Diweddariad: Problemau Ebost Dysgwyr o Bell
Diweddariad: Mae'n dda gennym nodi bod y broses isod wedi datrys problemau ac unwaith rydych wedi'i chwblhau byddwch yn gallu cael mynediad i'ch cyfrif. Mae’r Brifysgol yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.Os oes problemau gennych o hyd wrth gael mynediad i’ch cyfrif e-bost cyfredol, ac nid ydych wedi cychwyn eich cyfrif e-bost newydd eto, ewch i’r wefan hon: https://login.tsd.ac.uk a dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Os bydd gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau ynglŷn â’r broses isod, cysylltwch â Desg Gymorth TG ar 0300 500 5055 neu drwy e-bostio itsd@ydds.ac.uk. Neu ewch i http://www.trinitysaintdavid.ac.uk/en/currentstudents/itservices/ am ganllawiau a mwy o wybodaeth.
1.) Teipiwch eich rhif myfyriwr
2.) Nodwch “Yes” unwaith y byddwch wedi darllen a deall y Polisi Defnydd Derbyniol.
3.) Teipiwch eich dyddiad geni
4.) Cliciwch ar yr eicon “Log in”
5.) Cliciwch yr eicon “Change/Set password”
6.) Teipiwch eich cyfrinair newydd ddwywaith (lleiafswm o 8 nod) a chliciwch “set password”
7.) Cliciwch ar “click here to continue”
8.) Bydd y broses o greu cyfrif yn dechrau
9.) Unwaith bod ticiau gwyrdd ar y 5 dewis mae’r broses wedi ei chwblhau
10.) Bydd y sgrin yn dangos enw’ch cyfrif yn ogystal â’ch cyfeiriad e-bost live@edu newydd
11.) Nawr mae gennych fynediad at wasanaethau ar-lein YDDS megis e-bost a’r Amgylcheddau Rhithwir (Moodle & Blackboard) drwy ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Yn achos myfyrwyr sy’n dychwelyd – bydd gennych fynediad at yr hen system e-bost yn ogystal.
DALIER SYLW
MYFYRWYR NEWYDD
I’r rhai sydd heb gwblhau cofrestru, unwaith bod eich proses gofrestru wedi ei chwblhau a’r holl ffurflenni dyledus wedi eu dychwelyd byddwch yn gallu cael mynediad a mewngofnodi i’r wefan uchod i greu’ch cyfrif mynediad.
MYFYRWYR SY’N DYCHWELYD
I’r rhai sydd yn y broses o ailgofrestru, unwaith bod yr holl ffurflenni dyledus wedi eu dychwelyd byddwch yn gallu cael mynediad a mewngofnodi i’r wefan uchod i greu’ch cyfrif mynediad.


