Beth yw'r rheoliadau'n ymwneud â Thechnoleg Gwybodaeth?

Mae'r rheolau ar gyfer defnyddio TG yn y Brifysgol wedi'u cynnwys yn y Polisi Defnydd Derbyniol (PDD) ar gyfer myfyrwyr, ac o fewn dogfennau polisi a gweithdrefnau eraill. Mae'r rhain ar gael ar Fewnrwyd y Brifysgol ac, yn achos y PDD, yng nghefn y llyfryn "Llawlyfr Defnyddwyr Systemau Gwybodaeth" sydd ar gael i bawb. Mae'r llawlyfr hwn yn rhoi manylion pellach ynghylch y cyfarwyddiadau sy'n rhaid eu dilyn. Mae pob defnyddiwr yn gyfrifol am ddarllen a chydymffurfio â chynnwys y dogfennau hyn. Os na ufuddhewch i unrhyw ran o'r rhain yna gall y Brifysgol weithredu camau disgyblu a/neu achos cyfreithiol yn eich erbyn. Yn ychwanegol at hynny, eich cyfrifoldeb chi fel defnyddiwr yw ymgyfarwyddo â deddfwriaeth TG gyfredol a gweithredu'n unol â hynny.