Prif Switsfwrdd
01267 676767
Cyfeiriad E-bost
lleoedd@ydds.ac.uk
Mae cyflwr dirywiedig yn thema amlwg yn llyfr Gold. Yma esbonia fod y dubash yn draddodiadol yn stiwardiaid addysgedig o dras uchel ond eu bod wedi dirywio'n dwyllwyr a fyddai'n glynu wrth "Ewropeaid goddefgar”. Wedyn mae’n aralleirio’r bondigrybwyll Cadfridog Hector Munro, a gyfeiriodd, wrth ymladd yn erbyn gwrthryfel Albanaidd Siarli Landeg yn 1745, at Ucheldirwyr a wisgai ciltiau fel ‘husseys with whiskers’. (Yn India dienyddiodd Munro filwyr brodorol gwrthryfelgar trwy’u clymu ar ddiwedd canon a’u saethu’n ddarnau.) (Nesaf)