Meysydd Ymchwil
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod eang o feysydd ymchwil ôl-raddedig amser llawn a rhan-amser yn y Dyniaethau. Mae’r disgyblaethau’n cwmpasu ystod eang gan gynnwys y Clasuron, Hanes, Archaeoleg, Anthropoleg, Ffilm a’r Cyfryngau a Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd.
Mae’r Brifysgol yn cynnig hyblygrwydd o ran cyfleoedd i astudio’n rhan-amser ac i ddysgu o bell. Gweler rhestr o’r adrannau
Bydd y Disgrifiadau Ymchwil isod o gymorth i chi wrth benderfynu ar y cyfleoedd gorau i’ch maes ymchwil chi. Darllenwch Lawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol i gael rhagor o fanylion ynghylch y meini prawf ar gyfer dethol.
Meistr mewn Athroniaeth – MPhil
Mae’r MPhil ar gael yn y meysydd canlynol:
Meistr mewn Athroniaeth
Dyfernir gradd Meistr mewn Athroniaeth i gydnabod cwblhad llwyddiannus rhaglen ymchwil ac astudiaeth bellach. Er mwyn cymhwyso ar gyfer MPhil rhaid i fyfyriwr gwblhau’n llwyddiannus a chyflwyno traethawd ymchwil rhwng 55,000 a 65,000 o eiriau.
Meistr mewn Athroniaeth trwy Ymarfer Proffesiynol
MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol MPhil mewn Ymarfer y CyfryngauBydd union natur y gwaith creadigol yn amrywio yn ôl natur y ddisgyblaeth. Bydd angen i ymgeiswyr ddiffinio’r fethodoleg sy’n seiliedig ar arfer ac a fydd yn cynnwys y prosesau a’r arferion a ddefnyddiwyd wrth ddychmygu, cynllunio, gwireddu a gwerthuso’r gwaith creadigol. Mae dau MPhil ar gael trwy Ymarfer Proffesiynol:
MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol
Yn achos yr MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol, bydd y broses greadigol yn cynnwys prosesau ysgrifennu cynhyrchiol - creu storïau, cerddi, nofelau, sgriptiau newydd.
MPhil mewn Ymarfer y Cyfryngau
Yn achos yr MPhil mewn Ymarfer y Cyfryngau, bydd y broses greadigol yn cynnwys creu cynhyrchiad a fydd yn deillio o gymhwyso’r fethodoleg sy’n seiliedig ar arfer, a gallai gynnwys unrhyw gyfuniad o destun, gwrthrych, perfformiad, neu gymhwysiad.
Meistr mewn Athroniaeth mewn Archaeoleg Gymhwysol
Rhaid i’r gwaith/gweithiau a gyflwynir wneud cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth, a bodloni’r meini prawf ar gyfer dyfarnu’r Radd, fel rheol ni ddylai gweithiau a gyflwynir i’w harholi fod wedi’u cyhoeddi fwy na deng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru. Gellir diffinio ‘gweithiau cyhoeddedig’ yn weithiau sydd yn eiddo i’r cyhoedd (neu sydd o leiaf wedi cael eu derbyn i’w cyhoeddi, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn gallu darparu prawf digonol o hynny) neu waith ysgrifenedig a luniwyd trwy weithgareddau proffesiynol arferol. Mae’n rhaid bod y darnau hyn o waith wedi cael eu cyhoeddi mewn modd sy’n sicrhau eu bod ar gael yn gyffredinol i ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb edrych arnynt, a bod modd cael gafael arnynt mewn catalogau cyffredin.
Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn gradd Doethur mewn Athroniaeth, rhaid i ymgeiswyr gwblhau rhaglen ymchwil ac astudiaeth bellach yn llwyddiannus. Rhaid barnu bod canlyniadau’r rhaglen yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at ddysg ac yn rhoi tystiolaeth o astudiaeth systematig a gallu i gysylltu canlyniadau’r fath astudiaeth â’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y pwnc. Asesir graddau o’r fath trwy gyfrwng traethawd ymchwil a ddylai fel rheol fod rhwng 80,000 a 100,000 o eiriau.
Yn y lle cyntaf bydd ymgeiswyr yn cofrestru ar raglen Meistr mewn Athroniaeth, ac yn dilyn rhaglen astudio o dan gyfarwyddyd, gan gynnwys datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau generig. Ar yr amod eu bod yn cyflawni gofynion gradd Meistr mewn Athroniaeth yn llwyddiannus, caiff ymgeiswyr eu trosglwyddo wedyn i raglen gradd Doethur mewn Athroniaeth. Dyma’r cyfnodau hwyaf a lleiaf ar gyfer astudio dan gyfarwyddyd, o’r dyddiad cofrestru gwreiddiol:
Ymgeiswyr amser llawn
Lleiafswm o dair blynedd ac uchafswm o bum mlynedd, gan drosglwyddo fel arfer o MPhil i PhD ar ddechrau’r ail flwyddyn.
Ymgeiswyr rhan-amser
Lleiafswm o bum mlynedd ac uchafswm o naw mlynedd, gan drosglwyddo fel arfer o MPhil i PhD ar ddechrau’r drydedd flwyddyn.
Ystyrir cyfnod cychwynnol yr astudiaeth ymchwil, sef y cyfnod MPhil, yn gyfnod prawf pan fydd disgwyl i’r ymgeiswyr ddangos gallu i barhau ag ymchwil pellach.
Doethur mewn Athroniaeth trwy Ymarfer Proffesiynol
Gradd Doethur mewn Athroniaeth trwy Ymarfer Proffesiynol a gynigir gan y Brifysgol, gan gynnwys:
PhD mewn Ysgrifennu Creadigol; PhD trwy Ymarfer y Cyfryngau
Dyfernir gradd Doethur mewn Athroniaeth trwy Ymarfer Proffesiynol i gydnabod cwblhad llwyddiannus darn o waith creadigol a/neu gynhyrchiad proffesiynol (megis drama lwyfan) ynghyd â rhaglen astudiaeth ymchwil. Bydd union natur y gwaith creadigol yn amrywio yn ôl natur y ddisgyblaeth. Bydd angen i ymgeiswyr ddiffinio’r fethodoleg sy’n seiliedig ar arfer ac a fydd yn cynnwys y prosesau a’r arferion a ddefnyddir wrth ddychmygu, cynllunio, gwireddu a gwerthuso’r gwaith creadigol.
PhD mewn Ysgrifennu Creadigol
Bydd y broses greadigol yn cynnwys prosesau ysgrifennu cynhyrchiol - creu storïau, cerddi, nofelau, sgriptiau newydd.
PhD trwy Ymarfer y Cyfryngau
Bydd y broses greadigol yn cynnwys creu cynhyrchiad a fydd yn deillio o gymhwyso’r fethodoleg sy’n seiliedig ar arfer, a gallai gynnwys unrhyw gyfuniad o destun, gwrthrych, perfformiad, neu gymhwysiad.
Doethur mewn Gweinidogaeth (DMin)
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn gradd Doethur mewn Athroniaeth trwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil, rhaid i ymgeiswyr gwblhau rhaglen Lefel 8 yn llwyddiannus â chyfanswm o 540 o gredydau (Meistr mewn Gweinidogaeth MMin). Bydd rhaglenni o’r fath yn cynnwys nifer o fodylau a addysgir gwerth cyfanswm o 180 o gredydau, hynny yw traean y dyfarniad, gydag astudiaeth ymchwil i ddilyn sy’n gyfwerth â dwy ran o dair yr ymchwil a gysylltir â gradd doethur trwy ymchwil yn unig.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau Rhan I (MMin), sef yr elfen a addysgir, yn llwyddiannus, cyn cael parhau i Ran II (DMin), sef yr astudiaeth ymchwil. Pen draw’r astudiaeth ymchwil fydd traethawd ymchwil a ddylai fod rhwng 50,000 a 60,000 o eiriau, gan gynnwys y troednodiadau a’r llyfryddiaeth ond ac eithrio’r atodiadau. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau Rhan I a Rhan II yn llwyddiannus er mwyn bod yn gymwys i dderbyn gradd Doethur mewn Athroniaeth trwy arholiad a thraethawd ymchwil.
Doethur mewn Athroniaeth trwy Weithiau Cyhoeddedig
Gellir diffinio ‘gweithiau cyhoeddedig’ yn weithiau sydd yn eiddo i’r cyhoedd (neu sydd o leiaf wedi cael eu derbyn i’w cyhoeddi, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn gallu darparu prawf digonol o hynny) neu waith ysgrifenedig a luniwyd trwy weithgareddau proffesiynol arferol. Mae’n rhaid bod y darnau hyn o waith wedi cael eu cyhoeddi mewn modd sy’n sicrhau eu bod ar gael yn gyffredinol i ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb edrych arnynt, a bod modd cael gafael arnynt mewn catalogau cyffredin. Mae’r enghreifftiau o weithiau cyhoeddedig cymwys yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r rhestr hon:
Papurau academaidd; Erthyglau mewn cyfnodolion; Monograffau; Adroddiadau Proffesiynol; Adroddiadau technegol: Penodau mewn llyfrau; Gwerslyfrau ysgolheigaidd; Llyfrau unigol.Gall ymgeiswyr gyflwyno gwaith/gweithiau a gynhyrchwyd ar y cyd ag eraill i gefnogi eu hymgeisyddiaeth, ond gyda gwaith o’r fath rhaid cael datganiad wedi’i lofnodi gan bob cydawdur sy’n nodi natur a maint y gwaith a gwblhawyd gan yr ymgeisydd.
Rhaid i’r gwaith cyhoeddedig a gyflwynir ar gyfer y radd ffurfio corff o gyhoeddiadau neu adroddiadau proffesiynol sy’n arwain at draethawd cydlynol, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau digyswllt.
Doethuriaeth Broffesiynol mewn Diwinyddiaeth Ymarferol
Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Diwinyddiaeth Ymarferol yn cynnwys dwy elfen, Rhan I a Rhan II
Rhan I
strwythuro ac adeiladu’r gallu i adfyfyrio ar ymarfer ar lefel uwch;
datblygu sgiliau ymchwil sy’n briodol i faes Diwinyddiaeth Ymarferol a sgiliau cyflwyno er mwyn cyhoeddi’r ymchwil hwn;
meithrin cryn hunanystyriaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o’u sgiliau, eu hadnoddau a’u hymarfer fel ymchwilwyr uwch;
datblygu cynllun ymchwil addas ar gyfer symud ymlaen i Ran II.
Rhan II
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau Rhan I yn llwyddiannus, sef yr elfen a addysgir, cyn cael symud ymlaen i Ran II, sef yr astudiaeth ymchwil. Pen draw’r astudiaeth ymchwil fydd traethawd ymchwil, rhwng 50,000 a 60,000 o eiriau, gan gynnwys y troednodiadau a’r llyfryddiaeth ond ac eithrio’r atodiadau.
Trwydded Ôl-ddoethurol
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal astudiaeth ymchwil ar destun y cytunir arno ar lefel doethuriaeth. Yn ogystal rhaid sicrhau o leiaf un cyhoeddiad a adolygir gan gymheiriaid mewn cyfnodolyn ysgolheigaidd o ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol, neu gyfres gyhoeddi arall o safon gyffelyb sy’n seiliedig ar yr ymchwil hwn. Yn ystod y rhaglen, mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr wneud un cyflwyniad o’u hymchwil ar ffurf papur ysgolheigaidd i seminar yn y Brifysgol ac ail gyflwyniad o’u hymchwil ar ffurf papur ysgolheigaidd i seminar a gynhelir mewn Prifysgol arall neu leoliad ysgolheigaidd allanol priodol. Cyn cofrestru, rhaid bod yr ymgeiswyr am y Drwydded wedi ennill gradd doethur neu gymhwyster cyfwerth.
Cysylltu â Ni
Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig
Prifysgol Cymru
Y Drindod Dewi Sant
Campws Llambed
Ceredigion
Cymru, SA48 7ED
ffôn +44 (0) 1570 424900
Ebost:
postgradresearch
@ydds.ac.uk

