Teithio i Lanbedr Pont Steffan
Mae Llanbedr Pont Steffan ynghanol Cymru, tua 4 awr 30 munud mewn car o Lundain neu Fanceinion. Mae’r meysydd awyr rhyngwladol agosaf yng Nghaerdydd a Birmingham. Daw gwasanaethau rheilffordd mor bell ag Aberystwyth i’r gogledd a Chaerfyrddin i’r de. Ceir hefyd gwasanaethau TrawsCambria o Gaerdydd ac Abertawe yn y de, a Chaergybi yn y gogledd, gyda gwasanaethau bws cysylltiol i Lambed. Lleolir y Brifysgol ynghanol Llambed ar yr A485 (wrth deithio o’r de rydym i gyfeiriad Tregaron).
Gyda'r car
O'r de
Os ydych yn teithio mewn car, daw’r M4 â chi mor bell â gwasanaethau Pont Abraham, ac yna cymerwch yr A48 i gyfeiriad Caerfyrddin (tua 15 munud arall). Ar ddiwedd yr A48, dilynwch yr arwyddion i Landeilo yn y ddau gylchfan cyntaf ac ar y trydydd cylchfan dilynwch yr A485 i Lanbedr Pont Steffan (tua 35 munud arall).
O'r gogledd
Wrth deithio mewn car o’r gogledd neu’r canolbarth, anelwch am Aberystwyth ac yna cymerwch yr A487 i Aberaeron a’r A482 i Lanbedr Pont Steffan.
Amser teithio
| Caerdydd i Lanbedr Pont Steffan 2 awr |
Caeredin i Lanbedr Pont Steffan |
Dulyn i Lanbedr Pont Steffan |
|
Llundain i Lanbedr Pont Steffan |
Manceinion i Lanbedr Pont Steffan |
Efrog i Lanbedr Pont Steffan |
Gyda'r trên
Y prif orsafoedd agosaf yw -
- Caerfyrddin ar gyfer Caerdydd, Llundain a De Lloegr
- Aberystwyth ar gyfer Canolbarth a Gogledd Lloegr a'r Alban.
Gellir teithio o'r gorsafoedd i Lanbedr Pont Steffan mewn tacsi neu mewn bws (gweler isod).
Ar y bws
Mae bws yr X40 yn cysylltu Llanbedr Pont Steffan â Chaerdydd i'r De, trwy Gaerfyrddin, ac â'r Gogledd, trwy Aberystwyth. O'r Gogledd, mae bws yr X32 yn cysylltu Bangor ac Aberystwyth lle mae'n cysylltu â bws yr X40. Er mwyn cysylltu â’r llongau fferi o’r Iwerddon, mae bws yr X44 yn cysylltu Caergybi â Bangor. Mae gwybodaeth ddefnyddiol am drafnidiaeth gyhoeddus hefyd ar gael trwy ffonio Traveline ar 0870 6082608. Y mae gwasanaeth ychwanegol, rhif 701, sy'n rhedeg ar Ddydd Gwener a Dydd Sul, rhwng Caerdydd ac Aberystwyth trwy Lambed. I gael amserlen, ewch i wefan Coach Travel Wales.
Gwasanaethau Fferi
Stena Sealink (Abergwaun & Chaergybi) Mae amserau’r llongau fferi a’r cysylltiadau yn amrywio trwy’r flwyddyn a hefyd yn dibynnu ar y tywydd, felly gwell cysylltu’n gyntaf â’r porthladd.
Meysydd awyr
Birmingham (Canolbarth Lloegr) - www.bhx.co.uk Hediadau Maes Awyr Birmingham, a Chanolfan Eurohub ar gyfer cyrchfannau yng ngwledydd Prydain ac Ewrop.
Maes Awyr Cymru (Caerdydd) - www.cardiffairportonline.com Mae gan Faes Awyr Cymru-Caerdydd wasanaethau dyddiol rheolaidd i nifer o ddinasoedd yn Ewrop, a gellir gwneud cysylltiadau byd-eang trwy gydol y flwyddyn trwy Amsterdam. Gallwch hefyd hedfan i Gatwick, Heathrow, Birmingham a Manceinion.
Cyswllt Bws Maes Awyr Caerdydd Mae hwn yn wasanaeth cymharol newydd sy’n mynd â theithwyr o Orsaf Canol Caerdydd i Faes Awyr Caerdydd ac yn ôl, ac mae bysiau’n rhedeg 40 munud wedi’r awr o 8.40 tan 18.40.
Heathrow - www.heathrow.co.uk Mae gan Faes Awyr Heathrow bedair terfynfa, a gellir cyrraedd pob un ohonynt ar y tiwb (llinell Piccadilly, terfynfeydd un, dau, a thri yn un orsaf, terfynfa pedwar yng ngorsaf arall.
Mae cwmnïau hedfan Prydeinig yn hedfan o gwmpas y byd o Derfynfa 4, a phob cwmni hedfan arall o Derfynfeydd 1, 2, neu 3.
Gatwick - www.gatwickairport.co.uk Mae gan Faes Awyr Gatwick ddwy brif derfynfa. Gellir cyrraedd pob terfynfa ar y trên. Mae’r Gatwick Express yn gadael gorsaf Victoria bob 30 munud. Mae llinell gyswllt Thames hefyd yn teithio i Gatwick.
Manceinion - www.manairport.co.uk Gellir cyrraedd Maes Awyr Manceinion yn uniongyrchol ar y trên. Mae Manceinion yn faes awyr rhyngwladol gyda hediadau i gyrchfannau ar draws y byd.
Rhifau ffôn:
|
Maes awyr Gatwick: |
01293 517755 |
Map y Campws
Agorwch Map y Campws (1.5mb | pdf)
Mae angen darllenydd Adobe Acrobat
Dolenni Teithio
Traveline Cymru
Gwybodaeth ar gyfer cynllunio'ch taith, ar y bws neu ar y trên.
Ymholiadau Cenedlaethol y Rheilffyrdd
Rhwydwaith Rheilffyrdd Prydain
National Express
Rhwydwaith Bysus Prydain
Amserlen Bysus Lleol
X40 i ac o Aberystwyth, Caerfyrddin, a Chaerdydd
AA Route Planner
Prydain Fawr
Gwefannau allanol yw'r rhain. Nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.

