog sefydliadau addysg i gydweithio er mwyn gwneud y gorau o'u hadnoddau er budd dysgwyr."
“Hwn yw’r unig gynllun o’i fath yng Nghymru” meddai’r Prifathro Dr Medwin Hughes, “ac y mae’n rhan greiddiol o ymateb y Brifysgol i agenda Trawsnewid Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru”. Mae’n cynnig cyfleoedd dwyieithog i ddisgyblion ysgolion uwchradd ar draws De Cymru i astudio ar lefel prifysgol”.
Ychwanegodd “Wrth gynllunio i’r dyfodol, bwriad Coleg Prifysgol y Drindod, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, yw cynnig amrywiaeth o brofiadau addysgol perthnasol i ddisgyblion Blynyddoedd 12/13 a fydd, gobeithio, yn eu hannog i barhau â’u hastudiaethau mewn prifysgol o’u dewis yn y dyfodol.”.
Dywed Gwilym Dyfri Jones, Pennaeth y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant sydd wedi arwain y fenter ar ran y Brifysgol “Mae’r ymateb o du’r ysgolion wedi bod yn anhygoel.”
Ychwanegodd “Mae 34 o ysgolion bellach wedi datgan y byddent yn awyddus i gofrestru rhai o’u disgyblion 16-18 oed ar fodylau’r Gyfadran yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf. Mae’r ysgolion, un ac oll, yn gweld y ddarpariaeth a gynigir yn ffordd o atgyfnerthu eu gwaith eu hunain ac yn fodd hefyd o gyflwyno’u disgyblion i’r dulliau astudio a fydd yn eu hwynebu yn eu dewis brifysgol maes o law. Bydd hefyd yn fodd o ddiddymu rhwystrau rhwng addysg uwchradd a phrifysgol ac y mae’n dangos ymrwymiad y Drindod tuag at ehangu mynediad i addysg uwch ac i addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn arbennig”.
Ymhlith y buddiannau niferus i ddisgyblion yw’r cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy y byddant yn elwa ohonynt yn eu dewis prifysgol, y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’u pynciau dewisol ynghyd â’r gallu i drosglwyddo credydau a enillir i Dystysgrif mewn Cyfathrebu a Datblygiad Sgiliau Personol pe baent yn dewis astudio yn y Drindod.
I ysgolion sy’n dod yn rhan o’r cynllun y mae’n cynnig cyfle i weithio mewn partneriaeth ag ysgol ac i fanteisio ar arbenigedd Coleg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan. Rhagwelir hefyd y bydd cyfleoedd i am secondiadau i athrawon i’r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil personol, ar greu deunyddiau dysgu ar gyfer y cynllun neu i fod yn Diwtor Cyswllt er mwyn cyflwyno’r ddarpariaeth o fewn clwstwr neu glystyrau o ysgolion”.
Dywedodd Mr Mike Davies, Pennaeth Ysgol y Preseli sydd eisoes yn peilota rhai o’r modylau, “Mae'r cynllun arloesol yma yn cynnig cyfleoedd arbennig i fyfyrwyr ac athrawon ein hysgol. Eisoes mae grwp o ddisgyblion sy'n dilyn cwrs gofal plant yn y chweched dosbarth yn cael cyfle i ennill cymwysterau ychwanegol wrth astudio unedau Cymraeg Galwedigaethol.
Edrychwn i ychwanegu cyfleoedd pellach i'r cwricwlwm chweched y flwyddyn nesaf wrth i Coleg Prifysgol y Drindod ddarparu cyrsiau Sgiliau Allweddol Lefel 4 ac aseiniadau pellach ym meysydd profiad gwaith a menter. Mae'r cynnwys yn clymu'n berffaith i raglen Cymhwyster Bagloriaeth Cymru – cwrs mae pob myfyriwr yn y chweched dosbarth yn astudio.
Mae'r cynllun AUR yn gyfle euraidd i bontio'r bwlch rhwng y chweched dosbarth a'r Brifysgol. Bydd arbenigwyr adrannau'r Brifysgol yn cyfoethogi'r dysgu yn yr ysgol gyda disgyblion ac athrawon yn cymryd mantais o gyfleusterau'r Brifysgol.
Mae'r cynllun yn ffordd effeithiol iawn i ysgolion ymateb a'r agenda Trawsnewid gan bartneriaethu a chydweithio gyda sefydliadau Addysg Uwch”.
Llun
Mr Gwilym Dyfri Jones o'r Drindod gyda Mr Llŷr Evans, Ysgol Gyfun Gartholwg a disgyblion Rhys Jones and Alun Evans.
Myfyrwyr ac thrawon yn cynrychioli Ysgolion Cyfun Bro Morgannwg, Llanhari, Rhydywaun, Glantaf, Cymer, Rhondda gyda'r Prifathro Dr Medwin Hughes (canol), Mr Gwilym Dyfri Jones a Meri Huws
- Mae’r cysyniad o Gyfadran Gysylltiol yn ddatblygiad cwbl unigryw yng Nghymru. Y mae’n gynllun uchelgeisiol a blaengar a’i nod yw darparu cyfleon addysgol amrywiol ar gyfer disgyblion 16-18 oed a fydd yn atgyfnerthu eu hastudiaethau yn yr ysgol ar y naill law ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o brosesau dysgu amrywiol ar y llaw arall. Hyderir y bydd y ddarpariaeth amgen hon o gymorth sylweddol i’r disgyblion hynny y mae eu bryd ar barhau â’u haddysg ar lefel prifysgol.
- Yn Ionawr eleni derbyniodd Coleg Prifysgol y Drindod gymeradwyaeth ar gyfer newid ei statws i ddod yn goleg prifysgol. Yr oedd hyn yn dilyn cais llwyddiannus ar gyfer pwerau dyfarnu graddau a gymeradwywyd gan y Cyfrin Gyngor ym mis Rhagfyr.
Gwybodaeth Bellach
Eleri BeynonSwyddfa'r Wasg
(01267) 676790 / 07968 249335
e.beynon@ydrindoddewisant.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...



