Gwasanaeth Gyrfaoedd - Campws Llambed
Jane Bellis - Ymgynghorydd Gyrfaoedd
Ffôn: 01570 424 973
E-bost: j.bellis@ydrindoddewisant.ac.uk
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar gael i holl fyfyrwyr a chyn fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ei brif bwrpas yw cynorthwyo myfyrwyr i ddynodi eu hamcanion o ran gyrfa trwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth briodol i’w galluogi i weithredu’r amcanion hyn.
Oriau agor
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd ar agor ddydd Llun i ddydd Iau o 9.00am tan 5.00pm a 9.00am tan 4.30pm ddydd Gwener.
Mae Jane Bellis ar gael drwy’r flwyddyn ar gyfer apwyntiadau i drafod:
· Cyfarwyddyd ar yrfaoedd mewn cyfweliadau 1:1 drwy apwyntiad a thrwy alw heibio
· Nodi amcanion o ran gyrfa
· Gweithdrefnau ymgeisio a CVs
· Technegau cyfweliad
· Strategaethau chwilio am waith
· Gweithredu rhaglen GO Wales
· Cyngor gyrfaoedd cyffredinol ynghylch newid cyrsiau a dewisiadau astudio.
Manylion Cysylltu
I gysylltu â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd neu i fwcio apwyntiad E-bostwch
Cymorth Gyda Chwiliad Swyddi a Cheisiadau
Dod o Hyd i Waith Rhan Amser Campws Llambed
Canllaw i Brofiad Gwaith Campws Llambed
GO Wales
I holi am Flas ar Waith neu Leoliadau Gwaith gyda GO Wales, e-bost
gowaleslamp@ydrindoddewisant.ac.uk
Ein Lleoliad
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi’i leoli yn Adeilad Texaco sydd ben draw i’r cae Hoci a nesaf at y Llyfrgell. Lleolir y tîm Gyrfaoedd ar y llawer gwaelod ar y dde gyda mynediad hwylus i gadeiriau olwyn.

Fideo 3J
04.08.2011


