Croeso i'r Brifysgol
Croeso i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, prifysgol newydd a grëwyd trwy uno’r ddau sefydliadaddysg uwch hynaf yng Nghymru - Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin.
Mae creu prifysgol newydd yn her gyffrous ac mae’n cynnig cyfle i adeiladu ar ycyfraniad ardderchog a wnaeth y sefydliadau hynny i’r genedl dros dair canrif.
Rydymyn falch o’n treftadaeth ond edrychwn ymlaen hefyd at ein dyfodol trwy greu modelradical newydd ar gyfer addysg sy’n cysylltu colegau addysg bellach ac ysgolion i greugwell cyfleoedd cyfranogiad a mynediad ledled De Orllewin Cymru.
Llwyddodd y Brifysgol i ddenu buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan yllywodraeth sy’n cael ei ail-fuddsoddi i greu amgylchedd sy’n gweddu i ddysgu,addysgu ac ysgolheictod yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae ein dau gampws, Caerfyrddin a Llambed, yn cynnig awyrgylch cyfoethogol sy’n cynnwys popeth sydd eiangen ar ein myfyrwyr ar gyfer eu datblygiad academaidd a phersonol.
Rydym hefydyn cynnig dewis o raglenni ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio yn ein partner sefydliadau agwnawn bob ymdrech i warantu ansawdd y profiad a gaiff ein holl fyfyrwyr.
Deallwn eich bod yn gwneudcryn fuddsoddiad yn eich dyfodol. Mae’n benderfyniad yrydym yn ei gymryd o ddifrif, a gwnawn bob ymdrech isicrhau y bydd eich profiad fel myfyriwr yma yn eichhelpu i ddatblygu eich potensial yn llawn.
Byddwn ynrhoi ichi wybodaeth academaidd gadarn, ondcredwn hefyd y bydd yr amrywiaeth cyfoethog obrofiadau diwylliannol a chymdeithasol a gewch felmyfyriwr yma yn eich helpu i ddatblygu nifer orinweddau personol a phroffesiynol gwahanol - sy’nystyriaethau’r un mor bwysig wrth ddewis prifysgolneu goleg.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu ospenderfynwch ddod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Yr Athro Medwin Hughes
DL DPhil DPS FRSA
Is-Ganghellor


