Dysgwyr o Bell

Croeso i wefan Dysgwyr o Bell. Yma fe gewch wybodaeth am yr ystod o wasanaethau a chefnogaeth y mae’r Brifysgol yn eu cynnig i chi.

Myfyrwyr Dysgu o Bell newydd

Cwad gliniadur

Os ydych chi’n Fyfyriwr Dysgu o Bell newydd sy’n cychwyn yn y Brifysgol ac rydych wedi cwblhau’r broses gofrestru, ewch i'r Canllaw cyflym i fyfyrwyr newydd am fanylion ynglŷn â sut i agor eich cyfrif TG a fydd yn rhoi mynediad i chi i’r canlynol:

  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) (Moodle neu Blackboard) – Ardal ar-lein lle dewch chi o hyd i wybodaeth am eich rhaglen, eich modylau a gwybodaeth weinyddol – ragor o fanylion am Moodle
  • E-bost Live@edu – system Microsoft sy’n rhoi cyfrif e-bost YDDS i fyfyrwyr gan ddilyn y ffurf rhifmyfyriwr@myfyriwr.ydds.ac.uk (e.e. 123456@myfyriwr.ydds.ac.uk)
  • Rhwydwaith y Brifysgol (os ydych chi ar y campws)

Canllaw cyflym i fyfyrwyr newydd

Myfyrwyr sy’n Dychwelyd

Os ydych chi’n Ddysgwr o Bell sy’n dychwelyd i’r Brifysgol yna dylai fod gennych enw defnyddiwr a chyfrinair eisoes i gael mynediad i’ch VLE (Moodle neu Blackboard) ac e-bost.

Os ydych chi’n dal i ddefnyddio’ch hen gyfrif e-bost @ydds.ac.uk yna bydd angen i chi agor cyfrif newydd live@edu. I wneud hyn ewch i: https://login.tsd.ac.uk a dilyn y camau isod:

  1. Nodwch eich enw defnyddiwr (Sylwer y bydd hwn yr un peth â’r un a ddefnyddir ar gyfer eich hen e-bost a Moodle)
  2. Nodwch “Yes” unwaith y byddwch wedi darllen a deall y Polisi Defnydd Derbyniol.
  3. Teipiwch eich dyddiad geni
  4. Cliciwch ar yr eicon “Log in”
  5. Cliciwch yr eicon “Change/Set password”
  6. Teipiwch eich cyfrinair newydd ddwywaith (o leiaf 8 llythyren/rhif ond dim mwy na 12) a chliciwch “set password”
  7. Cliciwch ar “click here to continue”
  8. Bydd y broses o greu cyfrif e-bost yn dechrau
  9. Unwaith bod ticiau gwyrdd ar y 5 dewis mae’r broses wedi ei chwblhau
  10. Bydd y sgrin yn cadarnhau enw’ch cyfrif yn ogystal â’ch cyfeiriad e-bost live@edu newydd
  11. I fyfyrwyr sy’n dychwelyd – gallwch fynd mewn i’r hen system e-bost tan 30 Tachwedd 2011 er mwyn i chi allu symud negeseuon e-bost i’ch cyfrif newydd

Dolenni TG

E-bost (Live@edu) – http://www.myfyriwr.ydds.ac.uk/

Moodle – http://learning.lamp.ac.uk/

Canllawiau e-bost Live@edu

Live@edu yw eich system e-bost yma yn YDDS sy’n rhoi’r canlynol i fyfyrwyr:

  • Blwch post 10 GB a’r gallu i anfon a derbyn atodiadau hyd at 20MB
  • Y gallu i gysylltu eich e-bost â’ch ffôn symudol Windows, iPhone neu Blackberry Smartphone
  • Y gallu i ddarllen eich e-byst trwy raglenni e-bost eraill.
  • Mae Microsoft Office Live Workspace yn caniatáu i chi rannu a chydweithio ar ddogfennau ar-lein.
  • Mae Windows Live Sky Drive yn rhoi 25 GB o le storio i chi
Canllaw Defnyddwyr ar gyfer Live@edu Canllaw mewngofnodi ar gyfer cyfrif e-bost Live@edu
Gosod Cyfrif Ebost ar Live@edu Cyfarwyddiadau ar gyfer SkyDrive ar Live@edu
Gosod Cyfrif Live@edu ar Ddyfais iPhone Gosod Cyfrif Live@edu ar Ddyfais Android
Gosod Cyfrif Live@edu ar Ddyfais BlackBerry Gosod Cyfrif Live@edu ar Nokia Symbian
Gosod Cyfrif Live@edu ar Windows Phone 7 

Angen help o hyd?

Os oes gennych chi unrhyw broblemau’n ymwneud â TG gallwch gysylltu â Desg Gymorth TG, naill ai’n bersonol neu drwy e-bost: ITServiceDesk@ydds.ac.uk neu drwy ffonio 0300 500 5055.

Yr oriau agor yw Llun-Iau 08:45-17:00 a Gwe 08:45-16:30

Moodle

Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Virtual Learning Environment) yw Moodle, y cyfeirir ato’n aml fel VLE. Mae’n ofod ar y we sy’n ddiogel ac sy’n cael ei reoli, a ddefnyddir ar gyfer dysgu ac addysgu, gyda thiwtoriaid a myfyrwyr yn gallu defnyddio’r gofod i gadw deunyddiau, cyfathrebu a chydweithio i gefnogi dysgu. Mae gan holl fyfyrwyr YDDS fynediad i Moodle i gefnogi’u dysgu.

Cliciwch yma i gael canllawiau ar sut i gychwyn defnyddio Moodle gyda’ch astudiaethau.

Y Ganolfan Adnoddau Dysgu

Ewch i Dysgwyr o Bell neu gweler isod ragor o fanylion am y gwasanaethau a’r gefnogaeth a ddarperir gan y CAD i Ddysgwyr o Bell.

Gwasanaethau i Fyfyrwyr Dysgu o Bell

Mae’r Ganolfan Adnoddau Dysgu’n cynnig ystod eang o wasanaethau a chymorth i ddysgwyr o bell.

Mae gan bob myfyriwr dysgu o bell hawl i dderbyn:

  • Cerdyn Adnabod (sydd hefyd yn gweithredu fel cerdyn Llyfrgell ) a chyfeiriad e-bost Prifysgol
  • Cerdyn Athens i gael mynediad i gasgliad y CAD o adnoddau electronig
  • Cerdyn SCONUL i hwyluso mynediad i lyfrgelloedd prifysgolion eraill dan Gynllun SCONUL Access (i fyfyrwyr o’r DU yn unig)

Yn ogystal, rydym yn darparu’r gwasanaethau canlynol i ddysgwyr o bell:

  • Benthyciadau drwy’r post
  • Llungopïau ac erthyglau wedi’u sganio
  • Benthyciadau rhyng-lyfrgellol (yn amodol ar dderbyn awdurdodiad perthnasol)
  • Cymorth gyda chwilio llenyddiaeth
  • Cymorth wrth ddefnyddio deunyddiau llyfrgell
  • Cymorth lle bo hynny’n briodol gyda llyfryddiaethau, dyfyniadau, olrhain deunydd perthnasol i’w astudio, a llythrennedd gwybodaeth
  • Cymorth gan aelodau o dîm CAD sydd â phrofiad o ddelio â’r problemau sy’n codi wrth astudio ymhell o’r campws
  • Ymatebion cyflym i bob ymholiad o bell, lle bo hynny’n bosibl
  • Gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion dysgu unigol

Cyhoeddiad: Hysbysiadau Cwrteisi

O hydref 2011 ymlaen, ni fyddwn yn anfon hysbysiadau cwrteisi at fyfyrwyr a staff sy’n benthyca adnoddau o Gampws Llambed. Daw hyn yn sgil y newid yn ddiweddar o fenthyciadau arferol tymor penodol i gyfnod treigl o 8 wythnos, gan sicrhau bod cwsmeriaid ar y naill gampws a’r llall yn cael yr un lefel o wasanaeth. Mae manylion ein holl gyfnodau benthyca newydd a bydd y system Voyager yn eich galluogi i wirio’r dyddiad dychwelyd ar gyfer unrhyw adnoddau a fenthycwyd o Lyfrgell Campws Llambed ar eich cyfrif

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Manylion Cysylltu

Kathy Miles, Llyfrgellydd Gwasanaethau Allgymorth
E-bost: k.miles@ydrindoddewisant.ac.uk
Rhif ffôn: 01570 424797