Lluniadau Dwyreiniol Charles Gold
Seremoni Farbaraidd
Yn y ddelwedd hon gwelir mathau amrywiol ar lurgunio a phoen ddefodol hunanachosedig, yr honnir iddynt gael eu cyflawni er clod i Mariatale, Duwies Y Frech Wen. Fry ar adeiladau amgylchynol y deml, yn y portread o wylwyr dynol, ceir parodi ar gerfluniau a ffrisiau temlau.
Mae un o’r ffyddloniaid yn hongian ar bolyn. Sigla yn ôl ac ymlaen ar raffau a gysylltir ag ef trwy fachau metel yn ei gefn, a gwena. Fe’i dynodir fel un o filwyr Tipu gan ei helmed a’i darian. Esbonia Gold ei fod yntau wedi bod yn dyst i’r seremoni yn Negapatam, yn agos at Pondicherry Ffrengig, y ddinas roedd Syr Hector Munro wedi’i chipio oddi ar dad Tipu, Hyder Ali, yn 1781. Awgryma’r ddelwedd fod y dyn yn mwynhau’r poen, tybiaeth a oedd ar led hefyd am Tipu a’i ‘Deigr-filwyr’, fel y’u gelwid. (Nesaf)



