Canllaw i rieni
Ydy eich mab neu’ch merch yn ystyried gwneud cais i fynd i brifysgol?
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth amhrisiadwy i’w helpu i baratoi ar gyfer eu taith.
Mae mynd i brifysgol yn amser cyffrous i fyfyrwyr o bob oed p’un ai ydynt yn dewis astudio’n lleol neu oddi cartref. Yn wir mae cyfnod mewn Prifysgol yn brofiad bywyd ac i nifer o fyfyrwyr dyma fydd y tro cyntaf iddynt fyw oddi cartref. Fel rhiant, gallwn ddeall fod gennych eich gofidiau a’ch pryderon arbennig a’n nod yw ateb rhai o’ch cwestiynau yn yr adran hon.
Mae prifysgolion yn darparu gwerth ychwanegol yn yr ystyr y bydd eich plentyn yn ennill gwybodaeth bynciol, ond hefyd ystod o sgiliau trosglwyddadwy, a fydd yn eu helpu’n ddiweddarach mewn bywyd – yn cynnwys y gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, sgiliau hunan reoli ac amrywiaeth o sgiliau dymunol eraill y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mae’r cyfle i fynd ar leoliadau gwaith, â thâl ac yn wirfoddol, yn rhoi cyfleoedd ardderchog i fyfyrwyr gael profiad gwaith ac mae nifer ohonynt yn arwain at swyddi parhaol gyda’r cwmnïau ar ôl graddio.
Mae prifysgolion yn helpu myfyrwyr i ddatblygu annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol. Mae byw a gweithio gyda phobl eraill yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau cymdeithasol, p’un ai ydynt yn byw mewn fflat gydag wyth o bobl eraill neu’n teithio i’r brifysgol o’u cartref. I nifer o fyfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr yw’r canolbwynt y tu allan i ddarlithoedd a dyma lle byddant yn mwynhau nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol, ond gallant hefyd wirfoddoli i helpu’r Undeb i drefnu digwyddiadau, gweithio yn y siop neu’r bar neu ymuno â nifer o’r clybiau a’r cymdeithasau. Mae nifer o gyfleoedd hefyd i gael gwaith rhan-amser yn y Brifysgol trwy ddod yn Llysgennad Myfyrwyr, gweithio yn yr adran arlwyo a chynadledda, y ganolfan chwaraeon, a’r ganolfan adnoddau dysgu.
Mae cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr y Brifysgol astudio dramor trwy gysylltiadau’r Brifysgol â phrifysgolion eraill yn UDA a rhannau o Ewrop drwy rhaglen Erasmus.
Ond, ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, mae bob amser ddigonedd o gefnogaeth ar gael, o’r diwrnod cyntaf un, os bydd y myfyrwyr yn wynebu anawsterau. Mae ein Hadran Gwasanaethau Myfyrwyr yn siop un stop ar gyfer eu holl anghenion a gall ddarparu cyngor ac arweiniad ar unrhyw fater – o bryderon academaidd i broblemau personol. Fel prifysgol fach, does neb yn mynd ar goll yn y dorf ar y naill gampws neu’r llall a chredwn fod y gofal bugeiliol a ddarperir gennym yn y Drindod Dewi Sant yn rhagorol.
Gallwch chi helpu eich mab neu’ch merch wrth benderfynu ar y canlynol
1. Penderfynu ar y cwrs
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis prifysgol ar sail y cwrs ond gall cynnwys cyrsiau wahaniaethu o un brifysgol i'r llall. Bydd angen iddynt ymchwilio i’w hopsiynau er mwyn gweld yn union beth a gynigir trwy edrych ar wefannau a phrosbectysau prifysgolion, darllen Proffiliau Mynediad ar wefan UCAS (http://www.ucas.ac.uk/) ac ymweld ar Ddiwrnodau Agored.
2. Penderfynu pa brifysgol
Ydy e neu hi eisiau byw oddi cartref neu aros yn agosach at gartref?
A oes gan y brifysgol enw da am gwrs arbennig?
Sut beth yw’r cyfleusterau ar gyfer astudio a chymdeithasu?
A fydd cyfle i’ch mab neu’ch merch ddilyn diddordebau cymdeithasol neu hamdden?
Faint o fyfyrwyr sydd ymhob dosbarth – a fyddant ar goll mewn torf?
Pa werth ychwanegol all y brifysgol ei ddarparu – lleoliadau gwaith, astudio dramor, gwasanaethau cymorth, cyfleoedd cymdeithasol a hamdden.
Mae Diwrnodau Agored yn arbennig o bwysig oherwydd nid yn unig y byddwch chi a’ch plentyn yn cael cyfle i siarad â staff academaidd am y cwrs, byddwch hefyd yn cael cyfle i weld cyfleusterau a siarad â gwasanaethau cymorth, yn cynnwys y gwasanaeth llety a gwasanaethau myfyrwyr.
3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y costau dan sylw a pha gymorth ariannol sydd ar gael
Ffactorau eraill i chi eu hystyried yw’r gost o fynd i brifysgol Gall cyrsiau israddedig llawn amser bara rhwng 1 a 3 blynedd – gan amlaf blwyddyn ar gyfer Tystysgrif Addysg Uwch, 2 flynedd ar gyfer Diploma Addysg Uwch a 3 blynedd ar gyfer gradd. Bydd angen i chi dalu ffioedd dysgu bob blwyddyn. Darperir cymorth ariannol trwy grantiau cynnal a benthyciadau ac mae nifer o brifysgolion yn cynnig bwrsarïau i helpu myfyrwyr gael deupen llinyn ynghyd.
Cysylltu â Ni
Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant
Campws Caerfyrddin
Ffôn: 01267 676767
Campws Llambed
Ffôn: 01570 422351


