Arddangosfa Thomas Phillips
Thomas Phillips a'r Llyfrgell Fach Fwyaf yng Nghymru
I ddathlu'r ffaith ei bod yn 250 mlynedd ers i Thomas Phillips (1760-1851) gael ei eni.
Nod yr arddangosfa hon yw tynnu sylw at ychydig o gyfoeth ac amrywiaeth casgliad Phillips a dathlu’i fywyd. Mae’n cynnwys gweithiau sy’n drysorau cydnabyddedig o ysgolheictod ac o hanes argraffu’r Gorllewin yn ogystal â chyfrolau mwy dinod nad ydynt fymryn yn llai diddorol. Adlewyrchir agweddau ar fywyd a gyrfa Phillips gan y cyfrolau ar anatomeg, Canada, Awstralia, Cwmni India’r Dwyrain, Llundain a Chymru.
Agorch yr Arddangosfa Ar-lein...


