Gweld pob eitem o'r newyddion...

Cwrs Prifysgol yn Ennill Gwobr Ryngwladol Nodedig

14.01.2011

Mae modwl ar radd Meistr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill gwobr ryngwladol nodedig.

Dr Sam Hurn Mae’r modwl Human-Animal Interactions in Anthropological Perspective, sy’n elfen greiddiol o’r MA Anthrozoology, newydd gael ei gyhoeddi yn enillydd y Wobr ar gyfer Cwrs Rhagorol ym maes Anifeiliaid a Chymdeithas gan Gymdeithas Amddiffyn Anifeiliaid yr Unol Daleithiau (Humane Society of the United States).

Mae’r wobr hon yn cydnabod rhagoriaeth mewn cyrsiau sy’n ymwneud â’r cwlwm rhwng pobl ac anifeiliaid, dyletswydd pobl tuag at anifeiliaid, statws anifeiliaid, a phynciau cysylltiedig, ac fe’i dyfernir gan Gymdeithas Amddiffyn Anifeiliaid yr Unol Daleithiau, y gymdeithas fwyaf yn yr UD sy'n ymwneud ag amddiffyn anifeiliaid, ar y cyd â’r Sefydliad dros Anifeiliaid a Chymdeithas.

Awdur y modwl yw Dr Samantha Hurn, cydlynydd y radd MA Anthrozoology o fewn yr Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.   Pan glywodd am y wobr meddai Samantha “Mae ennill y wobr yma yn anrhydedd fawr gan fod y gystadleuaeth yn agored i geisiadau o bob cwr o’r byd, gyda phanel o arbenigwyr yn y maes yn eu beirniadu yn ôl meini prawf uchelgeisiol.  Mae cael cydnabyddiaeth o’r fath i’r cwrs yn dangos y gall defnyddio dulliau anthropolegol wrth edrych ar y rhyngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid wneud cyfraniad pwysig i ddeall sut mae pobl yn trin anifeiliaid eraill ac yn meddwl amdanynt.”

Mae’r radd MA Anthrozoology yn ystyried y perthnasau lluosog ac amrywiol rhwng pobl ac anifeiliaid eraill o gwmpas y byd o safbwynt anthropolegol, gan gwmpasu pynciau megis cadw anifeiliaid anwes, dofi anifeiliaid, cadwraeth amgylcheddol, bwyta anifeiliaid, creulondeb i anifeiliaid a lles anifeiliaid, a dyma'r unig raglen Meistr o'i bath. Bellach ar ei hail flwyddyn, mae’r radd wedi denu myfyrwyr sydd â chefndir mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau a phroffesiynau, yn cynnwys milfeddygon, nyrsys milfeddygol, primatolegwyr, cadwraethwyr, gwyddonwyr amgylcheddol, hyfforddwyr ac ymddygiadwyr anifeiliaid, swyddogion lles anifeiliaid ac academyddion sy’n dymuno gwella’u gwybodaeth am y cwlwm rhwng pobl ac anifeiliaid fel cymorth i’w datblygiad proffesiynol.  Mae llawer o fyfyrwyr eraill hefyd wedi ymuno â’r rhaglen oherwydd diddordeb personol yn y pwnc. Seilir llawer o gynnwys y cwrs ar yr arbenigedd ymchwil ynghylch y rhyngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid sydd o fewn yr Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg yn y Brifysgol.

Nes ymlaen eleni cyhoeddir llyfr Samantha, Humans and Other Animals: Cross-Cultural Perspectives on Human-Animal Interactions, sy’n mynd i’r afael â llawer o’r themâu sy'n codi yn y radd Meistr. Pluto Press yw’r cyhoeddwr ac am ragor o wybodaeth neu er mwyn archebu’r llyfr ymlaen llaw, cysylltwch â’r cyhoeddwr: pluto@plutobooks.com

Mae’r rhaglen MA Anthrozoology ar gael naill ai drwy astudio preswyl yn Llambed neu drwy ddysgu o bell.  Mae’r rhaglen yn berthnasol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i unigolion sydd â rôl broffesiynol ym maes gofalu am anifeiliaid nad ydynt yn ddynol (e.e. milfeddygon, nyrsys/technegwyr milfeddygol, hyfforddwyr anifeiliaid, wardeniaid cŵn, gofalwyr sŵau, cadwraethwyr, gweithwyr elusennau ac ati), yn ogystal â myfyrwyr sydd wedi cwblhau graddau cyntaf yn y gwyddorau cymdeithasol, neu sydd â chefndir gwyddonol ac a hoffai ehangu’u diddordebau ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol.

I gael mwy o wybodaeth am y radd MA Anthrozoology, neu am ymchwil anthrosŵolegol yn y Brifysgol, cysylltwch â s.hurn@ydds.ac.uk neu 01570 424734.

Nodyn at y Golygydd

  1. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe,  Coleg Sir G­âr, Coleg Sir Benfro a Choleg Ceredigion i greu prifysgol sector deuol . Golyga hyn fod y sefydliadau yn gweithio fel grwp i gynnig llwybrau a dewisiadau i fyfyrwyr ynghyd a rhaglenni astudio sy’n ymateb i anghenion cyflogwyr yr ardal.
  2. Cymdeithas Amddiffyn Anifeiliaid yr Unol Daleithiau (Humane Society of the United States) ydy’r gymdeithas mwyaf o’i bath yn yr UDA.
  3. Dilynwch y Brifysgol ar Twitter – twitter.com/drindoddewisant. Mae’r porthiant newyddion ar www.trinitysaintdavid.ac.uk/cy/porthiadaurss

Gwybodaeth Bellach

Jane Norris-Hill 01570 424799.





Gweld pob eitem o'r newyddion...