MA Astudiaethau Celtaidd
Cynlluniwyd y radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ehangu eu gwybodaeth am y diwylliannau Celtaidd, ennill cymhwyster ôl-radd ac astudio wrth eu pwysau yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’r cynllun gradd hyblyg hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis astudio nifer o bynciau ieithyddol, hanesyddol a llenyddol o bell (e.e. y Celtiaid: O’r Cychwyn hyd y Cyfnod Modern, Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o’r Gwledydd Celtaidd, Hanes Sosioieithyddol y Gymraeg, y Mabinogi, Arthur y Celtiaid, Bywyd Gwerin Cymru, Cyfieithu ac Isdeitlo).
Er bod gwybodaeth o’r ieithoedd Celtaidd yn fanteisiol, nid yw’n hollol angenrheidiol. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddilyn y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Paratowyd y cyrsiau gan arbenigwyr yn y gwahanol feysydd a rhoddir cyfarwyddyd i chi gan diwtoriaid personol sy’n cysylltu â chi trwy e-bost.
Modiwlau Dewisol MA:
Sgiliau Astudio ac Ymchwilio
Y Celtiaid: O’r Cychwyn hyd y Cyfnod Modern
Y Mabinogi
Arthur y Celtiaid
Y Ferch yn yr Oesoedd Canol
Cwlt y Forwyn Fair yn y Gwledydd Celtaidd
Bywyd Gwerin Cymru
Hanes Sosioieithyddol yr Ieithoedd Celtaidd
Sieffre o Fynwy a’r Traddodiadau am Hanes Prydain
Mynegiant i Raddedigion
Cyfieithu ac Isdeitlo
Modiwlau Dewisol (lefel 6):
Santesau Cymru
Tywysogion Cymru: Llywelyn ap Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd
Hanes Sosioieithyddol y Gymraeg
Gerallt Gymro
Ffïoedd
Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – cysylltwch â ni am wybodaeth. Ffioedd Dysgu
Sut mae gwneud cais
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cysylltwch â:
Dr Jane Cartwright
Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd
E-bost: j.cartwright@ydrindoddewisant.ac.uk

