MA Arfer Proffesiynol
Campws Caerfyrddin
Am y cwrs
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd dilyniant i ddysgwyr sydd wedi ennill gradd gyntaf mewn Arfer Proffesiynol neu mewn unrhyw ddisgyblaeth academaidd arall. Mae cymhwyster ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol yn cyfuno astudio academaidd â dysgu yn y gweithle i ddarparu pobl â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau perthnasol iddynt allu gwella perfformiad yn y gwaith.
Sut mae’n gweithio?
Bydd gofyn i ddysgwyr astudio ar gyfer 60, 120 neu 180 credyd ar lefel Meistr gan ddibynnu ar ba gymhwyster maent yn anelu ato. Bydd pob dysgwr yn cydweithio ag Ymgynghorydd Rhaglen i ddynodi rhaglen astudio gydlynol. Dangosir manylion llawn y modylau ar dudalen y Dystysgrif Addysg Uwch. Yn gyffredinol ni all dysgwyr weithio tuag at yr un deilliannau dysgu ag yn eu hastudiaethau israddedig, ond gallant gynhyrchu Cynllun Rhaglen Dysgu yn y Gwaith newydd a thrafod Prosiect Dysgu yn y Gwaith gwahanol neu Astudiaeth Annibynnol wahanol ar y lefel hon. Hefyd gall dysgwyr gwblhau unrhyw fodylau eraill sy’n berthnasol i’w gwaith o’r cwricwlwm ôlraddedig a gynigir gan y Drindod, ac efallai y bydd dysgwyr newydd yn dymuno gwneud hawliad am Achredu Dysgu Blaenorol ar gyfer modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu.
Modylau
- Cydnabod ac Achredu Dysgu RAL700 (15 credyd)
- Cynllun Rhaglen Dysgu yn y Gwaith (LtW) WBL701 (15 credyd)
- Gweithio a Dysgu: cyflwyniad i addysg uwch yn y gwaith (LtW) WBL702 (15 credyd)
- Dulliau Ymchwil ar gyfer Dysgu yn y Gwaith (LtW) WBL703 (15 credyd)
- Gwella Effeithiolrwydd Personol yn y Gwaith (LtW) WBL704 (15 credyd)
- Cyflwyniad i Fentora WBL705 (20 credyd)
- Prosiect Dysgu yn y Gwaith WBL706/707/708 (30/45/60 credyd)
- Rheoli Prosiectau WBL718 (20 credyd)
- Cynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith WBL70 (20 credyd)
- Dysgu ar gyfer Datblygu WBL723 (20 credyd)
- Astudiaeth Annibynnol WBL725/726/727 (10/20/30 credyd)
Faint yw’r ffioedd?
Adolygir y ffïoedd yn flynyddol – cysylltwch â ni am fanylion.
Sut mae gwneud cais?
Cysylltwch â’r Gofrestrfa am ffurflen gais
01267 676767
cofrestrfa@ydrindoddewisant.ac.uk

