MA Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Campws Caerfyrddin
Meithrin ansawdd ac amrywiaeth...
Rhaglen sydd wedi’i hardystio gan y proffesiwn, ag iddi fframwaith academaidd gadarn yn sail i’r cyfan
- Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Lleoliadau gwaith yn rhan annatod o’r rhaglen
- Y ddarpariaeth yn cydymffurfio ag amcanion, gwerthoedd ac egwyddorion craidd Gwaith Ieuenctid
Am y cwrs
Mae’r MA Gwaith Ieuenctid a Chymuned ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn rhaglen arloesol a ddatblygwyd i gyfoethogi’r gweithlu ym maes gwaith ieuenctid. Mae’r rhaglen, sy’n seiliedig ar arfer proffesiynol, yn cynnwys dau lwybr diploma ôl-radd. Lluniwyd y Llwybr Cymhwyso Proffesiynol i arwain at gymhwyster proffesiynol ar gyfer y sawl sydd â gradd gysylltiedig a/neu brofiad perthnasol o addysg anffurfiol neu waith ieuenctid. Mae’r Llwybr Academaidd yn cynnig cyfle am ddatblygiad proffesiynol i’r sawl sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid a chymuned. Bydd cwblhau’r naill lwybr neu’r llall yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen at y rhaglen MA llawn.
Mae’r Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol, yn ei darpariaeth i israddedigion a graddedigion, yn darparu llwybrau hyblyg o ansawdd uchel i fyfyrwyr sydd â diddordeb ym maes Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn Ne Orllewin Cymru a’r tu hwnt. Cydnabyddir yr Ardystiad Proffesiynol yn rhyngwladol. Mae’r Ysgol, trwy ei darpariaeth, yn gwneud ymrwymiad cryf i ddatblygu a chyfoethogi’r gronfa wybodaeth a gweithlu’r dyfodol ym maes Gwaith Ieuenctid, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Llwybr Ôl Gymhwyso
- O Bolisi Gwaith Ieuenctid i Arfer Gwaith Ieuenctid
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Cyd-destun
- Pedagogeg Gymdeithasol
- Archwilio’r Dilemâu Seicolegol a Chymdeithasol i Oedolion Ifanc mewn Economi sy’n Newid
- Traethawd Hir Llwybr Cymhwyso Cychwynnol
- Astudiaethau Proffesiynol
- Arfer Gwaith Maes - i barhau ym Mlwyddyn 2
- Pedagogeg Gymdeithasol
- Archwilio’r Dilemâu Seicolegol a Chymdeithasol i Oedolion Ifanc mewn Economi sy’n Newid
- Traethawd Hir
Pam astudio yn y Brifysgol hon?
- Staff brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sydd â chymhwyster proffesiynol ym maes Gwaith Ieuenctid a Chymuned
- Ffocws ymarferol a galwedigaethol y cwrs
- Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol yr unigolyn
- Cymorth ac arweiniad ardderchog ar yrfaoedd
- Addysgir grwpiau bach mewn amgylchedd dysgu cefnogol
Ffïoedd
Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – cysylltwch â ni am wybodaeth.
Sut mae gwneud cais
Rhagor o wybodaeth
Dylid anfon ymholiadau cychwynnol at
gwaithieuenctid@ydrindoddewisant.ac.uk
01267 676686
Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol

