Partneriaid

Cydweithio Creu prifysgol sector deuol

Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, Coleg Sir Gâr, Coleg Penfro a Choleg Ceredigion i greu prifysgol sector deuol.

Golyga hynny y bydd y sefydliadau yn gweithio fel grŵp yn Ne Orllewin Cymru i ddarparu gwell llwybrau a dewisiadau i gymuned amrywiol o ddysgwyr yn ogystal â rhaglenni astudio sy’n ymateb i ofynion cyflogwyr.

Canolfan Addysg Athrawon

logo swwcte Fel rhan o ddatblygiadau cenedlaethol ym maes addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon mae’r Brifysgol a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe wedi sefydlu Canolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru. Gweithia’r ganolfan hon yn agos gyda phartner ysgolion ar draws Gorllewin a De Cymru i ddarparu nifer o raglenni wedi’u hachredu ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac athrawon profiadol fel ei gilydd.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gyfrifol am raglen y BA Addysg Gynradd gyda SAC ac mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn gyfrifol am y rhaglen TAR Cynradd. Mae’r ddwy brifysgol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad proffesiynol, gan gynnwys rhaglenni ôl-radd i athrawon cymwysedig a’r sawl sydd ynghlwm wrth feysydd addysg a hyfforddiant.

Logo Partneriaeth ddysgu rhanbarthol

Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De-orllewin Cymru

Mae Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De-orllewin Cymru yn bartneriaeth drawsnewidiol sy’n dod â phartneriaid ym maes addysg ac adfywio at ei gilydd er mwyn helpu i ddarparu gwell dyfodol ar gyfer dysgwyr a darpar ddysgwyr ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru.
http://www.rlpsww.org.uk/Cymraeg

 Partneriaethau addysgol

Campws Caerfyrddin y Brifysgol yw’r darparydd hynaf o gyrsiau hyfforddi athrawon yng Nghymru ac mae ganddo draddodiad hir ym maes addysg. Mae ein myfyrwyr yn elwa o’n profiad a’n cysylltiadau helaeth gydag ystod eang o sefydliadau.

Mae gennym drefniadau partneriaeth gyda mwy na 250 o ysgolion cynradd a 30 o ysgolion uwchradd.

Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau sy’n gysylltiedig ag addysg a datblygiad yr unigolyn, gan gynnwys canolfannau teuluoedd, canolfannau cymunedol, meithrinfeydd dydd, mudiadau chwaraeon, y gwasanaeth carchardai a nifer o sefydliadau dramor.