Gweld pob eitem o'r newyddion...
Digwyddiad lansio llwyddiannus yn tynnu sylw at y manteision o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
02.02.2012
Ar 31 Ionawr, lansiodd y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant ystod o gyrsiau hyblyg newydd ym maes Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer pobl sydd am ymestyn neu ddiweddaru eu sgiliau.
Daeth cyflogwyr, cynrychiolwyr o bartneriaethau, myfyrwyr a staff presennol at ei gilydd i glywed am gyrsiau a gynigir, yn achrededig a heb eu hachredu ac i gael gwybod am ffynonellau cyllid. Roedd hefyd cyfleoedd i drafod dewisiadau gydag aelodau staff.
Mwynheuwyd cyflwyniadau bywiog gan Gyfarwyddwraig Cynllunio Strategol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Sarah Veck, Prif Weithredwr Gofal a Chefnogaeth Gwalia, Richard Davies a chyn-fyfyrwraig Gradd Sylfaen Lisa-Jane Sumption.
Ys dywed Deon Cynorthwyol y Gyfadran, yr Athro Cyswllt Sue Davies:
“Hwn yw’r tro cyntaf i weithgarwch DPP y Gyfadran gael ei drefnu i adlewyrchu amrediad llawn y cyfleoedd a gynigir gan yr ysgolion academaidd mewn amgylchedd dwyieithog.
“Mae modd i ni gynnig cyfleoedd ar draws ystod o ddisgyblaethau ac mae gennym raglenni hyblyg ar gyfer addysg, y sector cyhoeddus a sefydliadau cymunedol. I unigolion, gallai hyn wella posibiliadau o ran gyrfa neu gydnabod gofynion cyrff proffesiynol.
“I’r cyflogwr, rydym yn deall y bydd sefydliad llwyddiannus ac iddo enw da cadarn am amgylchedd gwaith o ansawdd yn denu, recriwtio a chadw gweithwyr rhagorol. Gallwn gefnogi gwerthoedd, nodau a pholisïau’ch gweithle drwy ddarparu rhaglenni DPP a fydd yn diwallu anghenion cyflogwyr a gweithwyr.”
Nod y Portffolio yw gwella ymhellach gyfraniad y Drindod Dewi Sant i DPP ac ymgysylltu â
Llun:
Richard Davies, Prif Weithredwr Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth Gwalia; Sarah Veck, Cyfarwyddwraig Cynllunio Strategol Bwrdd Iechyd Hywel Dda; Gwilym Dyfri Jones, Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant; Lisa-Jane Sumption, cyn-fyfyriwraig Gradd Sylfaen; yr Athro Cyswllt Athro Sue Davies, Deon Cynorthwyol y Gyfadran
Gwybodaeth Bellach
Athro Cyswllt Sue Davies
01267 676737
s.davies@ydds.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...

