Campws Llanbedr Pont Steffan

Mae Llambed yn dref farchnad fywiog, hanesyddol sydd wedi’i lleoli ar odre Mynyddoedd y Cambrian yn sir Ceredigion.

Lleolir ein campws yng nghanol y dref, ac felly mae’r holl siopau a chyfleusterau o fewn pellter cerdded rhwydd. Mae Llambed yn cynnig amrywiaeth o siopau anarferol, annibynnol, ynghyd â chaffis a thafarnau sy’n croesawu myfyrwyr ac sy’n darparu popeth sydd ei angen arnoch o ddydd i ddydd.

Mae’r dref yn ganolfan bwyd organig ac mae dewis helaeth o ffrwythau, llysiau, cawsiau, bara a bwydydd eraill organig ar werth neu ar gael mewn bwytai lleol.

Campws Llambed

Am y Campws

Sefydlwyd y campws yn 1822 yn Goleg Dewi Sant er mwyn darparu addysg ryddfrydig i offeiriaid, gan gynnwys y Clasuron a Hanes a disgyblaethau eraill.

Dros y blynyddoedd datblygodd yr ystod o bynciau ac o dan enw Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, magodd enw da am ei darpariaeth israddedig ac ôl-radd mewn Archaeoleg, Tsieinëeg, y Clasuron, Hanes, Diwinyddiaeth, yn ogystal â meysydd eraill fel Busnes a TG.

Erbyn hyn, yn enw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae’r gymuned academaidd yn parhau i ffynnu ac mae’r portffolio a gynigir yn denu carfan ryngwladol o fyfyrwyr bob blwyddyn.

Lleolir y campws ar un o brif strydoedd y dref. Saif yr adeilad gwreiddiol yn dalsyth gyda bryniau gwyrdd toreithiog cefn gwlad Cymru yn y cefndir, ac mae nant yn byrlymu’i ffordd o gwmpas ffiniau’r campws.

Dynodwyd y campws yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cyfoeth o gynefinoedd bywyd gwyllt sydd ynddo, gan gynnwys rhai ar gyfer llygod
y dŵr a dyfrgwn.

Mae gan y campws un o’r llyfrgelloedd a’r casgliadau preifat gorau o lawysgrifau canoloesol yn y wlad - Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen - yn ogystal â Neuadd y Celfyddydau a Theatr Cliff Tucker, sy’n adeiladau modern a phwrpasol a ddefnyddir ar gyfer darlithiau ynghyd â digwyddiadau celfyddydol a chymunedol.

Gwneir gwaith adnewyddu sylweddol ar draws y campws yn ystod y flwyddyn nesaf a fydd yn cynnwys creu canolfan newydd yn Adeilad Caergaint ar gyfer yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr integredig a gwasanaethau eraill ar gyfer myfyrwyr.

Bydd cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol hefyd yn cael eu datblygu, gan gynnwys darpariaeth ar y cyd rhwng y Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion. Bydd neuaddau myfyrwyr ar draws y campws hefyd yn cael eu hadnewyddu a’u hailwampio.

Map y Campws


Agorwch Map y Campws (1.5mb | pdf)


Mae angen darllenydd Adobe Acrobat


Yr Hen Adeilad (Quad)


Tref Llambed (High Street)