MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd
Manteisia’r radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y maes. Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn rhan o rwydwaith ymestynnol o sefydliadau ar draws Ewrop lle mae dwyieithrwydd, amlieithrwydd a chynllunio iaith yn nodwedd feunyddiol.
Oddi ar sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, rhoddwyd ffocws newydd i’r ymdrechion i ddiogelu ac adfer y Gymraeg, ac ystyrir creu Cymru ddwyieithog yn nod cenedlaethol cyraeddadwy. Gosod y datblygiadau cyffrous hyn yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd.
Y radd hon yw’r un gyntaf o’i bath yn Ewrop ac mae’n rhan o genhadaeth y Brifysgol i gyfrannu at y bwrlwm cyffrous o weithgareddau ym maes cynllunio iaith a datblygiad dwyieithrwydd / amlieithrwydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
At bwy yr anelir y radd
Nod y radd yw arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth gefndirol a’r sgiliau angenrheidiol i fedru gweithio’n hyderus ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith. Mae’r cwrs yn cynnig ystod eang o brofiadau ac, felly, bydd yn apelio at unrhyw un sydd yn gysylltiedig â datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg ac / neu ieithoedd eraill yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys, er enghraifft:
- Athrawon a Hyfforddwyr
- Cyfieithwyr
- Gweithwyr Ieuenctid / Cymunedol
- Swyddogion Iaith
- Swyddogion y Llywodraeth / Llunwyr Polisi
Y mae ffocws y radd yn eang ac, felly, mae’n addas ar gyfer ystod o feysydd
proffesiynol.
Cynnwys y Cwrs
Gall y radd gynnig llwybrau gwahanol sydd yn ateb gofynion galwedigaethol a phroffesiynol amrywiol. Cynhwysa bum modwl a thraethawd tua 20,000 o eiriau. Gellir dewis amrywiaeth o fodylau yn ôl anghenion personol gan gynnwys y canlynol, er enghraifft:-
- Cyflwyniad i Ddwyieithrwydd / Amlieithrwydd
- Dwyieithrwydd / Amlieithrwydd Cymdeithasol (agweddau gwleidyddol ar fywiogrwydd iaith)
- Agweddau Deallusol a Gwybyddol ar Ddwyieithrwydd / Amlieithrwydd
- Datblygiad Addysg Ddwyieithog yng Nghymru
- Dwyieithrwydd / Amlieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar
- Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog / Amlieithog
- Hanfodion Cynllunio Iaith
- Hyrwyddo’r Gymraeg
- Natur Ymchwil
Testun o ddewis y myfyriwr / fyfyrwraig ei hun fydd y traethawd a fydd yn seiliedig ar agweddau a astudiwyd yn y modylau, ond a gymeradwyir gan y Brifysgol ymlaen llaw. Disgwylir y rhydd hynny gyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwil a fydd yn berthnasol i’w galwedigaeth ac yn hyrwyddo’u datblygiad proffesiynol.
Er i strwythur y radd ganiatáu astudio un modwl yn unig, drwy gwblhau tri modwl yn llwyddiannus gall myfyrwyr fod yn gymwys ar gyfer ennill Tystysgrif Ôl-raddedig Prifysgol Cymru mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, a Diploma Ôl-raddedig Prifysgol Cymru mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd drwy gwblhau pum modwl. Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau’r traethawd hir ychwanegol ar gyfer y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd.
Dull Astudio
Gellir astudio yn rhan-amser dros gyfnod o bedair blynedd, yn amser-llawn dros gyfnod o ddwy flynedd, ar y campws neu drwy ddysgu o bell.
Pam astudio’r radd hon yn y Drindod Dewi Sant?
- Mae gan y Brifysgol arbenigedd eang ynghyd â phroffil ymchwil cryf ym maes cynllunio iaith a dwyieithrwydd
- Mae’r Brifysgol yn rhan o rwydwaith o sefydliadau ar draws Ewrop sy’n ymwneud â dwyieithrwydd, amlieithrwydd a chynllunio iaith a gwneir y defnydd mwyaf o gyfleoedd i gydweithio a chyfnewid gwybodaeth
- Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes sydd yn ein galluogi i gynnig ystod o fodylau i gwrdd â gofynion datblygiad proffesiynol a diddordebau personol
Manyleb y Rhaglen
Amcanion y Rhaglen
Mae’r rhaglen yn anelu at:
- ddarparu ystod o agweddau ar faes dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yng Nghymru a chyd-destunau rhyngwladol;
- ddatblygu gallu myfyrwyr i ddadansoddi’n feirniadol y ffactorau amrywiol sydd ymhlŷg ag astudio dwyieithrwydd/amlieithrwydd ac i berthnasu’r ffactorau hynny â chyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol;
- ddarparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol;
- gyflwyno i fyfyrwyr y syniadaeth a’r ymchwil mwyaf perthnasol yn y maes sydd yn sail i’r damcaniaethau a’r doethineb diweddaraf;
- ddatblygu medrau trosglwyddadwy myfyrwyr a’u gallu i ymchwilio, dehongli a gwerthuso’n feirniadol;
- ddatblygu medrau gwybyddol myfyrwyr gan gynnwys eu gallu i resymu, dadansoddi’n feirniadol, yn ogystal â meddwl yn greadigol gan arfarnu unrhyw bolisïau presennol ym maes dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a chynnig gwelliannau.
Deilliannau Dysgu
Gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau perthnasol
Ar ôl gorffen y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, disgwylir y bydd myfyrwyr wedi datblygu’r wybodaeth, y deall a’r medrau canlynol ar y lefel Addysg Uwch briodol:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol am gyd-destunau ieithyddol a diwylliannol eraill ar lefel ryngwladol mewn cymunedau a chymdeithasau lle mae dwyieithrwydd /amlieithrwydd yn bodoli ac a fydd yn galluogi myfyrwyr i’w cymharu a’u cyferbynnu â’u cyd-destunau ieithyddol eu hunain gan ddatblygu sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth o’r tebygrwydd neu’r anhebygrwydd ieithyddol sydd rhyngddynt.
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth rhyngddiwylliannol. Drwy ddatblygu’r gallu i ddadansoddi’n feirniadol y ffactorau amrywiol sy’n rhan annatod o fywiogrwydd ieithoedd lleiafrifol megis y Gymraeg, disgwylir y bydd myfyrwyr â pharch at sefyllfaoedd cyffelyb ar lefel ryngwladol.
- Dealltwriaeth feirniadol o’r polisïau a ymarferir mewn cyd-destunau ieithyddol gwledydd amrywiol.
- Y gallu i werthuso’n feirniadol y ffactorau a allai ddylanwadu’n gadarnhaol neu’n negyddol yn y dyfodol ar fywiogrwydd eu mamiaith a’u diwylliant eu hunain, gan gynnwys, er enghraifft, bolisïau awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus mewn perthynas ag economeg a thai.
- Gwybodaeth am ystod o derminoleg arbenigol sydd yn ymwneud â gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd /amlieithrwydd gan gynnwys agweddau megis sosio-ieithyddiaeth, seico-ieithyddiaeth, cynllunio ieithyddol, caffaeliad iaith a’u rôl, er enghraifft, mewn perthynas â chyfundrefnau addysgol.
- Gwybodaeth drylwyr am y prif fframweithiau cysyniadol a’r ymchwil ddiweddaraf sydd yn bodoli ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd, ynghyd â’r gallu i bwyso a mesur rhagoriaethau a gwendidau syniadau, esboniadau a thystiolaethau gwrthgyferbyniol.
- Dealltwriaeth o ddadansoddiadau amgen o ddata a’r gallu i wneud gwerthusiad gwybodus o’r rheiny.
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y ffactorau amrywiol a all ddylanwadu ar fywiogrwydd iaith gan gynnwys ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol.
- Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu hunaniaeth genedlaethol.
- Medrau technolegol a fo’n addas i’r ddisgyblaeth, megis llunio llyfryddiaethau a chyfeirio at ffynonellau mewn modd safonol a chyson.
- Y gallu i gymhwyso fframweithiau cysyniadol a dadansoddol cydnabyddedig at ddata newydd.
- Y gallu i ddehongli data a dadansoddiadau meintiol ac ansoddol a gyflwynir drwy gyfrwng graffau, tablau ac ati, ac i gyflwyno data tebyg eu hunain yn yr un modd.
Medrau Gwybyddol
Caniatâ’r medrau gwybyddol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- fyfyrio’n feirniadol yng ngoleuni tystiolaeth a safbwyntiau amrywiol;
- gasglu, crynhoi, cyfosod a chymathu gwybodaeth o wahanol ffynonellau ysgrifenedig, llafar ac electronig, eu gwerthuso’n feirniadol a chreu crynodeb cydlynol;
- drefnu a chyflwyno syniadau o fewn fframwaith safbwynt strwythuredig a rhesymegol;
- feddwl yn ddadansoddol ac yn werthusol;
- arnodi, disgrifio a dadansoddi problemau ac i ddyfeisio strategaethau addas ar gyfer eu datrys;
- ddangos dealltwriaeth o faterion allweddol a phroblemau ac i benderfynu pa fath o ddata i gasglu er mwyn eu datrys;
- gyflwyno/ddatgan tystiolaeth berthnasol ac i ddefnyddio’r data priodol sydd eisoes ar gael er mwyn datrys problemau.
Medrau Proffesiynol/Galwedigaethol
Galluoga’r medrau proffesiynol/galwedigaethol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- gwrdd â’r her sy’n wynebu unigolion ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith;
- ymgymryd â phrosiectau sy’n ymwneud ag amryw agweddau ar y maes;
- gynnal ymchwil unigol ac, fel rhan o dîm, i hyrwyddo cynlluniau a strategaethau ieithyddol;
- ddadansoddi a dehongli data sy’n ymwneud ag amryw ddatblygiadau;
- ddangos hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh mewn cyflwyniadau ac wrth gyfathrebu.
Medrau Allweddol Trosglwyddadwy
Galluoga’r medrau allweddol a gysylltir â’r rhaglen hon fyfyrwyr i:
- ddefnyddio TGCh yn effeithiol fel modd i gyfathrebu, fel cyfrwng dysgu ac ymchwilio, ac i greu dogfennaeth drefnus a safonol;
- drosglwyddo gwybodaeth, syniadau a dadleuon yn argyhoeddedig a rhesymegol ar lafar ac yn ysgrifenedig;
- feithrin ymhellach eu sgiliau dadansoddi a datrys problemau;
- fabwysiadu methodolegau amrywiol a phwrpasol ar gyfer cynnal ymchwil gan asesu eu heffeithiolrwydd a’u manteision ac anfanteision ymarferol a thechnolegol unigol;
- ysgrifennu traethodau gan ddefnyddio ieithwedd bwrpasol a chyfeiriadaeth gywir;
- reoli eu haddysg mewn modd hunan-feirniadol, i feddwl ac i weithio’n annibynnol gan wneud defnydd effeithiol ac effeithlon o’u hamser;
- gynllunio a chynnal archwiliad neu ddarn o ymchwil gyda’r lleiafswm o gymorth neu yn gwbl annibynnol;
- gymryd rhan mewn trafodaethau ysgolheigaidd ac i gyflwyno syniadaeth naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig mewn dogfennaeth a ddengys sgiliau uwch mewn llythrennedd.
Ffïoedd
Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – cysylltwch â ni am wybodaeth. Ffioedd Dysgu
Gall fod grantiau ac ysgoloriaethau ar gael ar gyfer darparu cymorth ariannol.
Sut mae gwneud cais
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cysylltwch â:
Dr Hywel Glyn Lewis
Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd
01267 676680
h.lewis@ydrindoddewisant.ac.uk
neu ffoniwch: 0300-500-1822
Canllaw yw'r wybodaeth hon. Cysylltwch â ni i drafod y cwrs yn fanylach.

