MBA Rheolaeth y Celfyddydau Broffesiynol - Lefel 7

Mae’r MBA mewn Rheolaeth Celfyddydau Broffesiynol yn anelu at roi i fyfyrwyr ddealltwriaeth integredig a beirniadol ymwybodol o Reolaeth Celfyddydau, a’u cynorthwyo i ddod yn Rheolwyr Celfyddydau effeithiol.
Mae’n cynnig y cyfle i alluogi ymarferwyr celfyddydau i ennill cymhwyster allai arwain at ddod yn rheolydd o’r safon uchaf yn y sector celfyddydau neu i fynd yn hunan gyflogedig.
Mae’r MBA, sy’n cynnig gwybodaeth busnes & dealltwriaeth ariannol ar lefel uwch, hefyd yn anelu at roi ichi’r medrau ymarferol sydd eu hangen arnoch i redeg busnes. Ceir cyfle hefyd i rannu gwybodaeth gyda chymheiriaid yn yr Iwerddon, ac i gael gwybod am wahanol arlliwiau’r ddau ddiwylliant.
Cefndir
Mae’r MBA yn cael ei redeg trwy CORACLE, sy’n Brosiect Interreg 4a.
O dan arweiniad Y Drindod Dewi Sant, mae CORACLE yn cynnwys partneriaeth rhwng:
Prifysgol Cymru – Y Drindod Dewi Sant
Cyngor Sir Caerfyrddin
IT Carlow (Campws Wexford)
Cyngor Sir Wexford
Canolfan y Celfyddydau Wexford
Mae gan yr holl bartneriaid rolau penodol i’w chwarae o ran gwella medrau a gwybodaeth ym maes celfyddyd a diwylliant - cysylltu creadigrwydd, gan gynnwys oriel, gwyl a chyfnewidiadau llenyddol & datblygu theatr ieuenctid a medrau cysylltiol.
YDDS & IT Carlow yw’r prif bartneriaid ar gyfer yr MBA.
Am bwy ydyn ni’n chwilio?
- Ymarferwyr celfyddydol unigol
- Rheolwyr canolfannau; orielau; gwyliau (e.e.)
- Graddedigion
Y gofynion mynediad ar gyfer rhaglen ôl-radd yw gradd neu gymhwyster proffesiynol sy’n cael ei ystyried gyfwerth. Gellir derbyn ymgeisydd heb radd ar yr amod ei fod ef/bod hi wedi gweithio, am o leiaf 2 flynedd, mewn swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun dan sylw neu sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus Raglen Mynediad Meistr y Brifysgol (MEP).
Dewisir ymgeiswyr trwy CV & chyfweliad.
Mae croeso arbennig i geisiadau gan fyfyrwyr ag anableddau.
Beth mae’n ei olygu?
- Llawn amser am flwyddyn
- Rhan amser dros 2 flynedd
- Gwaith caled, ymroddiad & aberth
- Oriau hir a meddwl dwys
- Nod cyraeddadwy trwy waith caled
- Boddhad gyda’r hyn a gyflawnwyd
- Ewfforia wedi ichi lwyddo
Y Prif Feysydd yr ymdrinnir â nhw:
- Mae’r modylau gosod fel a ganlyn:-
- Rheolaeth Ariannol (10 credyd)
- Rheolaeth Adnoddau Dynol (10)
- Rheolaeth Marchnata (10)
- Rheolaeth Strategol (10)
- Unigolion mewn Sefydliadau (10)
- Ymddygiad Sefydliadol (10)
- Methodoleg Ymchwil (20)
Mae modylau Llwybr ar gael mewn:-
- Diwylliannaeth (10)
- Ariannu’r Celfyddydau (10)
- Busnes Creadigrwydd (10)
- Prosiect (10) – Dysgu seiliedig ar arfer
- Y gwaith terfynol fydd traethawd hir gwerth 60 credyd
Cyfanswm – 180 credyd
Cyrsiau Byrion
Rydym yn bwriadu cynnal cyfres o gyrsiau byrion cyn yr MBA sy’n cael eu hanelu at y rhai ohonoch sydd wedi bod allan o’r byd academaidd ers tro ac sydd angen cyfleoedd gloywi ac ar gyfer y rhai ohonoch sydd mewn swyddi rheoli ac a fyddai’n falch o gael blas o weithio ar AU Lefel 7. Bydd manylion y cyrsiau hyn yn cael eu cyhoeddi unwaith y cytunwyd y rhaglen.
Mwy o wybodaeth
Mae crynodebau o’r hyn sydd dan sylw, a’r trefniadau ar gyfer cofrestru, ar gael trwy ofyn amdanynt.
Manylion cysylltu:- huw.thomas@tsd.ac.uk neu ffoniwch:- 01570 424726


