Henebion Rhufain yr Hen Fyd
Arrdan gosfa gan Raddedigion Ysgol y Clasuron 2011
Yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bown
Yn yr un modd â strydoedd ac adeiladau Rhufain, mae llyfrau Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn arteffactau hanesyddol, sy’n datguddio i’r rhai chwilfrydig haen ar ôl haen o fywyd gorllewin Ewrop, o’r hen oes glasurol i ddechrau’r cyfnod modern. Yn yr arddangosfa hon defnyddir detholiad bach o'r trysorau hyn i amlinellu hanes pum safle allweddol yn Rhufain: y Colisewm, y Pantheon, Colofn Trajan, y Circus Maximus a Phyramid Cestius.
Gwnaed y gwaith ymchwil a’r paratoi ar gyfer yr arddangosfa gan David Brown, George Everest-Dine, Jennifer Morris, Gareth Rees, Michael Watson, sy’n raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

