Ysgol Haf Ymchwil 2 a 6 Gorffennaf 2012

Cyn agored i bob un o fyfyrwyr MPhil, PhD, YDDS ar hyn o bryd

Cynhelir yr ysgol haf ymchwil rhwng 2 a 6 Gorffennaf 2012 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed. Mae hwn yn gyfle delfrydol i fyfyrwyr ymchwil ddod i’r Drindod Dewi Sant i gyfarfod â chyfarwyddwyr, eu Hysgolion, y rhwydweithiau cymorth a myfyrwyr ymchwil eraill

Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer yr wythnos gan gynnwys derbyniad croesawu, dosbarthiadau Meistr yn eich Ysgol ynghyd â'r cyfle i gyflwyno papur ar eich ymchwil, gweithdy sgiliau generig, tiwtorialau a gweithdai ymchwil. Yn ychwanegol, bydd cyfle i siarad a chymdeithasu â myfyrwyr ymchwil eraill sy'n gysylltiedig â'r brifysgol.

 Dangosir fersiwn ddrafft o’r rhaglen isod:

Dydd Llun 2 Gorffennaf Derbyniad Cofrestru a Chroesawu
Dydd Mawrth 3 Gorffennaf Dosbarthiadau Meistr yn eich Ysgol ynghyd â Chyflwyniadau
Dydd Mercher 4 Gorffennaf Gweithdai sgiliau generig a Ffug Viva
Dydd Iau 5 Gorffennaf Gweithdai rhyngweithiol
Dydd Gwener 6 Gorffennaf Tiwtorialau

Mae’r Ysgol Ymchwil hefyd wedi trefnu digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer y noson gan gynnwys siaradwr gwadd, pryd o fwyd mewn tafarn, a thwmpath dawns traddodiadol.

Os hoffech archebu lle ar gyfer yr ysgol haf, llenwch y ffurflenni archebu:

Summer School Booking Form word

Ebost: pgresearch@ydds.ac.uk neu anfonwch hwy trwy’r post i’r cyfeiriad canlynol:

Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Campws Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
Cymru SA48 7ED

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth am y digwyddiad mae croeso i chi gysylltu naill ai â’ch cyfarwyddwr neu â’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn pgresearch@ydds.ac.uk neu ar 01570 424900.